BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
25ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Y Panics Dim mwy o Banig!
Medi 2004
Fflur Dafydd un o aelodau'r band Johnny Panic yn crynhoi ei hatgofion am ddyddiau da ac olaf y grŵp.

Roedd y band Johnny Panic yn enwog trwy Gymru. Daethant i boblogrwydd gyda'u melodïau hardd, geiriau pwrpasol a rhythm gwych. Ro'n nhw'n arbennig hefyd gan mai tair merch oedd rhai o'r prif aelodau - Betsan o Dalgarreg, Nia o'r Tymbl a Fflur Dafydd o Landysul. Dyma eiriau Fflur ...

Do'n i ddim yn siŵr iawn sut i deimlo ynghylch gig ola'r Panics. Yn sicr, roeddwn i'n drist wrth feddwl fod y band a fu'n rhan o fy mywyd cyhyd yn dod i ben. Diwedd cyfnod - cyfnod hir a bythgofiadwy o chwerthin, chwysu, cw'mpo mas, cerydda, mynydda, cwympo drosodd, neidio, cario, herio, crio a chredu!

Cyfnod ysgol a chyfnod coleg yn toddi yn un freuddwyd fawr gerddorol. Rwy'n dal i gofio ymarfer cynta'r band (er nad oedd y gair 'band' wedi cael ei grybwyll bryd hynny) - fi, Nia a Betsan - ein dannedd ni'n borffor 'rôl yfed gwin coch, yn gwneud twrw fin nos wrth chwarae'n offerynnau yn wael iawn, iawn! - ac erioed yn breuddwydio y gallai'r weledigaeth feddwol droi'n realiti - ac y byddai'r awydd am greu cerddoriaeth yn ymgorffori fel 'Johnny Panic' - band sydd wedi newid ei lein-yp yn fwy nag y mae ambell un wedi newid ei drwsus.

Ac er gwaethaf y ddelfryd mai band i ferched yn unig fyddai'r Panics, diolch byth am y dynion amrywiol a fu'n rhan o'r band, er mwyn ein cadw ni'n tair wrth yddfau'n gilydd! Diolch yn dalpe i Denz, Colin, Trystan, Rhydian a Alex am basio trwyddo, diolch yn arbennig i Squids am fod yn 'gefen' (ys dywed cymeriadau Cwmderi) - ac i'r criw ymroddgar, parhaol - Gethin 'earplygs' Sanders, lwan 'Llangain' Evans, Rhys 'Y Barf James, a lestyn 'Kiddo' Jones.

Ac roedd 'na falchder hefyd, wrth gamu oddi ar y llwyfan am y tro olaf, yn y ffaith ein bod wedi llwyddo i ymwrthod y pwysau cynyddol sydd ar fandiau'r sîn gyfredol i droi'n ddwyieithog. 'Doedd canu yn Saesneg erioed wedi croesi ein meddyliau ni, er gwaetha'r pwysau a ddaeth o wahanol gyfeiriadau i ni wneud er mwyn troi'n broffesiynol. Doedd Saesneg, yn syml iawn, ddim yn rhan o'n gweledigaeth ni fel band. Ac mae'n dorcalonnus gweld cyn lleied o fandiau yng Nghymru sydd yn meddwl felly bellach, a chymaint o fandiau sy'n cael eu dallu gan obeithion seithug am yrfa ddisglair dros y ffin, heb ystyried am eiliad y buddiannau sydd i ganu'n eu hiaith gyntaf a chyfrannu deunydd gwirioneddol wreiddiol at ddiwylliant leiafrifol, yn hytrach na cael eu llyncu gan Loegr.

Yn ddiweddar bu^m mewn gig Cymdeithas yr laith yn Aberystwyth. Nid yn unig y gwnaeth y band 'The Poppies' ddangos diffyg parch llwyr at y Gymdeithas trwy ganu y rhan fwyaf o'u set yn Saesneg, ond roedd gan y prif leisydd hyd yn oed y wyneb i ddweud: "I'm gonna sing a few songs in Welsh now because, um, I speak it, and well, y'know, it's a Cymdeithas yr Iaith thing... "

Does dim angen dweud mwy. A ma'r cyfan yn fy ngwneud yn fwy penderfynol byth i gamu'n ôl ar y llwyfan 'na - y Gymraeg lond fy lleferydd.

dan ofal Prosiect Papurau Bro


Cyfrannwch

Glynne Jones, Glaspwll, Machynleth
Dwi'n meddwl hefyd pan fu Evan Jones yn aelod o 'Gymdeithas lenyddol Machynlleth', ym 1854 mi enillodd y Wobr-Traethawd am lyfrun sef Darlundraeth o Fachynlleth a'i Hamgylchoedd; cyhoeddwyd gan Adam Evans Machynnleth yn 1855. Llyfrun bach o hanes diddorol iawn am rhai ffermydd ac ardaloedd ymm mhlwy Machynlleth. Ffugenw Evan Jones yn nheitl y Llyfrun yw Ieuan Dyfi.
Sat Mar 8 11:47:47 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy