BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Cwmni drama Licyris Olsorts Gwobrau i Licyris Olsorts
Mehefin 2009
Bu'r misoedd diwethaf yn gyfnod digon prysur i'r cwmni drama lleol Licyris Olsorts.

Parataoodd y cwmni drama dwy ddrama ar gyfer cystadlu yn y gwyliau drama a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Cyfieithiad Emyr Edwards o ddrama 'Confusions' gan Alan Ayckbourn sef 'Y Fam Ddelw' oedd un gyda Catrin Jenkins, Gwynant Evans, Janet Roberts a Siôn Pennant yn y cast.

Yr ail ddrama fu'n cystadlu oedd cynhyrchiad o 'Apocalyps', drama wreiddiol o waith y dramodydd Emyr Edwards gyda Rhian Evans a Sion Glyn Saunders Jones yn y cast.

Mae dyled y cwmni yn fawr i ymroddiad a gwaith caled y cynhyrchydd Siôn Pennant, Bont-goch am roi o'i amser i gynhyrchu'r dramâu.

Bu'r ddwy ddrama yn cystadlu yng Ngŵyl Ddrama'r Groeslon ym mis Ebrill ac yna yng Ngŵyl Corwen ddechrau Mai ble cipiwyd y wobr gyntaf gan 'Apocalyps'.

Llongyfarchiadau hefyd i Siôn Glyn Saunders Jones am gipio tlws yr actor gorau dan ddeg ar hugain yng Nghorwen a hynny am y trydydd tro.

Cofiwch fod cyfle i weld y ddwy ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym mis Awst pan fydd yr 'Apocalyps' yn cystadlu yng nghystadleuaeth perfformio drama fer a'r 'Fam Ddelw' yn perfformio yn Theatr Fach y Maes.

Dymuniadau gorau a phob lwc i'r cwmni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy