BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
12fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Huw Lloyd Williams Colofnydd y Mis
Ebrill 2009
Cyfres lle bydd rhai a fagwyd yn ardal y Tincer sydd ar wasgar yn cyfrannu colofn. Huw Lloyd Williams yw colofnydd mis Ebrill 2009.

Braf oedd cael darllen yn y golofn hon y mis diwethaf am helyntion fy hen ffrind, Garmon Ceiro, draw yn Llydaw.

Magwyd y ddau ohonom ym mhentre Dolau, ond erbyn hyn mae e tipyn bellach o gartre.

Yn wir, 'dwi ddim yn rhy siwr pa mor gymwys ydw i ar gyfer y golofn yma mwyach, o ystyried 'mod i wedi cyrraedd mor bell i ffwrdd o fro'r Tincer â Stryd y Farchnad, Aberystwyth!

Cymeraf bod chi darllenwyr yn weddol gyfarwydd a'r dref honno... Tebyg felly y fydde'r cyfnod cyn imi ddychwelyd i Geredigion o fwy o diddordeb ichi.

Er nad oedd astudio yn Llundain yr un fath a chyfnod tramor, roedd hi'n tipyn o newid byd i symud o bentre o chwedeg i ddinas o chwe miliwn.

'Doedd hi ddim fel symud i Loegr, chwaith. Wedi'r profi ad o astudio MA yn Efrog, dwi'n argyhoeddedig mai un o ddinasoedd rhyngwladol y byd yw Llundain, ac nid dinas Seisnig.

Mae'n bosib iawn mai dyna'r rheswm imi fwynhau cymaint! Yn ystod fy ail fl wyddyn yn y brifysgol, cefais i'r cyfl e i astudio dramor.

O safbwynt fy ffrindiau, roedd fy newis o Wlad Pŵyl yn un od, a rhaid cyfaddef imi gael ambell bwl o ansicrwydd wrth feddwl am y delweddau llwm oedd yn gysylltiedig â Dwyrain Ewrop.

Fodd bynnag, bu imi dreulio wyth mis anhygoel yn un o ddinasoedd perta'r byd. Roedd cerdded strydoedd hen dre Krakow fel cerdded nôl i'r Canol Oesoedd.

Rhan o'i chwedloniaeth yw'r hanes am Gadfridog Almaenig a gafodd ei orchymyn i ddymchwel y ddinas wrth i'r Natsiaid encilio o fygythiad y Fyddin Goch, ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Llanwyd y dre gyda deinameit, ond nid oedd ganddo'r ewyllys i ddinistrio pensaernïaeth o'r fath brydferthwch.

Mae yna nifer o ddinasoedd trawiadol eraill, a thirlun prydferth, sy'n perthyn i'r wlad honno ac yn destun balchder i'r Pwyliaid - gwladgarwyr i'r carn yn fy mhrofiad i.

Tybiaf mae'r diweithdra a dinistr cymdeithasol a achoswyd gan y trawsnewidiad i economi cyfalafol oedd y rheswm pennaf i gannoedd o fi loedd heidio o 'na, yn hytrach nag unrhyw awydd i adael eu Mamwlad.

Profiad gwych arall oedd fy mlwyddyn i ym Madrid, lle bues i'n dysgu Saesneg tra'n astudio Sbaeneg.

Mae fel petai'r ddinas honno yn dal i ddathlu ei rhyddid ar ôl unbeniaeth Franco, er iddo farw dros drideg o fl ynyddoedd yn ôl.

Gloddesta tan yr hwyr a chyfeddach tan y bore - ond trwy bori ar tapas mae nhw'n gallu mwynhau tan y bore heb achosi anrhefn a chwydu pobman!

Agoriad llygad arall oedd darganfod mwy am ddiwylliannau gwahanol Sbaen.

Er fod gen i ryw syniad annelwig am y cenhedloedd gwahanol fel Gwlad y Basg a Chatalonia (yn bennaf o weld clybiau pêl-droed Bilbao, Real Sociedad a Barcelona ar raglen Sgorio!), dim ond wedi cyfnod yno y sylweddolais i faint sydd gennym ni'r Cymru yn gyffredin â'r gwledydd hynny (heblaw arwyddion ffordd dwyieithog).

Fel pob Cymro arall dramor, roedd e wastad yn codi fy ngwrychyn pan fydde tramorwyr yn fy ngalw i'n Sais, neu'n hollol anwybodus ynglŷn â Chymru, ond efallai y byddai'n gwneud lles i ni ddysgu rhywfaint am ddiwylliannau tebyg!

Roedd fy mlwyddyn yn Efrog yn bleserus iawn ar y cyfan - er imi ddod i'r casgliad fod trefi plwyfol Seisnig mor gul eu meddyliau ag unrhyw fan arall!

Digon yw dweud mai un o fy hoff atgofion o'r fl wyddyn honno oedd gweld Gavin Henson yn hollti'r pyst i drechu Lloegr o 10 i 9. Ond fy amser tramor yn hytrach na fan yna a gafodd fwyaf o ddylanwad ar fy mhenderfyniad i astudio doethuriaeth yn ôl yn Aberystwyth.

Roedd byw mewn gwledydd eraill, gwerthfawrogi eu traddodiadau a'u diwylliannau, eu tirlun a'u modd o fyw, yn brofi ad a berodd imi edrych ar fy Mamwlad a milltir sgwâr o'r newydd - a chymryd mwy o ddiddordeb a balchder yn yr hyn sy'n werthfawr ac unigryw amdanynt. Cymry gore, Cymry alltud, efallai; ond dwi'n hapus fy mod i (bron a bod) gartre.

Mae Huw newydd gwblhau ei ddoethuriaeth - 'Cyfi awnder byd-eang' gan ganolbwyntio ar waith yr athronydd John Rawls, ac yn disgwyl y canlyniad. Mae misoedd prysur o'i flaen gan y bydd yn priodi yn Awst gyda Rhiannon o Gwm Gwendraeth ac mae hefyd yn chwilio am waith gan obeithio dechrau gyrfa yn y byd academaidd. Dymuniadau gorau iddo.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy