BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
24ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Archeolegwyr Hen Olion Ger Llandysul
Medi 2003
Ychydig feddyliodd y gweithwyr wrth ddechrau clirio'r tir gerllaw Llandysul ar gyfer stad ddiwydiannol y WDA, y byddent yn dod o hyd i un o'r darganfyddiadau pwysicaf a welwyd yng Ngorllewin Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Wrth symud y pridd gwelwyd tri chylch tywyll yn mesur 12m ar draws. Galwyd am gymorth Archeolegwyr Cambria Llandeilo i archwilio'r safle, a chafwyd mai olion Crugiau Claddu sydd yma yn dyddio nôl i'r Oes Efydd tua 2000 CC.

Tua 200m o'r crugiau cafwyd tystiolaeth fod yna olion o fferm hynafol a allai fod wedi ei hadeiladu tua 5000 o flynyddoedd yn ôl. Ym marn yr archeolegwyr, y fferm yw'r darganfyddiad pwysicaf ac yn ddolen goll yn hanes y Gorllewin, ac er na ellir cynnig dyddiad pendant ar hyn o bryd, gall adeiladau'r fferm a'r lloc fynd nôl mor bell â 3000 CC. Maent yn dod o hyd i grochenwaith or Oes Efydd o fewn terfynau'r fferm hefyd, er fod rhai o'r adeiladau yn debyg flynyddoedd i rair es Haearn tua 2000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r darganfyddiad yn creu tipyn o gynnwrf yn yr ardal a gobeithio y cedwir y safle yn glir o adeiladau newydd er mwyn trysori'r olion hynafol yma i'r dyfodol, ac y bydd cyfle i bawb fynd yno i'w gweld. Gall hyn fod allweddol i ddenu rhagor o dwristiaid i'r ardal gan hybu'r economi lleol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy