BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
24ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Rosie'n cipio'r brif wobr
Mehefin 2005
Dysgwraig o Bentrecwrt yn ennill gwobr mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Ferched y Wawr cenedlaethol.
Dyma lun o Rosie Pearce, dysgwraig o Bentrecwrt, a enillodd wobr am ysgrifennu erthygl mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Merched y Wawr yn Genedlaethol i ddysgwyr. Ysgrifennodd Rosie am ddilyn llwybrau Owain Glyndŵr.

Mae Rosie wedi byw ym Mhentrecwrt ers 17 o flynyddoedd ac wedi bod yn dysgu'r iaith Gymraeg ers tua 7 mlynedd. Mae'n mynychu dosbarthiadau nos yng Ngholeg Ceredigion o dan hyfforddiant y Prifardd Idris Reynolds, a dywed Rosie ei bod yn ddyledus iawn iddo.

Mae hefyd yn mynd i Gymdeithas y Dysgwyr yn rheolaidd, ac yn aelod ffyddlon o Gangen Geler o Ferched y Wawr lle mae erbyn hyn yn teimlo'n hollol gartrefol ac newydd ddechrau ar swydd Trysorydd y Gangen - mae ei chyd-aelodau yn teimlo'n falch iawn ohoni ac yn ei llongyfarch yn fawr.

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo Rosie yng Ngŵyl Haf flynyddol Merched y Wawr ym Machynlleth. Daeth i'r brig allan o 23 o gystadleuwyr, gyda chanmoliaeth uchel gan Lois Arnold y beirniad.

Yn wobr cafodd blac a thystysgrif ac hefyd aelodaeth blwyddyn o Ferched y Wawr. Bydd yr erthygl fuddugol yn ymddangos mewn rhifyn o'r Wawr yn y dyfodol agos. Da iawn Rosie!

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy