BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Dr Hefin Jones yn cael ei urddo â'r Wisg Wen yn Eisteddfod Genedlaethol 2007 Holi Dr Hefin
Medi 2007
Colofn 'Clonc 'da Hanna'
Sgwrs gyda Dr Hefin Jones o Fronlwyd, Pencader sy'n byw yng Nghaerdydd, ac wedi cael yr anrhydedd â'r wisg wen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Fflint eleni.

Y mis yma rwyf yn cael sgwrs wahanol a mynd ar glonc i fyd newydd sef Clonc drwy'r Cyfrifiadur . Rwyf yn siarad gyda Dr Hefin Jones o Fronlwyd Pencader sydd yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi cael yr anrhydedd o'r wisg wen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Fflint eleni.

Dyma'r glonc a gawsom.
Prynhawn da a diolch am y cyfle i gael sgwrs electroneg â chwi. Dwedwch pa swydd yr ydych yn ei wneud ac ymhle a beth mae hyn yn olygu.

Croeso - diolch am y cyfle! 'Rwy'n aelod o staff academaidd Prifysgol Caerdydd; golyga hynny nifer o bethau. Fy hoff agwedd o'r gwaith yw darlithio -rwy'n dysgu modiwlau mewn ecoleg, cadwraeth, bioamrywiaeth anifeiliaid diesgyrna cefn, cyfathrebu gwyddoniaeth, ac ecoleg a meddygaeth. Rhan werthfawr iawn o'r dysgu yw arwain dosbarthiadau o fyfyrwyr ar gyrsiau maes ym Mharc Cefn Onn yng Nghaerdydd, coedwigoedd Tyndyrn yn Nyffryn Gwy ac i Ganolfan Maes y Brifysgol yn Llysdinam, ger Llanelwedd. 'Rwyf hefyd yn arwain tîm o ymchwilwyr sy'n gweithio ar bynciau yn ymwneud â newid hinsawdd, bioamrywiaeth y pridd ac eco-thwristiaeth.

Braint fawr yw cael fy ngwahodd i brifysgolion eraill yng Nghymru a gwledydd eraill i gyflwyno gwaith y tîm. Dyna'r ddwy brif agwedd o'm gwaith; ar ben hyn wedyn daw gwaith golygu, bod yn un o swyddogion Cymdeithas Ecolegol Prydain, cadeirio Pwyllgor Addysg trwy Gyfrwng y Gymraeg Prifysgol Caerdydd a llu o bethau eraill sy'n codi bob yn awr ac yn y man. 'Rwy' wrth fy modd gyda'm gwaith - a dweud y gwir nid wyf yn ei gyfrif yn waith o gwbl - 'rwy'n hynod o ffodus.

I ba wledydd yr ydych yn teithio iddynt? A oes rhywle sydd orau gennych?
Cwestiwn anodd - does neb wedi gofyn y cwestiwn yna i mi o'r blaen, felly dyma fynd at y map i gyfrif! 43 gwlad yw'r cyfanswm cyfredol ond bydd hynny yn mynd i fyny i 44 erbyn diwedd 2007 gan y byddaf wedi cael cyfle i ymweld â Gwlad Pwyl wrth fynychu cyfarfod o'r European Science Foundation. Mae gan bob gwlad ei rhyfeddodau; ac oes, mae gennyf fy ffefrynnau.

'Rwy wrth fy modd yn teithio yn y gwledydd Lladin Amerig - mae emosiwn a blas bywyd yn y gwledydd hyn yn apelio'n fawr, er bod yno hefyd dlodi aruthrol fel y gwelais ymysg Plant y Stryd yn Ninas Guatemala. 'Roedd cael treulio wythnos yn Y Wladfa, yn yr Ariannin, yn brofiad bythgofiadwy a chael y fraint fawr o bregethu yn oedfa'r hwyr yn Y Gaiman. Dydw i ddim yn or-hoff o'r Unol Daleithiau ond tra bod i'n casau gorfod teithio i Los Angeles a'i fywyd afreal rhaid i mi gyfaddef y byddaf wrth fy modd yn San Francisco a Durham Raleigh yn Nhalaith Carolina. Fy hoff wlad, o bell ffordd, yw Siapan. 'rwy wedi bod yno rhyw ddwsin o weithiau erbyn hyn ac 'rwy'n dwli ar y bwyd, y bobl a'r traddodiadau. Cefais brofiad rhyfedd iawn un noson yn cysgu mewn gwesty capsiwl yn Tokyo - ond stori arall yw honno!

Ers pryd yr ydych yn gwneud y swydd yma?
Dychwelais i Gymru yn 2000, felly 'rwy' wedi treulio dros saith mlynedd yma yn y brifddinas. Cyn hynny bum yn ymchwilydd yn yr Orsaf Ymchwil Llysiau yn Wellesbourne, ger Warwick am ryw dair blynedd ar ôl gorffen fy noethuriaeth, ac yna 12 mlynedd ym Mharc Silwood, yn Ascot, campws maes Coleg yr Imperial, Llundain. Rhyfedd iawn oedd byw yn y fan honno yng nghanol sêr y cyfryngau; a bob blwyddyn adeg Rasus Ascot, ym mis Mehefin, byddai'r Teulu Brenhinol yn gorfod croesi tir y Coleg wrth iddynt fynd yn ei cerbydau ceffyl o'r Castell yn Windsor i'r cae rasys. Sawl Cymro arall o Bencader sy'n medru dweud bod y Frenhines wedi gorfod gyrru trwy ei ardd gefn i gyrraedd pen ei thaith?

Felly y wisg wen eleni ...beth mae hyn yn olygu i chwi?
Braint enfawr! Mi fyddwn i'n dweud mai cael fy ethol yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg rhyw dair blynedd yn ôl yw'r unig fraint uwch sydd wedi dod i'm rhan. 'Roedd derbyn y llythyr yn sioc enfawr ac rwy'n gwybod bod yna llawer mwy haeddiannol na mi. I mi'n bersonol, sydd wedi treulio dros 18 mlynedd yn Lloegr ac wedi gofidio llawer am hynny, 'roedd derbyn y Wisg Wen yn arwydd pendant fy mod bellach nôl yn fy ngwlad gyda'm cydwladwyr. 'Roeddwn hefyd yn rhyfedd o falch i mi dderbyn yr anrhydedd am fy ngwaith gwyddonol a'm hymwneud â Christnogaeth; dau beth sydd wedi rhedeg law yn llaw yn fy mywyd ers fy machgendod, sydd erioed wedi gwrthdaro ac sy'n gwbl gyfrifol, gyda dylanwad fy nheulu, am y person yr ydwyf heddiw. Hefin Pencader yw fy enw yn yr Orsedd - er i mi adael Pencader yn 1979 a chael teithio'r byd, bachgen o Bencader rydw i am fod.

A ydych wedi dilyn llawer o Eisteddfodau, efallai wedi cystadlu eich hun?
Pan yn fachgen nôl ym Mhencader byddwn yn mynd gyda'm rhieni, 'nhad yn fwyaf arbennig, i eisteddfodau Abergorlech, Gwernogle, Llansawel ac ati. Nid i gystadlu ond i fwynhau! 'Roedd tad-cu, tad fy mam, yn fardd gwlad wedi ennill nifer fawr o gadeiriau ac un goron eisteddfodol. Enillodd fy nhad hefyd dwy gadair am delynegu. Yn Eisteddfod Ysgol Llandysul yn 1978 bum yn ddigon ffodus i ennill Cadair yr Eisteddfod am soned ar y testun Ffynhonnau. Nid wyf wedi barddoni fawr iawn ers hynny ond mae Bethan, fy chwaer, er nad yn cystadlu yn dal i ddefnyddio'r awen mewn penillion cyfarch a'u tebyg. Nid oeddwn fawr o ganwr ond bu i mi gystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd - 'rwy'n cofio adrodd darn am Y Camel unwaith, ac 'roeddwn yn aelod - yr unig fachgen - o barti cyd¬adrodd. Bydd rhai o ddarllenwyr Y Garthen yn cofio'n iawn am hyn!

Pa ddiddordebau eraill sydd gennych ...beth ydych yn ei hoffi wneud yn eich amser sbar?
Mae'r capel a gweithio i Undeb yr Annibynwyr yn chwarae rhan bwysig iawn yn fy mywyd. Byddai'n odidog cael cyflwyno mwy o amser i waith o'r fath ond mae galwadau swydd ac ati yn ei gwneud hi'n anodd weithiau. Un diddordeb mae fy chwaer a minnau yn ei rannu yw opera, a byddwn yn dilyn tymor y Cwmni Cenedlaethol yn rheolaidd; mae'r ddau ohonom yn edrych ymlaen at wrando a gweld perfformiad cyntaf y tymor sef opera gyfoes The Sacrifice sydd wedi ei selio ar Y Mabinogi. 'Rwy'n darllen tipyn hefyd - bywgraffiaduron a llyfrau gwleidyddol yn bennaf; ac mae gennyf hobi rhyfedd - 'rwy'n casglu stampiau â phryfed arnynt!

Mae eich teulu yn byw ym Mhencader...ydych yn hoff o ddod nôl i'r ardal?
Mewn byd delfrydol byddwn yn dod o hyd i swydd 'nôl yn ardal Pencader. Wrth i mi dyfu'n hŷn rhaid i mi gyfaddef bod y dynfa am ddychwelyd i Bencader yn cryfhau. Mae'r pentref wedi rhoi cymaint i mi - ei hanes, ei draddodiadau, ei iaith, fy magwraeth deuluol a Christnogol, cyfeillion sydd wedi dal yn driw i mi - braf byddai cael rhoi rhywbeth yn ôl. Tynnir fy nghoes yn aml yng Nghaerdydd - pan fyddaf yn dweud 'rwy'n mynd adref wrth fy nghydweithwyr anaml iawn y golyga hynny fy fflat ar Heol Llandaf yn Nhreganna. Fronlwyd, Pencader yw'r cartref o hyd.

Beth am y dyfodol, a oes rhywbeth fyddech yn hoffi ei gyflawni?
Cwestiwn anodd - mae yna gymaint o bethau yr hoffwn ei wneud. Mae gen i syniadau am ddau neu dri o lyfrau yr hoffwn eu hysgrifennu, byddwn yn hoffi treulio mwy o amser yn cynorthwyo gyda gwaith yr eglwys yn Minny Street, Caerdydd ac Undeb yr Annibynwyr, a phe bai amser fe hoffwn ddysgu siarad ac ysgrifennu Siapanaeg. Breuddwydion ffôl tebyg lawn! Fy ngweddi yw y byddaf ar ddiwedd fy mywyd yn medru edrych nôl a theimlo mod i o leiaf wedi ceisio cynnig rhywbeth, pa mor bynnag fychan, i wneud y blaned ryfeddol yma 'rydym wedi cael ein hunain arni rhywfaint gwell lle i fyw arni.

Cefndir
Brodor o Bencader yw Dr. Hefin Jones, yn fab i Mrs. Rachel Jones Fronlwyd, a'r diweddar Evan Henry Jones. Addysgwyd ef yn ysgol Gynradd Pencader, ac Ysgol Ramadeg Llandysul, lle bu yn brif fachgen. Dyma ychydig o'i hanes wedi gadael Pencader.

Graddiodd (BSc) gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Swoleg o Goleg y Brenon, Prifysgol Llundain (lle hefyd enillodd Diploma AKC gyda chlod o'r Adran Ddiwinyddol). Doethuriaeth (1986) o Goleg Imperial, prifysgol Llundain. Gweithio am dair mlynedd i'r Cyngor Ymchwil Amaeth yn Wellsbourne, Swydd Warwick.

Yna nôl i Goleg Imperial - yn gyntaf i weithio ar brosiect datblygu meddalwedd cyfrifiadurol rheoli plau yna swydd ymchwil mewn rheoli biolegol cyn cael ei apwyntio yn Gymrawd Ymchwil ac Arweinydd Prosiect Rhyngwladol ar effeithiau ecolegol newid hinsawdd. Yn 2000, Uwch Ddarlithydd mewn Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae'n gyfrifol am gydlynu Gradd Ecoleg ac arolygu myfyrwyr ar gyfer doethuriaethau. Mae hefyd yn Wyddonydd Ymgynhorol Canolfan Ecoleg Prifysgol Kyoto, Siapan, gwyddonydd Ymgynghorol Datblygiad Canolfan Amgylcheddol Montpellier, Ffrainc ac yn Aelod Rhyngwladol Panel Rheoli'r Phytotron, Prifysgol Duke, UDA. Llongyfarchiadau mawr iddo ar gael ei urddo â'r Wisg Wen. Mae yn ei llawn haeddu.


[an error occurred while processing this directive] 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy