BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
25ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Mrs Nanna Thomas, aelod hynaf Eglwys Penybont, Dathlu Canmlwyddiant
Rhagfyr 2008
Hanes dathliad canmlwyddiant Eglwys Bedyddiedig Penybont, Llandysul.

Ar benwythnos cyntaf ym mis Tachwedd bu aelodau a ffrindiau Capel y Bedyddwyr Penybont, Llandysul yn dathlu canmlwyddiant ac ail-agor y capel ar ô1 gwelliannau.

Bu yma dri cyfarfod o safon a llwyddiant arbennig. Ar nos Sadwrn Tachwedd laf cynhaliwyd cyngerdd gan Gôr-dydd, o dan arweiniad Sioned James, un o blant yr Eglwys. Hefyd cawsom eitemau gan Kees Huysmans (brodor o'r Iseldiroedd sydd wedi ymgartrefi yn lleol) a Bethan Evans, un o aelodau'r capel. Pleser oedd croesawu yn ô1 fel llywydd y nos Mrs Lydia Williams, a gyfrannodd yn hael at yr achos. Fore Sul cawsom oedfa arbennig iawn o dan ofal Parch. Peter Thomas. Cyflwynwyd allwedd drws y capel i Mrs. Nanna Thomas (aelod hynaf Penybont) i ail-agor y capel yn swyddogol.

Croesawyd pawb i mewn i'r capel gan Mr David Lewis. Cymerwyd rhan gan Parch. Eric Roberts, Ficer y Plwyf a'r Parch. Guto Prys ap Gwynfor, Gweinidog Eglwys Annibynnol Seion, Llandysul.

Ar sail fideo fe gawsom hanes Penybont 1908-2008 gan bobl ifanc ac aelodau o dan arweiniad Mr. Watkin Bundock a Mrs. Nest James. Cafwyd anerchiad pwrpasol gan Parch. Peter Thomas (Ysgrifennydd Undeb Bedyddwyr Cymru) a hyn yn arwain at fwrdd y cymun.

Yn dilyn yr oedfa bu llawer o drafod a hel atgofion o amgylch y bwrdd cinio a baratowyd gan y gwragedd. I goronu'r dathlu cynhaliwyd Cymanfa Ganu Bedyddwyr Dyffryn Teifi gyda Sioned James yn arwain a Mrs. Nest James wrth yr organ. Roedd yn benwythnos i'w chofio a'r cyfarfodydd ar y Sul yn gyfuniad o lawenydd a defosiwn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy