BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
24ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Cyngor yr ysgol gyda Carol James, Prufathrawes a Delyth Evans o NatWest Gwirioni ar gae chwarae
Mehefin 2007
Roedd gwên ar wyneb pawb yn Felindre ger Castellnewydd Emlyn yn ddiweddar wrth i'r rhuban gael ei dorri ar gyfnod newydd sbon o hwyl ac addysg yn Ysgol Penboyr.
Cafodd y maes chwarae a gat newydd ei ddadorchuddio'n swyddogol i'r disgyblion a'r gymuned leol.

Yn ymuno â'r disgyblion yr oedd cyfeillion yr ysgol a fu'n chwarae rhan bwysig yn datblygu maes chwarae'r ysgol yn arbennig ar gyfer plant Penboyr. Roedd y dathliadau i agor y maes chwarae yn swyddogol yn cofnodi cwblhau prosiect £4,000 fel rhan o raglen £3 miliwn Supergrounds.

Cafodd Supergrounds ei lansio ym mis Medi 2005 fel rhaglen i wella tir ysgolion dan nawdd Natwest dan reolaeth Learning through Landscapes mewn partneriaeth â Groundwork UK i wneud gwahaniaeth parhaol i amgylcheddau dysgu plant.

Llyfrgell Genedlaethol
Poppy Wilson, Islwyn, Felindre oedd 100fed ymwelydd ifanc y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth pan gafodd Ysgol Penboyr wahoddiad yno ym mis Ebrill i ddathlu ei canfed blwyddyn. Yna cafodd wahoddiad i'r Cynulliad yng Nghaerdydd i dderbyn allwedd i gofio'r achlysur. Yn y llun mae Poppy yn derbyn yr allwedd oddi wrth llywydd y Llyfrgell, Dr Brinley Jones CBE.

Roedd ei llun ar faner y Llyfrgell ar eu stondin yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy