BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Caryl Lewis, Luned Emyr a staff Y Lolfa yn dathlu llwyddiant Caryl. Iawn Boi
Mawrth 2004
Mi gafodd nofel gyntaf Caryl Lewis, Goginan, Dal Hi, nofel i oedolion am helyntion tîm merched tynnu rhaff dderbyniad arbennig o ffafriol gan adolygwyr a'r cyhoedd.

Eto i gyd ni chafodd yr un amlygrwydd â'i hail nofel sef lawn Boi. Llongyfarchiadau i Caryl ar gipio Gwobr Tir na n-Og eleni am ei nofel i ddisgyblion ysgolion Uwchradd.

Catrin yw prif gymeriad lawn Boi, merch sy'n byw ar fferm gyda'i mam, ei brawd hŷn Gareth, ond mae ei thad yn byw gyda nhw. Mae Mam-gu sy'n gymeriad diddorol, ecsentrig a dweud y gwir, yn dueddol o fod yn anghofus, ond eto i gyd yn cofio pob dim pan fo hynny o les iddi hi. Mae ei ffrind gorau Mererid, mewn cariad â Rhodri ac wrth gwrs mae Catrin hefyd yn ei ffansio. Disgybl chweched dosbarth yw Rhodri, 'Hot Rod; secs on legs, tin fel dwy daten mewn bag' ac mae'n berchen ar passion wagon, car y bydd Catrin a Mererid wrth ei bodd yn cael lifft ynddo.

Gosododd Caryl y nofel mewn cyfnod pan fo Catrin a Mererid yn paratoi ar gyfer arholiadau TGAU, hen gyfnod digon anodd a rhwng popeth yn gyfnod helbulus iawn i'r ddwy ferch.

Mewn adolygiad ar www.gwales.com, mae Gareth William Jones yn annog chi ddarllenwyr ifanc i ddarllen y nofel.

Dywedodd: "Mi gewch hwyl wrth ddarllen am helyntion y merched yn mynd i barti, yn sefyll arholiadau ac yn caru ar y we. Rwy'n meddwl fod Caryl Lewis wedi bod yn glyfar iawn ac wedi llwyddo i gyflwyno thema bwysig heb ei gwneud yn or-amlwg. Mae nifer o'r cymeriadau yn y nofel hon yn wynebu newid yn eu bywydau ac nid yw'r newid bob amser yn un er gwell. Dyma nofel y gallwch chi ei mwynhau o ran stori yn unig neu, os ydych chi fel fi am weld rhywbeth mwy ynddi, yna mae cyfle i wneud hynny hefyd."

Croeso Caryl i fro'r Tincer. Gwyddom ei bod hi bellach yn awdur proffesiynol, felly mae ennill y wobr wedi bod yn hwb ardderchog iddi. Rydyn ni wedi clywed si hefyd bod nofel araf ganddi ar y gweill. Pob hwyl iddi ac rydyn ni'n siŵr bod ei darllenwyr yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei nofel nesaf. Enillydd y llyfr gorau ag eithrio ffuglen yng Ngwobrau Tir Na nOg eleni yw Gwyn Thomas a Margaret Jones (Capel Bangor) am y gyfrol liwgar Stori Dafydd ap Gwilym (Y Lolfa) a adolygwyd yn rhifyn Chwefror o'r Tincer.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy