BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Parchedig Wyn Rhys Morris Gweinidog newydd Gofalaeth y Garn
Mai 2007
Sgwrs gyda'r Parchedig Wyn Rhys Morris a sefydlir yn weinidog ar Ofalaeth y Garn, nos Wener, Mai 25 am 6.00.

Bu Llinos Dafis yn cael gair ag e ar ran Y Tincer.

O Fancycapel, ger Caerfyrddin mae'r Parchg Wyn Morris yn hanu. Ar wahân i bedair blynedd yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor, a chyfnod yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth, cadwodd yn deyrngar i'w sir enedigol. Bu'n athro yng Nghastellnewydd Emlyn a Hendy-gwyn ar Daf, ac yn athro ymgynghorol gydag Awdurdod Addysg Dyfed cyn mynd i weinidogaethu ar eglwysi gofalaeth Dosbarth Llanfynydd yn Henaduriaeth Gogledd Myrddin.

Bellach dyma fe'n mentro y tu hwnt i ffiniau Sir Gâr, i fyny i Ogledd Ceredigion. Dieithr iawn oedd yr ardal hon iddo cynt, meddai fe. Fe wyddai am y cyfansoddwyr J T Rees a William Llywelyn Edwards, ac roedd e'n nabod ei gyd-fugail, y Parchg R W Jones, ac yn gwybod am un neu ddau o enwau eraill, ond ar wahân i un ymweliad â Sasiwn yn y Garn, lle i basio drwyddo ar daith rhwng de a gogledd oedd yr ardal a chyfle am saib a chwpaned o goffi yng Nghrefftau Pennau.

Yn ffodus ac yn gyfleus iawn mae ei briod, sef Mrs Judith Morris, hefyd yn dod i wasanaethu gyda'r Bedyddwyr yn eglwysi Horeb, Penrhyn-coch a Bethel, Aberystwyth. "Rwy'n gwybod nad Judith a finnau yw'r pâr priod cyntaf i weinidogaethu ar eglwysi o wahanol enwadau yng Nghymru," meddai "ond mae hyn yn ddatblygiad cyffrous i'r ddau ohonon ni." Aeth ymlaen i esbonio ei fod yn eciwmenydd mawr ac yn credu'n daer mai angen mawr yr "Eglwys Lân Gatholig heddiw yw cael yr aelodau i gydweithio."

Pan ymwelais i ag ef yn ei gartref dros dro ym Mhenrhyn-coch fe ges i groeso tawel a chynnes. Ond prysurdeb, yn hytrach na'r llonyddwch personol yma, sy'n gwir adlewyrchu ei fywyd beunyddiol. Roedd Judith yn ôl mewn angladd yn yr hen ardal y prynhawn hwnnw, esboniodd. Roedden nhw'u dau newydd ddod yn ôl o ymweliad â'r maes cenhadol ym Mryniau Casia yn yr India, ac wedi cael eu taro gan frwdfrydedd y bobl, yn enwedig y bobl ifainc, at yr Efengyl.

Yn ystod y gaeaf eleni bu ef yn cymryd rhan Iesu Grist yn y sioe gerdd Jwdas, a berfformiwyd gan Gwmni Bröydd Tywi. Mae pawb a welodd honno'n gwybod am ei bresenoldeb tawel ac urddasol ar y llwyfan.

Ar hyn o bryd mae e'n paratoi i fynd ar daith genhadol i Gymbria yn ystod mis Mai. Corff o'r enw Through Faith Missions sy'n trefnu'r daith a dyma'r drydedd i Wyn Morris fynd arni. Fe fydd yn un o ryw ddau gant o bobl o bob cwr o Brydain a fydd yn teithio i ardal benodol. Ar ôl cyrraedd fe fyddan nhw'n gwahanu'n grwpiau bach i fynd o ddrws i ddrws, i ysgolion ac i dafarndai i gynnal Arolwg ar Goelion Personol. Bydd canlyniadau a chasgliadau'r arolwg yn cael eu cyflwyno yn ôl i r eglwys leol er mwyn i'r bobl leol allu eu dilyn i fyny. Bu yn Swydd Caint a Swydd Efrog o'r blaen ar yr un perwyl.

Pwy fu'n ddylanwad arno ym more ei fywyd? Cafodd gweinidogion Bancycapel gryn ddylanwad arno wrth gwrs, felly hefyd y Parchg Glyndwr Walker, athro Addysg Grefyddol Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerfyrddin, ond i Mr Tom Bowen, Prifathro Ysgol Gynradd Idole, mae'r diolch am ei lwyddiant ym myd cerdd dant. Daeth yn fuddugol ar yr unawd gerdd dant dan 12 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mrynaman ym 1963, a than 15 yn Eisteddfod Porthmadog ym 1964. Ar ôl i'w lais dorri trodd at adrodd, a chael ei hyfforddi gan Mrs Meira Jones, ac ennill dan 25 yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd ym 1972. Ond yn bennaf mae'n talu teyrnged uchel a chynnes iawn i'w fam, sy'n dal i fyw yn Sir Gâr. Hi roddodd iddo ei wreiddiau yn y capel a'r ysgol Sul, a hi sicrhaodd iddo bob cyfle a' chwarae teg ym mhob agwedd ar ei fywyd.

Mae Wyn Morris felly yn un sy'n gosod ei nod yn uchel, a dycnwch ac ymroddiad a phwyll yn nodweddion amlwg yn ei bersonoliaeth. Mae'n siŵr y daw ef a Judith Morris yn wynebau cyfarwydd ac yn bresenoldeb yn ein cymunedau a'n cynulleidfaoedd yng Ngogledd Ceredigion yn iawn. Mae e eisoes yn mynd ati i ddod i nabod aelodau capeli'r ofalaeth, ac rwy'n deall ei fod hefyd wedi ymuno â chantorion Cantre'r Gwaelod!

Yn y Cyfarfod Sefydlu ar Fai 25, y Parchedig Eric Greene, Capel Tegid, y Bala fydd yn rhoi'r Siars i'r Eglwysi, a'r Parchg Richard Lewis fydd yn estyn croeso iddo ar ran eglwysi'r ardal. Bydd lluniaeth yn Neuadd Rhydypennau ar ôl y cyfarfod.

LID

  • Gwefan Crefydd BBC Cymru'r Byd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy