BBC HomeExplore the BBC

GWENER
8fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Capel y Tabernacl, Cwmsymlog Hen Waith Cwmsymlog
Mai 2006
Un o safleoedd hanesyddol pwysicaf ardal Y Tincer yw hen waith mwyn Cwmsymlog.

Dichon i blwm ac arian gael eu codi yno yn amser y Rhufeiniaid ac fe wyddys i sicrwydd fod arbenigwyr mwyngloddio o'r Almaen wedi dod yno â dulliau mwyngloddio diweddaraf yr oes yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg dyna lle'r oedd y gwaith mwyn arian cyfoethocaf ym Mhrydain. Prin erbyn heddiw yw olion gweladwy y gwaith - mae'r dystiolaeth bwysig naill ai mewn archifau neu'n guddiedig o dan y ddaear - ar wahân i un nodewdd, sef y simnai fawr a godwyd yn 1855, gwaith gwych seiri maen y cyfnod ac un o'r enghreifftiau gorau yn unman o'i math. Mae pobl sy'n fyw yn cofio'r simnai ryw bedair troedfedd yn uwch nag ydyw heddiw, a'r cerrig arni i'w gweld o hyd hyd at y rhes uchaf. Yn ddiweddar, mae'r dirywiad fel petai'n cyflymu. Yn ystod y gaeaf diwethaf fe ymddangosodd hollt tua'r brig: y dyfalu yw iddi gael ei tharo gan fellten.

Ers blynyddoedd bellach bu Cyngor Cymuned Trefeurig yn ceisio cael i ryw gorff ymddiddori yn yr hen simnai a'i diogelu rhag dadfeilio'n waeth. Anodd bu cael unrhyw ymateb cadarnhaol, tan yn ddiweddar. Yn ystod y deunaw mis diwethaf mae yna ddatblygiadau calonogol iawn.

Yn gyntaf, cafwyd caniatâd gan berchennog y safle i geisio gan y Cyngor godi arian tuag at wneud y gwaith adfer angenrheidiol. Wedi hynny fe gomisiynodd y Cyngor adroddiad gan arbenigwr yn y maes ar gyflwr y simnai ac ar y gwaith yr oedd angen ei wneud. Ac erbyn hyn mae dau gorff, Cadw, sydd â gofal am henebion trwy Gymru, a Chyngor Sir Ceredigion, trwy ei gynllun i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd etifeddiaeth mwyngloddio Ceredigion, 'Ysbryd y Mwynwyr', wedi cytuno i gyfrannu hanner bob un o'r costiau. Y gobaith yw y bydd chwilio am gontractiwr yn dechrau yn fuan a bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn y gaeaf nesaf.

Corff sydd wedi bod yn gefnogol iawn i'r Cyngor Cymuned yn ei ymdrechion yw Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru. Trefnwyd gan y corff hwn ddiwrnod agored ar y safle yng Nghwmsymlog ym mis Medi y llynedd, a Simon Hughes o Dal-y-bont, gŵr sy'n fwy hyddysg yn hanes hen weithfeydd Ceredigion na neb yn y byd, yn arweinydd.

A dechrau Ebrill eleni fe ddaeth criw o aelodau'r Ymddiriedolaeth, rhai ohonynt wedi teithio o bellter mawr, i weithio'n frwdfrydig am ddau ddiwrnod i glirio'r hen goedach a ffrwcs ym mynwent Capel Cwmsymlog (gyda chydsynied Ymddiriodolwyr y Capel), capel lle claddwyd llawer o hen fwynwyr. Gwnaethpwyd gwaith rhagorol.

Gyda'r darganfyddiadau mwyaf diddorol a wnaethpwyd yn ystod y gwaith oedd cael hyd i dri o feddau plant bach nesaf at ei gilydd heb fod iddynt gerrig beddau. Ar bob un o'r tri, yn lle carreg, yr oedd rhywun, gyda gofal mawr, wedi gwneud patrwm o fan gerrig o fewn rhyw ffrâm ar lun arch fechan (gweler y ffotograff). Gellir dyfalu i dri phlentyn farw tua'r un amser o ganlyniad i ryw haint neu epidemig a bod rhywrai o'r teulu, yn rhy dlawd i fedru talu am gerrig beddau, wedi ceisio dangos eu cariad. Hwyrach y claw rhyw hanesydd lleol ryw ddydd a thwrio trwy hen gofrestri a chwblhau'r stori drist.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy