BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Cefin Evans Fferm Ffactor 2009
Ionawr 2010
Hanes Cefin Evans, a ddaeth yn ail yng ngystadleuaeth Fferm Ffactor 2009.

Rhaid bod ffigyrau gwylio Fferm Ffactor ar deledu'r fro, wedi neidio i fyny pan gyrhaeddodd Cefin Evans Rhiwarthen Isaf y brig, (Cefin Cwmwythig fel yr adnabyddir) yn un o dri ymgeisydd yn y prawf terfynol i ennill y teitl Ffermwr Gorau Cymru.

Dechreuwyd y daith yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ble y cynhaliwyd cyfweliadau ar gyfer yr holl ymgeiswyr.

Dewiswyd deg ohonynt i gwrdd yng Nglynllifon, Caernarfon ym mis Awst, i ddechrau ar y gwahanol dasgau o wythnos i wythnos. Y beirniaid oedd yr Athro Wynne Jones o Goleg Harper Adams, a'r enwog Mr Dai Jones Llanilar, pryd yr aseswyd a marciwyd pob unigolyn ar ôl pob tasg.

Roedd y tasgau yn amrywiol - cael mochyn i mewn i'w gwt, ateb cwestiynau yn yr ysgubor, cydweithio mewn grwpiau i hongian gât, gyrru tractor, torri cig oen, llifio coed, dangos dawn marchnata, hel a didoli defaid, adnabod y bridiau, cneifio, dôsio gwartheg ac aredig gyda cheffylau i enwi rhai ohonynt.

Roedd yr ymgeiswyr a ddewisiwyd o wahanol oedrannau, yn fechgyn a merched.

Amlygwyd y gwahaniaeth rhyngddynt o wythnos i wythnos wrth iddynt gwblhau y tasgau, pryd y galluogwyd y beirniaid i ddewis pa gystadleuydd oedd i roi allweddi yr ISUZU (cerbyd 4x4 - gwobr yr enillydd) yn ôl, a gadael Fferm Ffactor am byth! (chwedl Daloni Metcalfe)

Doedd neb ohonynt am fod allan yr wythnos gyntaf, a chawsant syrpreis pan ddywedwyd wrthynt fod pawb yn saff yr wythnos hynny.

Aeth yr wythnosau a'r tasgau yn eu blaen, a Cefin yn dal yn y râs. Teimlwyd fod tasg y cynllun busness wedi bod yn anodd iawn.

Er i'r tri oedd ar ôl weithio yn dda gyda'i gilydd, roedd gaddynt dair barn wahanol a buont yn anghytuno am oriau maith.

Bu yn dipyn o straen, ond roedd yr arbenigwyr wedi eu plesio.

Penderfynwyd fod y tri i fynd ymlaen i'r Cynulliad am y dasg olaf, i annerch Elin Jones Gweinidog Materion Gwledig. Gwnaeth y tri yn rhagorol iawn, ond dim ond un ISUZU oedd, ac un enillydd.

Aled Rees o ardal Aberteifi oedd hwnnw, Enillydd Fferm Ffactor 2009.

Ac yn glos wrth ei sawdl, ein Cefin ni! Perfformiad gwych Cef a llongyfarchiadau mawr i ti.

Dywedodd Cefin yn ei orchfygiad, fod Aled yn haeddu y fuddugoliaeth, chwarae teg iddo. Dywedodd hefyd fod y cyfan wedi bod yn brofiad anhygoel, roedd pawb wedi dysgu llawer, wedi cael llawer o sbort ac wedi gwneud ffrindiau newydd.

Bu y rhaglen yn addysgiadol i ninnau y gwylwyr hefyd.

Dysgasom fod raid i ffermwr droi ei law at lawer o dasgau, i fod yn fecanic yn ogystal a milfeddyg.

Un o'r pethau doniol ddywedodd Cefin yn ystod y rhaglen, pan gafodd ychydig o anhawster adnabod bridiau y defaid oedd: O ble death rhain, o'r lleuad?

Pob dymuniad da i Cefin Evans a' i deulu yn y dyfodol, a diolch am ein diddori am lawer wythnos ar ddiwedd 2009.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy