BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Branwen! Sioe Branwen - Llwyddiant Ysgubol.
Tachwedd 2004
Roedd sioe gerdd Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi eleni yn wefreiddiol! Yr ail gainc o'r Mabinogi oedd y stori, Branwen Ferch Llyr, a cafwyd gwledd i'r synhwyrau.
Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion a'r athrawon fu'n gweithio'n ddiflino er mwyn sicrhau ei lwyddiant.

"Mae bod yn rhan o ysgol uwchradd sy'n ychwanegu gwerth cerddorol, diwyllianol a theatrig i brofiadau addysgiadol ac academaidd traddodiadol disgyblion, yn hynod bwysig i mi fel pennaeth" meddai Dorian Williams, Pennaeth Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi.

"Bu gwylio pob un o'r pum perfformiad yn foddhad pur a bydd atgofion am y bwrlwm a'r brwdfrydedd ymhlith aelodau'r cast, y corau a'r staff a oedd ynghlwm â'r cynhyrchiad yn aros gyda mi. Mae doniau pobol ifanc Ysgol Dyffryn Teifi yn haeddu llwyfan - edrychwn ymlaen at hwyl a bwrlwm ein perfformiad ysgol nesaf"!

Branwen - y stori yn fyr!
Mae stori Branwen yn dilyn hynt a helynt dau deulu pendefig, sef teulu Bendigeidfran, cawr oedd yn frenin ar Ynys y Cedryn (Prydain) a Matholwch, Brenin Iwerddon.

Fe syrthiodd Matholwch mewn cariad â Branwen, chwaer Bendigeidfran a'i phriodi, yn y gobaith o gael heddwch rhwng y ddwy wlad. Ond doedd pawb ddim yn hapus â hyn, ac er mwyn dangos anfodlonrwydd fe wnaeth Efnisien, sef hanner brawd Branwen a Bendigeidfran, ymosod ar geffylau'r Gwyddelod.

Symudodd Branwen i fyw yn Iwerddon gan roi genedigaeth i'w mab Gwern yno, ond oherwydd ei bod hi'n wraig estron ac oherwydd y sarhad a ddygodd Efnisien ar bobl y wlad, fe wnaeth y Gwyddelod ei thaflu i'r gegin fel caethferch. Yn ei thristwch, fe wnaeth Branwen anfon neges gyda drudwy fach at Bendigeidfran, ac wedi derbyn y neges fe ddaeth ef a'i filwyr i'r Iwerddon i'w hachub.

Fe wnaethon nhw wynebu sawl anhawster ar y ffordd - er mwyn croesi afon ddofn, fe wnaeth Bendigeidfran orwedd ar draws y glannau gan adael i'r milwyr gerdded drosto - 'A fo ben, bid bont'. Wedi cyraedd, fe wnaethon nhw geisio cymodi dros swper, ond yn ystod y noson honno, fe wnaeth Efnisien daflu Gwern yn ei gynddaredd i'r tân.

Cafwyd ymladd ffyrnig rhwng y ddwy ochr, a thaflwyd gyrff y Gwyddelod i mewn i bair dadeni - crochan ble y daw cyrff marw yn ôl yn fyw, ond yn fud. Taflwyd Bendigeidfran i'r pair a thrwy ymestyn ei gorff, llwyddodd i'w dorri, gan ennill y frwydr ond gan ladd ei hun yn yr un modd. Lladdwyd pawb ond Branwen a saith Cymro arall yn y gyflafan. Fe wnaethon nhw dorri pen Bendigeidfran i ffwrdd a'i gladdu yn Llundain.

Oeddech chi yno? Beth yw eich barn am y perfformiad? Dwedwch wrthon ni yn y ffurflen isod.


Cyfrannwch

Edward
mae stori branwen yn un dda. oedd fi yn gwneud o am gwaith catref a rwyf yn darllen hwn i helpu i wneud fy nhwaith catref.
Mon Mar 10 19:37:17 2008

cae jones
mae hwn yn dda
Thu Sep 7 15:17:11 2006

Lowri o Gaerfyrddin
Fi'n ffansio Rhys, ma fe'n lush!
Thu May 25 11:38:18 2006

gwenllian evans
Maer band yn gret ac fe byddai yn mynd i gweld nhw eto!!! :):)
Mon May 22 13:02:27 2006

Gwenan Davies
Mae'r band Rasputin yn gret!! os cewch cyfle i weld nhw-ewch yn llu!!! :):)
Mon May 22 13:01:28 2006

Hannah Owen o Abergele
Oeddwn yn meddwl roedd y perfformiad yn dda iawn.
Mon Mar 20 18:08:42 2006

Lowri, Aberaeron
Chi'n bril !!
Sat Mar 18 14:48:19 2006

Lora Elin Williams o Carmel,Caernarfon,
Rydym ni wedi gwneud gwaith am Branwen yn yr ysgol a rydw i yn ei hoffi yn fawr. (stori gyffrous)
Mon Jan 23 17:20:30 2006

Aled Jones o Tregaron
Rhys yn class wrth chwarae ei gitar bas
Thu Dec 8 22:11:31 2005

Kim
Roedd y sioe yn wych
Sat Sep 10 11:27:44 2005

Celyn Williams o Gasgwent
Mae hyn yn grynodeb dda! rhaid i mi nodi mai 'ynys y Cedyrn' yw (nid Cedryn), ac Efnysien sydd yn cael ei daflu i mewn i'r pair dadeni gan ddau Wyddel cefn-noeth! Mae gen i arholiad ar hyn dydd llun yma,felly diolch!
Mon Jun 6 17:03:10 2005

KIM
Rydw i yn gwneud gwaith am Branwen yn yr ysgol ac mae hi yn stori dda.
Wed Apr 13 20:03:04 2005


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy