BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
19eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Cyngor Cefn Gwlad Ceredigion Amddiffynfeydd Môr
Mawrth 2008
Cynlluniau i amddiffyn Y Borth ac arfordir Bae Ceredigion rhag llifogydd ac erydiad.

Denwyd cynulleidfa fawr i Neuadd Gymunedol Y Borth nos Iau, 28 Chwefror, pan gynhaliwyd cyfarfod, o dan nawdd Antur Teifi a'r grŵp gweithredu, "Cynnal Ceredigion", i dderbyn cyflwyniad. Y Cadeirydd oedd y Cynghorydd Ray Quant.

Siaradodd Mike Bailey o Gyngor Cefn Gwlad Cymru am bwysigrwydd Cors Fochno (sydd yr enghraifft orau o gyforgors aberol ym Mhrydain ac am yr angen i ddal y fantol rhwng gwarchod natur a mesurau i leihau peryglon llifogydd.

Yn ail hanner y cyflwyniad, siaradodd Mick Newman o Gwmni Royal Haskoning am y problemau ynglŷn ag amddiffyn a datblygu traethau'r Borth. Erbyn hyn mae'r grwynau yn mynd yn hen ac aneffeithiol ac mae'r traeth yn araf golli ei dywod. Penderfynwyd codi morgloddiau newydd, gyda riffau danddŵr i hwyluso beistonna, a chymryd mesurau i atal y tywod rhag symud - yn gynllun fydd yn costio tua £20 miliwn.

Ar ôl egwyl am gwpaned o de neu goffi, ffurfiwyd grwpiau trafod i wyntyllu'r cynlluniau'n fanwl.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy