BBC HomeExplore the BBC

LLUN
28ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Rhai o'r actorion yn Llundain wedi bod yn gweld 'Blood Brothers' (Willy Russell) Doniau Ifanc
Tachwedd 2005
Y Tincer yn edrych 'mlaen at noson o berfformio gyda doniau ifanc yr ardal.

Mae'n arfer bellach i ni gael noson o berfformio gan ddoniau ifanc yr ardal. Maent wedi bod yn brysur yn ystod y flwyddyn yn cael gwahoddiad i berfformio yn Eisteddfod yr Urdd a chael y profiad arbennig o actio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mae rhai o'r cwmni yn actio a dawnsio gyda grwpiau yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a chael bod yn rhan yn y sioe gerdd 'Oliver' yn ystod yr haf.

Bu Lisa Healy, Sian Price, a Rhian Dobson yn cystadlu yng ngwyliau drama Corwen a Phontrhydfendigaid - cael y wobr gyntaf yng Nghorwen a chroeso mawr; trydydd yn y Bont a Lisa yn cael y wobr am y brif actores o dan 25.

Mae'r merched a Rhodri Evans yn llwyddianus mewn Eisteddfodau o gwmpas Cymru a chafodd Rhodri y wobr gyntaf am yr unawd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd y noson yn cynnwys amrywiaeth o actio, a cherdd, dawns a llefaru. Bydd yn noson hwyliog, sionc. Dewch i gefnogi y perfformwyr ifanc. Gwelwn chi yno!

Noson o adloniant gan Gwmni ifanc Licris Alsorts yn Neuadd Rhydypennau Ionawr 13 am 7.30 y.n.


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy