BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Pobl ifanc yn darllen Dathlu Gŵyl Ddewi a Diwrnod y Llyfr gyda llyfr nawr!
Mawrth 2004
Plant yn eu gwisgoedd Cymreig, cawl a phice ar y mân, eisteddfodau a chymdeithasau ar draws y byd yn dathlu eu Cymreictod - dyna i chi ddarlun traddodiadol o Ddydd GŵyI Dewi.

Ond beth am ddathlu un o'n traddodiadau mwyaf gwerthfawr sef llenydda a rhoi tocyn llyfr yn anrheg? Gyda Diwrnod y Llyfr wedi bod ar Fawrth 4, syniad gwych yw i ni efelychu dathliadau Diwrnod y Llyfr yng Nghatalonia lle gwelir pobl yn rhoi llyfrau i'w ffrindiau a'u teuluoedd.

O Wasg Gomer eleni daw llyfrau newydd i blesio darllenwyr o bob oed. I'r plant lleiaf, does dim byd yn well na chael llyfr bwrdd sy'n gwneud sŵn wrth wasgu'r botwm ar Lili'r Llygoden a Miri'r Mochyn clywir y cymeriadau bach lliwgar yn gwichian. Sbloet o liw o bob math welir yn y llyfr stori Wini'r Wrach wrth i'w hudlath orfod newid lliw'r gath yn gyson er mwyn dod o hyd iddi. Mewn oes lle mae dewiniaid yn ffefrynnau gyda phlant, fe fydd hiwmor arbennig Wini yn siŵr o apelio.

Darlunydd enwog sydd wedi ennill nifer o wobrau am eu dehongliadau o chwedlau a straeon gwerin ydy Margaret Jones o Gapel Bangor, Ceredigion. Ond gwelir ei dawn am y tro cyntaf fel awdur ac arlunydd yn y gyfrol Saesneg i blant o'r enw Nat. Yn ôl Dr Robin Gwyndaf o Amgueddfa Werin Cymru "Y mae'n un o'r storïau gorau a ddarllenais ers tro byd... mae'n ail greu coelion, arferion a naws cyfnod y stori, yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda gofal a manylder, cyfnod pan oedd cred pobl yn y goruwchnaturiol yn parhau yn gryf... mae'r gyfrol hon yn fwy na stori am ymwneud merch ifanc synhwyrus â byd hud a lledrith y Tylwyth Teg, y mae hefyd yn stori am werthoedd oesol: cariad, gwasanaeth a theyrngarwch."

Y ffin rhwng byw a marw yw cyd-destun Jara, nofel afaelgar gan Gareth F. Williams ar gyfer pobl ifanc. Troediodd dros y tir arswydus hwn wrth lunio'r gyfres deledu o'r un enw ac mae'r nofel yn sicr o ysgwyd ac aflonyddu'r darllenydd."

Dathlwn hanes Cymru wrth i'r bedwaredd gyfrol ar bymtheg yn y gyfres Cof Cenedl gael ei chyhoeddi. Ceir ynddi chwe ysgrif wedi eu hysgrifennu mewn dull atyniadol ar amrywiaeth o bynciau fel 'Datblygiadau Cerdd Dant yng Nghymru', 'Y Ddewines o Gymraes gyntaf i'w dienyddio' a 'Delweddu'r Glöwr Cymreig ar ffilm'. Nod y gyfres hon a olygir gan Geraint H. Jenkins ydy dyfnhau a grymuso ymwybyddiaeth Cymry Cymraeg o'u tras a'u hetifeddiaeth. Dathlwch ein hetifeddiaeth - ewch ati i brynu a darllen llyfrau ar Ddiwrnod y Llyfr eleni.

Am fanylion pellach cysylltwch â Gwasg Gomer: Meinir Garnon James 01559 362371 meinir@gomet.co.uk neu Nia Jenkins 01559 362371 nia@gomer.co.uk

Diolch i Wasg Gomer am gyfranni'r llyfrau yn y gystadleuaeth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy