BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MAWRTH
22ain Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Lleucu Roberts Colofnydd y mis: Lleucu Roberts
Mai 2010
Yr awdur Lleucu Roberts sy'n cofio ennill cadair yr Urdd wyth mlynedd ar hugain yn ôl.

Diolch yn fawr am y gwahoddiad i ysgrifennu colofn.

Pan ges e-bost yn gofyn i mi wneud, yr ymateb cyntaf wrth reswm oedd 'am beth?'

/p> Fu erioed gen i farn am fawr o ddim erioed, pam gofyn i fi?

A ches ateb yn ôl yn syth yn awgrymu y gallwn, ar gyfer rhifyn mis Mai, sôn am y profiad, gwta wyth mlynedd ar hugain yn ôl, o ennill cadair Steddfod yr Urdd.

Diolch am hynna, meddyliais, a dechrau chwysu eto wrth ail-fyw'r wythnosau o artaith cyn yr Eisteddfod ym Mhwllheli, yn ceisio meddwl am ffyrdd o osgoi codi ar fy nhraed o flaen llond pafiliwn o lygaid, a cherdded at lwyfan digon mawr i ychwanegu agoraffobia at y nerfusrwydd llethol oedd yn fy mwyta'n fyw.

Yn fy stafell wely, i gyfeiliant y Stranglers a Geraint Jarman, ceisiais feddwl am ffordd o ddod mas o fynd i Bwllheli. (Neu, o fethu â gwneud hynny, ffordd o roi stop ar y 'Steddfod).

Yn gyntaf, ceisiais fagu gyts i esgus bach 'mod i'n sâl ond galwai hynny am ddawn actio y tu hwnt i 'ngallu.

Syniad arall oedd ffoi. Gallwn sleifio ar y Pâb-fobîl a chael fy smyglo allan o'r wlad dan hem ffrog John Paul a fyddai'n ymweld â Chaerdydd rai dyddiau cyn y Steddfod.

Neu fodio lifft ar un o'r llongau cario awyrennau i'r Malfinas, lle roedd Thatcher yn cael twtsh o dantrym ar ôl i ryw hen gythrel bach gipio rhywbeth nad oedd hi hyd yn oed yn cofio'i fod e 'da hi tan ar ôl iddo fe gael ei ddwgyd.

Daeth yr ateb fel fflach wrth glywed stori newyddion am dy haf arall yn wenfflam dan law Meibion Glyndãr - bom o dan y pafiliwn! Dim pafiliwn, dim cadeirio - dim problem!

Nawrte, 'doedd fy sgiliau gwneud bomiau ddim yn wych yn y dyddiau hynny, ond tybiwn y gwnâi matsien y tro. Gallai ddigwydd yn y nos fel na fyddai neb yn cael dolur - jawch, o'n i'n aelod o CND wedi'r cyfan.

A fyddai hi ddim y tro cyntaf i rywun gynnau tân ym Mhenyberth...

Fel digwyddodd hi, wnes i ddim dal clefyd y llengfilwyr, welais i 'mo ddillad isaf y pontiff, a ches fy arbed rhag trip i'r Malfinas lle roedd bechgyn dwy wlad yn gwaedu i farwolaeth yn enw diawl o ddim byd.

Ac ni fu ail dân ym Mhenyberth.

Y gwir amdani oedd 'mod i'n ormod o gachgi i gachu mas o fynd i Bwllheli.

A'r holl ryfeloedd wedyn dan law arweinwyr sy'n llofruddion yn enw crefydd a phwer ledled y byd, mae cadair Pwllheli'n fy wynebu wrth i mi godi bob bore, ei hestyll ddim cweit yn ddigon cyfan bellach i fi osod fy nghorpws tinfawr arni.

Glania fy llygaid arni a chlywaf alwad y corn gwlad eto'n merwino fy nghlust, gan ailgynnau nyrfs Pwllheli.

(Pam ddiawl nest ti drio 'te? clywaf leisiau'n holi, a does gen i ddim ateb.)

Wela i chi yn Llanerchaeron dros wydraid bach o win.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy