BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
Arthur Thomas Colli Arthur
Ebrill 2004
Daeth ton o dristwch dros blwyf Trefeurig brynhawn Sul 28 Mawrth pan glywyd am farwolaeth y Cynghorydd Arthur Thomas, Berwynfa.
Cynhaliwyd yr angladd brynhawn Sadwrn 3ydd o Ebrill yn Horeb, Penrhyn-coch, lle roedd Arthur yn aelod a diacon ffyddlon, â'r gwasanaeth dan ofal ei weinidog, Y Parchg Peter Thomas, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchg John Livingstone a Lona Jones, y ddau o Eglwys Sant Joan.

Roedd y dyrfa niferus a ddaeth ynghyd - gyda chynrychiolwyr o fyd chwaraeon a llywodraeth - lleol a chenedlaethol - yn tystio i'r parch a oedd iddo ymhell ac agos; gostyngwyd baneri sgwâr y pentref ac un IGER er cof.

Dyma ran o deyrnged y Parchg Peter Thomas yn yr arwyl:

"Ganwyd Thomas Arthur Thomas ar aelwyd Tancoed ar gyrion pentref Capel Dewi ar yr 19 o Fawrth 1930 - yr hynaf o chwech o blant Margaret a Joseph Thomas - neu Mam a Jo, fel y byddai Arthur yn cyfeirio atynt. Pan oedd yn saith oed, symudodd y teulu i'r Felin ym Mhenrhyncoch ac fel Arthur y Felin y cyfeiriwyd ato gan gynifer wedi hynny. Mynychodd ysgol gynradd y pentref ac ysgol uwchradd Ardwyn. Cyflawnodd ei ddyletswydd milwrol fel rhan o drefniant gorfodol y cyfnod hwnnw rhwng 1949 a '50 a hynny gyda chatrawd yng Nghorfflu Meddygol y Fyddin. Yna ar gychwyn y Pumdegau aeth i weithio gyda'r Weinyddiaeth Amaeth yn profi llaeth o amgylch ffermydd y fro.

Bu'r cyfnod hwnnw yn amlwg ysgogiad iddo i fentro i ddilyn gyrfa a gyfunodd y wedd amaethyddol ac ymchwiliol, ac ym 1957 ymunodd â staff y Fridfa Blanhigion yng Ngogerddan gan dreulio trideg a thair o flynyddoedd fel ymchwilydd gwyddonol yno, gan gael eigwyddonol hŷn.

Ond 3m ogystal â'i waith bob dydd fe ymwreiddiodd dylanwad ac ymwneud Arthur i fywyd y gymuned gyfan. Cerddodd yn drwm yn ei gymdogaeth - fe weithiodd yn egniol a diflino mewn llawer maes ac i lawer cyfeiriad ac y mae yna dorreth o bobl heddiw yn cydnabod eu dyled iddo.

Trwy gydol blynyddoedd y bwrlwm hwn yr oedd yna un a oedd yno, o olwg llygaid y cyhoedd, yn gwarchod, yn gofalu ac yn cynnal y teulu. Soniodd wrthyf fwy nag unwaith am ei briod Glenys a'i theyrngarwch hithau, ei hymroddiad a'i hamynedd mawr - pan oedd bywyd yn brysur a hamdden yn brin. A cholled gwirioneddol oedd ei cholli hi ym Mawrth 1992. Bryd hynny, fel yn y blynyddoedd â'i dilynodd fe brofodd Arthur ymgeledd a chysur ymhlith ei gyfeillion, a thrwy ymroi i weithgarwch a gwasanaeth.

Pe byddech yn gofyn i sawl cenhedlaeth o blant y Penrhyn - "Pwy yw Arthur Thomas?" mi fyddent yn ateb yn ddi-betrus gydag un llais taw ef yw "Mr Ffwtbol," a hynny'n cadarnhau ei afiaeth a'i frwdfrydedd amlwg ym myd pêl-droed - fel chwaraewr, fel dyfarnwr ac fel ysgogwr doniau. Y mae'r parch oedd iddo yn y maes yn amlwg, a heddiw fe roed heibio gêmau pêl-droed yn yr ardal yn gadarnhad o'r parch hwnnw."

Cafwyd cyfraniadau hefyd gan Dr Glyn Jones, Bernie Jones a'r Cynghorydd D. Lloyd Evans.

Cyfeiriodd Dr Jones at waith Arthur gyda Phwyllgor Neuadd Fenrhyn-coch, Sioe ac Eisteddfod Penrhyn-coch, Cartref Tregerddan a'i gefnogaeth i'r Ysgol Feithrin leol ac ysgolion y Plwyf fel llywodraethwr cyn sôn am ei gyfraniad i fyd pêl-droed. Bu'n chwarae yn ifanc i dim Trefeurig ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf Clwb Pêl-droed Penrhyn-coch pan y'i sefydlwyd ym 1964; bu hefyd yn ysgrifennydd a thrysorydd dwy Gynghrair - Spar y Canolbarth ac Aberystwyth a'r cylch.

Dechreuodd ddiddori ym maes dyfarnu a daeth yn Ysgrifennydd a Chadeirydd Cymdeithas Dyfarnwyr Ceredigion a Chymdeithas Dyfarnwyr y Canolbarth. Fe'i penodwyd yn Swyddog Dyfarnwyr y Canolbarth - gan fod yn gyfrifol am drefnu arholiadau ar gyfer dyfarnu. Roedd iddo enw fel dyfarnwr teg a chadarn, ond yn un a gâi'r gair olaf pob tro.

Dechreuodd y diddordeb ym maes cynghorau yn y pumdegau cynnar ac yntau yn dod yn aelodo Gyngor Plwyf Trefeurig cyn dod yn glerc y Cyngor hwnnw. Yn ddiweddarach daeth yngynrychiolydd ar yr R D C (Cyngor Ardal Wledig). Soniodd y Cynghorydd Dai LIoyd Evans am Arthur y Cynghorydd bu'n aelod o Gyngor Dosbarth Ceredigion o 1984 hyd eleni. Ers 1996 pan ddaeth y Cyngor Sir presennol i fodolaeth dychwelwyd dro ar ôl tro yn ddiwrthwynebiad, ac fe gynrychiolodd y gymuned a'r Sir gyda brwdfrydedd, a gan ennill llu o ffrindiau ac edmygwyr.

Cydymdeimlwn â'r teulu i gyd yn eu profedigaeth. Bydd cyfle i arwyddo llyfr coffa a agorwyd er cof am Arthur Thomas bydd copïau ar gael i'w harwyddo yn Swyddfa Post Penrhyn-coch a Neuadd y Dref, Aberystwyth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy