BBC HomeExplore the BBC

GWENER
8fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Mrs Jones a Suzy Colofn Mrs Jones
Mai 2003
'If you knew Suzy like I knew Suzy' meddai'r hen gân. Wel, wn i ddim am y Suzy honno ond mi fedraf ysgrifennu cyfrolau am Suzy'r ardd gefn oherwydd y mae gennyf bellach oen llywaeth mewn corlan yno!

Hobi fawr Suzy yw sbecian ar Buster yn rhythu arni hi a'i hobi fawr arall yw ymdebygu i awyren Harrier ac ymafer codi i'r entrychion o'i hunfan os mai dyna'r ffordd i ddisgrifio 'vertical take off' yn y Gymraeg.

Ac y mae'n rhyfeddod pa mor uchel y medr neidio, mae'n gwbl amlwg y daw'r dydd yn fuan iawn pan fedr neidio o'r gorlan ac yr wyf yn dychryn o gofio ei bod yn ffaith brofedig fod defaid y Rhondda yn medru neidio ffensus chwe troedfedd yn hawdd. Er tegwch â hi, y mae'n rhaid nodi mai dim ond unwaith y dihangodd o'i chorlan ond 'roedd hynny trwy dwll yr oedd angen meigroscop i'w weld ac y buasai unrhyw un wedi taeru na allai llygoden fynd drwyddo heb son am oen bach. Y mae wedi darganfod y medr ymosod yn llwyddiannus ar weddillion fy nghennin Pedr i dim ond iddi roi ei phen trwy fariau y gorlan ac ymestyn ei gwddw fel jiraff ac fe fyddaf weithiau yn ofni y gwawrith hi ar madam y medr hi wasgu ei hun allan fel past dannedd o diwb

Prif ddiddordeb Suzy mewn bywyd yw ei photel ac yr wyf wedi dysgu priodoldeb disgrifia y salmydd 'fel y brefa'r hydd am yr afonydd dyfroedd' wrth wrando arni. Nid maint y swn yw'r broblem ond treiddgarwch dibaid y me-me-me-me! Mi rydw i yn fyddar mewn un glust ond gallaf glywed Suzy yn eglur hyd yn oed yn fy ngwely am clust clywed ar y gobennydd - ac er tegwch â'r cymdogion, rhaid codi ar unwaith a'i bwydo ar fyrder.

Chwarae teg iddi, mae hi hefyd yn rhoi llawer o bleser inni ac y mae'n waredigaeth medru symud o gwmpas y ty heb faglu dros Buster am fod hwnnw yn yr ardd yn gwylio dros Suzy yn ofalus - y mae hyd yn oed yn ei hymolchi yn lan pan mae angen. Y drwg yw nad yw'n fodlon iddi gysgu ac os gwêl hi yn gorwedd, y mae'n rhaid ei deffro felly, er mwyn pawb, rhaid ar dro wahanu'r ddau a chyfyngu Buster i'r ty. Ond y mae wedi fy synnu i pa mor barod yw i fod yn gyfeillgar â hi pan gofiwch chi mai dyma'r ci nad yw'n caniatâu i robin goch ddefnyddio ei ardd heb sôn am ddim arall.

Mac Suzy ym annwyl ac yn llawer o sbort ond eto, nid yw ym mynd i'm troi yn llysieuwr a phan ddaw yr amser, caiff ddychwelyd i'w thynged gan obeithio mai hir oes o bori a magu yw hwnnw. Ond os bydd angen flwyddyn nesaf, fe gymeraf olynydd iddi yn llawen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy