BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Llun gan Glyn T. Jones Arbrawf Rheilffordd
Ebrill 2005
Arbrawf i gludo coed o Aberystwyth i felin yn y Waun all chwyldroi'r diwydiant coed.

Gallai arbrawf i gludo coed o Aberystwyth i felin yn y Waun, ger Wrecsam ar y rheilffordd, chwyldroi'r diwydiant coed yng Nghymru, a gallai fod o fudd mawr i'r amgylchedd gan y byddai'n lleihau nifer y lorïau coed ar ein ffyrdd.

Daeth yr arbrawf pum wythnos, a ddechreuodd ddydd Mawrth, 8 Mawrth, i ben yn ddiweddar, pan fu aml uned nwyddau, sy'n cario wyth llond lori o goed wedi'i gynaeafu o goedwigoedd canolbarth Cymru, yn dilyn y trên teithwyr Sprinter oedd yn gadael Aberystwyth am 11.32am. Roedd hyn o gysur mawr i fodurwyr oedd wedi arfer cael eu dal y tu ôl i lorïau coed.

Yn ystod yr arbrawf, cludwyd tua 4,500 tunnell fetrig o goed, sy'n cyfateb i 180 llond lori, o Aberystwyth i felin Kronospan yn y Waun, gogledd Cymru, 75 milltir i ffwrdd. Mae'r felin yn cynhyrchu byrddau sglodion, byrddau MDF a barrau.

Gyda phedair lori yn llwytho ar yr un pryd, cymrodd hyd at dair awr i lwytho pob trên, oedd yn mesur mwy na 300 troedfedd o hyd. Roedd pob trên yn cario 200 tunnell fetrig o goed, ac yn gwneud pum taith bob wythnos.

Bydd adolygu ar y sefyllfa yn awr, ac os bu'r arbrawf yn llwyddiannus, mae'n bosibl y bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn gwneud cais i'r Awdurdod Rheilffordd Strategol am Grant Cyfleusterau Cludo Nwyddau am gyfnod o bum mlynedd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy