BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Aelodau o Glwb Hanes Llanfihangel ar Arth Clwb Hanes Llanfihangel Ar Arth
Tachwedd 2005
Clwb Hanes Llanfihangel Ar Arth yn cynnal arddangosfa o hen luniau ac yn cynllunio map hanesyddol o'r plwyf.

Ar nos Wener 21ain o Hydref, lansiwyd map hanesyddol plwyf Llanfihangel ar Arth yn neuadd yr ysgol. Daeth tua 50 0 bobol ynghŷd i weld arddangosfa hen luniau'r plwyf a baratowyd gan aelodau'r clwb hanes yn ogystal â'r map a gynlluniwyd gan y clwb hanes lleol.

Croesawyd pawb gan Calvin Griffiths a John Davies a gwnaeth y ddau esbonio sut aeth aelodau'r clwb ati i ddewis a dethol pynciau ar gyfer y map sy'n gofnod o'n gorffennol cyfoethog. Dangoswyd rhai o'r cynlluniau cynnar a darllenodd Calvin y gerdd isod a gyfansoddwyd yn arbennig ganddo i'w rhoi ar y map:

Plwyf Llanfihangel

Plwyf ffrwythlon o hanes
Trwy'r oesoedd, a gwêl
Y bryniau a'r cymoedd
A'u creithiau sy'n fêl.
Castelli, brenhinoedd
A'u llwybrau sy'n fyw.
Y brwydrau a'r grefydd
Mae'r wefr yn ein byw.

Mae'r map yn cynnwys 29 o lefydd pwysig yn hanes y plwyf ac mae eglurhâd wrth ochr sy'n rhoi tipyn bach o hanes am bob un o'r llefydd hynny. Mae yna hefyd hanes rhai enwogion y plwyf gan gynnwys Gwrtheyrn, arweinydd gydag enw drwg o'r burned ganrif; yr hen ŵr o Bencader; Stephen Hughes a ddechreuodd eglwys ymneilltuol ym Mhencader yn 1650; Christmas Evans, un o'r pregethwyr grymusaf ei oes; Evan Stephans a arweiniodd côr y Mormoniaid yn eu prif ganolfan a Nantlais Williams a gyfansoddodd barddoniaeth ac emynau yn y 19eg ganrif.

Maint A1 yw'r map ac mae'r testun yn y Gymraeg. Cynlluniwyd y map hwn gan Glwb Hanes Lleol Llanfihangel ar Arth a thynwyd y map gan Gareth Coles ac argraffwyd gan Wasg Gomer. Ariannwyd costau cynhyrchu'r map -an grant Cronfa Arian Bach o Filltir Sgwâr, Sir Gar ac rydym fel clwb yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am wneud hynny.

Cafwyd lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y noson a chafodd pawb gyfle i sgwrsio ac edrych dros yr arddangosfeydd. Roedd hi'n noson gymdeithasol hyfryd ac hoffem ddiolch yn fawr i bawb a ddaeth i'r achlysur arbennig hwn. Os oes diddordeb gennych mewn prynu map, mae copiau ar werth am £3 yr un, cysylltwch nail ai â Gerald Coles ar 01559 384987 neu Margaret Bowen ar 01559 362215. Mae hefyd groeso mawr i chi ymunoo â ni yn y Clwb Hanes sy'n cwrdd bob pythefnos, am ragor o fanylion cysylltwch a Gerald neu Margaret.

Cyfrannwch

Maldwyn Stephens o Gaerfyrddin
Oedd tadcu yn cefnder cyntaf i Evan Stephens, arweinydd cor Tabernacle y mormoniaid. Cafodd tadcu ei eni yn Y Lodge, Gwernmacwyth, lle wiithiodd fel teilwr cyn symyd i Bronwydd, ger Caerfyrddin
Thu Aug 6 20:56:39 2009


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy