BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SADWRN
19eg Ebrill 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Peter Davies gyda Lyn Ebenezer. Llun o gasgliad Geoff Charles trwy ganiatad Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyfrol, adroddiad a thrôns Rhydderch Jones
Mehefin 2007
Lyn Ebenezer yn cofio yn ôl i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerfyrddin yn 1967, buddugoliaeth Peter Davies a'r dathlu mawr a fu wedi'r seremoni.

Cofiaf y llythyr fel petawn ond wedi ei dderbyn ddoe ddiwethaf. Y cyfeiriad a nodwyd arno oedd Tyddyn Gelert, Llanllechid. Ac ie, Goginan ei hunan oedd wedi bedyddio'r tŷ yn Dyddyn Gelert. Ar y pryd roedd e'n athro fyny yn y gogledd.

Ei gyfarchiad oedd: 'Gair o Ehenna'. Aeth ymlaen i ddweud fod ganddo awydd cystadlu am y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin. Roedd wedi ennill y flwyddyn cynt yng Nghaergybi. Yna gwnaeth gais am i mi anfon ato unrhyw gyfrol oedd yn adrodd hanes Gwrthryfel Y Pasg 1916 yn Nulyn, Roedd am gyfansoddi cerdd ar Padraig Pearse, un o lofnodwyr y Cyhoeddiad Rhyddid, ac un o bymtheg a ddienyddiwyd yng Nghwrt y Torwyr Cerrig yng Ngharchar Kilmainham.

Gyda throad y post anfonais i Dyddyn Gelert gopi o gyfrol Max Caulfield, The Easter Rebellion. Welais i byth 'mo'r gyfrol wedyn. Hwyrach ei bod hi'n dal yn Nhyddyn Gelert. Pwy a ŵyr?

Beirniad y Gadair yng Nghaerfyrddin oedd T Llew Jones. Ar y penwythnos cyn Prifwyl yr Urdd roedd Llew yn beirniadu yn Eisteddfod Pantyfedwen yma yn y Bont. Gofynnais iddo sut gystadleuaeth oedd hi am y Gadair yng Nghaerfyrddin. Datgelodd Llew ei bod hi'n gystadleuaeth dda, ac mai cerdd ar Badraig Pearse fyddai'n ennill. Heb sylweddoli hynny, roedd Llew wedi datgelu wrtha'i mai Goginan fyddai'n fuddugol.

Rhaid, wrth gwrs, oedd bod yno ar y diwrnod mawr. Llogodd Peter a minnau stafell yn y Nelson gyda Griff, y tafarnwr. Yn lletya yno hefyd roedd Rhydderch Jones a Stewart Jones. Ac yn dilyn y seremoni fe aeth hi'n ddathliad mawr. Uchafbwynt y adthlu, tua hanner nos, oedd cael Stewart i adrodd y gerdd fuddigol. Digwyddiad arall diddorol fu i Stewart, yn ystod y nos, daflu trôns Rhydderch allan drwy ffenest y llofft. Rhyw ddial gan Stew am chwyrnu annioddefol Rhydd. Rhydd oedd chwyrnwr uchaf Cymru. Yn wir, yr uchaf yn y bydysawd, am a wn i. Glaniodd y trôns ar ben bws oedd yn digwydd mynd heibio. Ac aeth, gyda'i ddrewdod yn ei ddilyn, i ebargofiant.

Gyda Phrifwyl yr Urdd yn ôl yng Nghaerfyrddin, dychwelyd hefyd wnaeth yr atgofion. Ac yng nghanol yr atgofion safai'r Prifardd Peter Davies. Safodd heb angen yr un Corn Gwlad. Rhyfedd fu gweld lluniau o'r Cadeirio, a gweld Goginan (a minnau) yn edrych mor ifanc.

Heddwch i'w lwch. Mae'r cyfan bellach yn stordy'r cof gyda chyfrol Max Caulfield, adroddiad Stewart a thrôns Rhydderch.

Lyn Ebenezer


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


Cyfrannwch i'r dudalen hon! 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy