BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Cast Ôl traed yn y tywod Cwmni Licris Olsorts yn cario mlaen
Medi 2006
Er colli eu cynhyrchydd mor ddisymwyth ddechrau mis Ionawr eleni penderfynodd y cwmni gario ymlaen er cof am Buddug.
Aed ymlaen i gystadlu gyda'r ddwy ddrama yr oedd hi wedi eu dewis ac wedi dechrau eu cynhyrchu cyn ei marwolaeth. Bu'r cwmni yn llwyddiannus mewn amal i ŵyl. Cafodd y ddrama "Gwisga dy ddillad, Clarisse!" yr ail wobr yng ngŵyl ddrama'r Groeslon ym mis Ebrill, yna y wobr gyntaf yng Ngŵyl Corwen ddechrau Mai. Yno hefyd y cipiodd Siôn Pennant wobr y prif actor am ei bortread o Ventroux yn y ddrama. Cafodd y ddrama ei dewis i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe a dod yn ôl gyda'r drydedd wobr.

Yng Nghorwen hefyd y cipiodd Catrin Jenkins wobr y brif actores dan bump ar hugain am ei phortread o Dwynwen yn y ddrama "(Ôl traed yn y tywod". Bu'r ddrama yma hefyd yn llwyddiannus yng Ngŵyl ddrama Pontrhydfendigaid gan gael y drydedd wobr.

Cafodd y cwmni wahoddiad i dalu teyrngcd i Buddug yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Arweiniwyd y deyrnged gan Y Parch W. J. Edwards a chymerwyd rhan gan Aled Llŷr a Rhian Evans (aelodau o'r cwmni), ac hefyd Osian Edwards o Aberllefenni (un o ddisgyblion Buddug ym myd y ddrama). Roedd pob sedd yn y Theatr Fach yn llawn.

Os bu i chi fethu a dod i'r Eisteddfod, bydd cyfle i weld y ddrama a'r deyrnged yn Neuadd Rhydypennau Nos Wener Medi 29ain.

Os oes rhywun ag amser ar eu dwylo ac sydd â diddordeb ym myd y ddrama, rydym yn chwilio am gynhyrchydd i gymryd gofal o'r cwmni. Gellir cysylltu â unrhyw un o'r cwmni neu ffonio Bet Evans (01970) 828384.

  • Buddug James: Colled fawr i fyd y ddrama


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy