BBC HomeExplore the BBC

GWENER
8fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Ysgol Gerdd Ceredigion Ysgol Gerdd yn plesio cynulleidfa
Ebrill 2006
Adroddiad am berfformiad Ysgol Gerdd Ceredigion yng Nghapel y Morfa yn cynnwys comisiwn newydd i'r côr gan Mererid Hopwood a Hector MacDonald.

Ysgol Gerdd Ceredigion yng Nghapel y Morfa, Nos Wener, 31 Mawrth 2006

Dechreuwyd y cyngerdd mewn modd uchelgeisiol iawn gyda dau ddarn digyfeiliant, and profodd y gambl yn llwyddiant, wrth i'r côr osod safon arbennig at weddill y cyngerdd. Roedd purdeb sain y côr, yn enwedig wrth ganu'n unsain, yn ardderchog. Mae Islwyn Evans wedi adeiladu enw da iawn i'r côr dros y blynyddoedd diwethaf hyn ac roedd ei ddylanwad ar y canu yn eglur yn y rheolaeth oedd ganddo dros y sain. Llwyddodd hefyd i asio amrywiaeth eang o aeddfedrwydd lleisiol yn un sain cytun, o'r plant lleiaf i leisiau newydd-doredig y bechgyn hŷn.

Cafwyd y mwyaf o asbri gan y côr wrth ganu 'negro spirituals' fel 'Galw Enw'r Iesu' a 'Fy Fflam Fach i' gyda'r cydbwysedd rhwng y galw a'r ateb, yr unawdydd a'r côr, yn driw i'r arddull. Aeth y noson i hwyl gyda thair eitem gan y bechgyn hŷn, tair cân sy'n glasuron yn eu meysydd, sef 'Gwin Beaujolais' gan Robat Arwyn, 'Angels' Robbie Williams a 'Delilah' Syr Tom Jones. Roedd hi'n galonogol a braf iawn i weld cystal criw o fechgyn yn amlwg yn mwynhau eu canu ac yn perfformio gyda chymaint o raen, yn enwedig wrth i'r arweinydd ollwng ei faton ac ymuno gyda'r bechgyn.

Prif waith y noson oedd 'Mabinogi', gwaith comisiwn newydd i'r côr gan Mererid Hopwood a Hector MacDonald. Fe'n tywyswyd drwy bedair cainc y Mabinogi gan ddeuddeg cân amrywiol iawn eu harddull, gan bwysleisio bod rhaid i ni gadw cof y genedl yn fyw drwy gofio lle mae gwreiddiau ein diwylliant mewn oes o newid. Roedd amrywiaeth clyfar o ensemblau yn cael eu defnyddio drwy'r darn ar ei hyd, gan arddangos holl gryfderau'r côr a'u gallu i amrywio'r gwead yn ôl y galw.

Gwnaed defnydd da o'r unawdwyr hefyd i ddod â phrofiad a mwy o aeddfedrwydd lleisiol i rai o'r caneuon a chynrychiolwyd ardal y Tincer ymysg y rhain gan lais cyfoethog Pete Leggett, Dolau. Elin Llwyd oedd y prif unawdydd a chwaraeodd rôl Rhiannon a Branwen yn ystyriol iawn, and rhoddodd ei pherffomiad gorau fel Blodeuwedd gan iddi lwyddo i ddeall y cymeriad i'r dim a mynegi'r holl gymhlethdodau yn ei phersonoliaeth yn y gân sioe gerdd-aidd iawn or un enw.

Roedd cyfeiliant y piano a'r cello yn ddigon syml i heidio tynnu sylw oddi ar yr unawdwyr na'r côr and yn ddigon clyfar i ychwanegu cyffyrddiadau digon effeithiol at y gwaith, er enghraifft cân y drudwy yn y cefndir yn ystod adrodd hanes Branwen a llif tonnau'r môr wrth i Bendigeidfran a'i luoedd deithio ati. Rhoddwyd cyfle i'r plant lleiaf sefyll ar wahan i'r côr yn gerddorol wrth gymryd yr awenau mewn dwy o'r caneuon tuag at ganol y gwaith cyn i'r rhai hŷn lywio at y diwedd, wrth i'r plant iau gymryd hoe haeddiannol fel roedd eu lleisi yn dechrau blino ychydig.

Fe ddaeth y noson i ben gyd holl berfformwyr yn canu'r gân fwyaf cofiadwy yn y gwaith i mi, sef 'Yn Dy Galon Di'.

Cawsom ein hatgoffa mai stori'r Mabinogi yw'r "stori orau i gyd" ond hefyd roedd yna rybudd amserol o bwysigrwydd parhau i ail-adrodd y straeon i gadw o ble daethom er mwyn symud yn hyderus i'r dyfodol.

Erthygl gan Seiriol Hughes

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Pete Leggett, sydd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Ceerfyrddin ar gael ei benodi i swydd yn Ysgol Comins-coch - bydd yn dechrau ar ei waith fel athro Blwyddyn 6 fis Medi.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy