BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tincer
T Ifor Rees a Morfudd yn La Paz, Bolivia ym 1945 T. Ifor Rees - Yr Anturiaethwr
Chwefror 2010
Leusa Llewelyn sy'n bwrw golwg dros yrfa T Ifor Rees, a oedd yn diplomydd i'r Swyddfa Dramor.

Yn yr ardal hon mae'n debyg mai fel gwr Ysgol Sul y cofir Dr T. Ifor Rees, Bronceiro orau.

Roedd yn ffyddlon iawn i Gapel y Garn a'r pethe.

Roedd hefyd yn driw iawn i'r iaith Gymraeg, a llwyddodd i gyfieithu nifer o glasuron Ffrainc, Sbaen a'r Eidal i'r Gymraeg i roi blas o gyfoeth llenyddol Ewrop i'r gynulleidfa o Gymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf cefais y pleser o gael ymchwilio i fywyd a gwaith T. Ifor Rees, a darganfyddais fod y ddelwedd ohono fel trysorydd parchus i'r Capel ymhell o fod yn ddarlun cyflawn.

Cyn ymddeol yn 1949, diplomydd i'r Swyddfa Dramor ydoedd - a threuliodd dros bymtheg mlynedd ar hugain dramor yn edrych ar ôl buddiannau Prydain mewn gwahanol gymunedau yn Ewrop ac yn America Ladin.

Roedd gwledydd De America yn ansefydlog iawn yn y cyfnod y bu'n byw ynddynt, ac roedd chwyldroadau a gwrthyfeloedd yn ddigwyddiadau cyson iawn.

Yn 1946, roedd Ifor Rees a'i ferch, Morfudd, yn byw yn La Paz, prifddinas Bolivia.

Roedd aflonyddwch mawr yn y wlad bryd hynny, ac aelodau o'r gymdeithas yn ceisio dymchwel y llywodraeth.

Un dydd yn ystod cynnwrf ar y strydoedd, daeth bwled gwn drwy ffenestr cartref y Reesiaid.

Roedd hi'n anrhefn llwyr yn La Paz, a chyfraith a threfn yn cael ei anwybyddu yn llwyr.

Yn ystod yr helynt, daeth un o farwniaid mwyaf y diwydiant tun ym Molivia, Carlos Victor Aramayo, i geisio lloches yng nghartref Ifor Rees.

Roedd y llywodraeth am ei waed, er nad oedd yn euog or un drosedd.

Yn ôl ei natur gymwynasgar, derbyniodd Ifor Rees y ffoadur i'w gartref, er gwaethaf y perygl iddo ef ei hun.

Yna, bu'n rhaid dyfeisio cynllun i gynorthwyo Aramayo i adael y wlad.

Gyrrodd Ifor Rees ef â'i deulu i'r Maes Awyr, ond cawsant sioc o weld fod nifer o gynrychiolwyr y llywodraeth yno'n barod.

Felly cuddiodd pawb yn y car, cyn darganfod mai wedi dod i groesawu Canghellor Peru oddi ar yr awyren yr oedd cynrychiolwyr y llywodraeth!

Rhyddhad mawr i Ifor Rees oedd cael danfon Araymaro â'i deulu o'r diwedd ar yr awyren, lle y bu iddynt ffoi i Chile o grafangau eu herlidwyr.

Ysgrifennodd Ifor Rees ddwy gyfrol hardd o hanesion ei deithiau o amgylch cyfandir De America, sef Illimani a Sajama.

Maent yn llawn lluniau, sy'n gofnod anhygoel o dirwedd a chymdeithas yr Indiaid yng nghychwyn yr ugeinfed ganrif.

Yn y llyfrau, ceir hanesion anghredadwy o anturiaethau Ifor Rees i gopaon llosgfynyddoedd, a mynyddoedd serth eiraog.

Bu mewn sawl storm enbyd ar y môr, a bu ar daith mewn cwch bregus ar afon â'i llond hi o siarcod!

Cafod gwymp oddi-ar ei geffyl, a bu o fewn trwch blewyn i fynd dros ymyl clogwyn mewn hen lori.

Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen am ei hanes difyr, ond o ystyried dawn dweud Ifor Rees - gwell fyddai i chi ddarllen y cyfrolau eich hunain!

Hoffwn ddiolch i Mrs Morfudd Rhys Clark am ei chymorth gyda'm ymchwil.

Bu hithau hefyd ar sawl antur cyffrous gyda'i thad - yn ymweld â Macchu Picchu ac yn hedfan mewn awyren fechan yn isel dros gopaon yr Andes!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy