BBC HomeExplore the BBC

SUL
29ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Jennifer Hughes Etifeddiaeth Gudd
Ionawr 2009
Hanes arddangosfa gyntaf broffesiynol artist ifanc o'r fro a leolwyd yng Nghanolfan Arad Goch.

Mynychodd nifer o drigolion ardal y Tincer arddangosfa gyntaf broffesiynol artist ifanc o'r fro a leolwyd yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth ganol fi s Tachwedd.

Effaith gwresogi byd-eang oedd thema ganolig arddangosfa "Etifeddiaeth Gudd" a luniwyd gan Jennifer Hughes, Bodhywel, Bow Street, merch Dewi a Nerys Hughes.

Cafwyd ymateb tra ffafriol a chadarnhaol i'w gwaith arloesol.

Ym mis Gorffennaf eleni graddiodd Jenni, yng Ngholeg Gelf Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin wedi dilyn cwrs yn y Celfyddydau Cain. Mae'n gyn-ddisgybl Ysgolion Dwyieithog Y Dderwen, (Caerfyrddin), Bro Myrddin a Phenweddig ac yn gyn-fyfyrwraig o Goleg Ceredigion.

Gyda'i bryd ar yrfa fel artist, treuliodd Jenni y tri mis o Awst hyd Dachwedd 2008 yng Nghanolfan Arad Goch gan ddefnyddio gofod mae'r Cwmni Theatr mewn Addysg yn gobeithio ei ddatblygu fel cyfl e i artistiaid ifainc feithrin eu doniau a chreu cyweithiau traws gyfrwng celfyddydol.

Amlygodd yr arddangosfa y defnydd o dechnegau arloesol ac arbrofol aml-gyfrwng i greu gweithiau trawiadol a lliwgar iawn yn creu delweddau pwerus o effaith dynolryw ar yr amgylchedd.

Dywed Jenni: "Mae dinistr yr amgylchedd a dirywiad ein planed o gonsyrn mawr i mi. Rwyf wedi cynhyrchu cyfres o dirluniau sy'n cynrychioli anrheolaeth diwydiant a chymdeithas gan awgrymu'r canlyniad posibl i'n planed. Fel arlunydd cain, rwyf â diddordeb yn y broses a phriodweddau natur paent a chyfryngau eraill ac fel y gellir eu defnyddio mewn modd sy'n ymestyn ac yn gallu cyfathrebu'r is destun gwaelodol.

Rwyf wedi defnyddio cyfuniad o gyfryngau er mwyn creu delweddau sy'n weledol hudolus ond eto'n dangos arwyddion dirywiad.

Gosodwyd haenau o inc a phaentiau sglein a mat i awgrymu tirwedd oddi tano sy'n ceulo a dirywio - nas gwelir a nas ystyrir.

Mae pob cynfas wedi'i drin gyda chemegyn er mwyn atgynhyrchu proses dirywiad y Ddaear."

Yn ychwanegol defnyddiwyd perfformiad a ffi lm i atgyfnerthu'r delweddau.

Roedd Jenni'n falch o'r cyfl e i greu ei harddangosfa gyntaf yn Aberystwyth a gwerthfawrogodd gefnogaeth cyfeillion a chydnabod a hefyd gwerthfawrogwyd y cyfl e o fod yr artist cyntaf i fanteisio ar gyfl eusterau Cwmni Arad Goch.

Bellach mae Jenni wedi troi am yr Iwerddon am gyfnod a dymunir yn dda iddi gyda'i gyrfa.

Os na chawsoch gyfl e i fynychu'r arddangosfa mae cyfl e i chwi weld ei gwaith ym mwytai "Treehouse" yn Stryd y Popty a hefyd yn "Ground Coffee" yn Stryd Cambrian, (ar draws y ffordd i Siop Charlie), Aberystwyth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy