BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
11eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Codi Arian Drwy Ymprydio
Rhagfyr 05 /Ionawr 2006
Un o aelodau ifanc Y Tabernacl, Pencader yn codi arian dros apêl Cymorth Cristnogol ar gyfer Niger drwy ymprydio.

Roedd y cyfnod rhwng 9 o'r gloch fore Llun, 21 Tachwedd 2005 a 3.30 prynhawn ' Gwener, 25 Tachwedd 2005 yn gyfnod llawn her i un o aelodau ifanc Y Tabernacl, Pencader. Roedd Siriol Teifi, sy'n ddisgybl 16 oed yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandsyul, wedi rhoi gwybod i'r byd a'r betws am ei bwriad i fyw ar ddim ond dŵr drwy'r wythnos er mwyn tynnu sylw at broblem enfawr newyn Niger, Gorllewin Affrica, a chael pobl i gyfrannu at apêl Cymorth Cristnogol ar gyfer y wlad.

Meddai Siriol, "Yn ddiweddar bu cyhoeddusrwydd mawr i'r newyn erchyll yn Niger. Pan welais y lluniau a chlywed yr enw Niger fe gofiais yn syth fod hon yn un o'r gwledydd bu fy nhad yn ymweld â hi i brynu ei crefftau. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi fe ddaeth gwraig o'r enw Madame Rabi i aros gyda ni am wythnos er mwyn hyrwyddo crefftau ei gwlad yn ein pabell ar faes yr Eisteddfod.

"Roedd llygaid y plant newynog ar y sgrin deledu fel petaent yn erfyn am help ac roedd hyn yn cyffwrdd â chalon pawb oedd yn eu gweld. Ro'n i'n teimlo bod yn rhaid i fi wneud rhywbeth i helpu ac yn trio meddwl am y ffordd orau i godi ymwybyddiaeth a chodi ychydig o arian yr un pryd. Fe benderfynes i mai ympryd noddedig oedd y ffordd mwyaf addas oherwydd ei fod yn ffordd fach i fi uniaethu gyda'r bobl sydd yn dioddef, er na allaf ddod yn agos i ddirnad eu cyflwr corfforol a meddyliol nhw.

"Roedd fy chwaer Lleucu wedi ymprydio rai blynyddoedd yn ôl dros achos tebyg ac wedi llwyddo i godi swm sylweddol o arian. Mae eraill yn fy nheulu hefyd wedi ymprydio am gyfnodau ac, wedi siarad a nhw, ro'n i'n gweld fod modd gwneud hyn am gyfnod heb beryglu fy iechyd.

Ro'n i'n gallu dal ymlaen am bum diwrnod oherwydd mod i'n gwybod fod terfyn pendant ar fy nghyfnod i a ro'n i'n yfed dŵr glân a mynd i'r ysgol bob dydd.

Yng ngwledydd tlawd Affrig does dim dŵr glân ac mae hyn yn gwneud salwch yn fwy eang o lawer. Mae'r ffeithiau am y newyn yn Niger yn frawychus a'r tristwch mawr yw fod y newyn wedi cael ei ragweld ond fod llywodraethau cyfoethog y gorllewin yn dewis gwario mwy o arian ar ryfela nac ydynt ar helpu y gwledydd tlawd.

"Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y materion hyn ac fe fues i lan yng Nghaeredin yn ystod y gynhadledd G8 oherwydd mod i'n teimlo mor gryf fod blaenoriaethau ein llywodraeth ni a gwledydd cyfoethog y byd mor anfoesol.

"Rwy'n gwybod mai cyfraniad bach iawn oedd fy nghyfraniad i wrth ymprydio, ond rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a ddanfonodd arian ataf i ac at Cymorth Cristnogol sy'n gwneud gwaith mor wych yn y maes yma."

Ychwanegodd ympryd Siriol rai cannoedd o bunnoedd at Apel Niger Cymorth Cristnogol. Os hoffai ddarllenwyr Y Garthen ei chefnogi gellir danfon siec at Parchedig Tom Dafis, Swyddfa Cymorth Cristnogol, 75 Heol Dŵr, Caerfyrddin. SA31 1PZ. Daeth yr ympryd i ben gyda oedfa weddi yn ei chartref o dan arweiniad y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor. Fel cefnogaeth i Siriol penderfynwyd i gyfrannu casgliad oedfa Undebol yng Nghapel Tabernacl Pencader ar Sul 4 Ragfyr i'r Apêl, a chasglwyd £100.75c. Mae Cyfanswm y cyfraniadau erbyn tua £2000.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy