BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Ci defaid Sioe'r Clwb
Hydref 2007
Ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, cynhaliwyd Treialon Cŵn Defaid a sioe C.FF.I Llanllwni ar gaeau Abercwm trwy garedigrwydd Mr a Mrs Davies ac Eirlys.

Oherwydd y clwy' traed a'r genau gorfwyd dileu'r adran Treialon Cŵn Defaid a'r adran Defaid, ond yn eu lle cafwyd mabolgampau i'r plant ac amryw o gystadlaethau eraill yn ystod y dydd. Da o beth oedd gweld cymaint o bobl wedi dod i'n cefnogi yn ystod y dydd ac hefyd y cystadlu brwd oedd yn y tent.

Llywyddion y dydd eleni oedd Mr a Mrs Jones, Penlan y Môr, Llanarth. Braf oedd cael eu cwmni a diolch iddynt am eu rhodd haelionus. Cynhaliwyd sioe fideo am wyth yr hwyr yn nhafarn y Belle Vue ac yna ocsiwn i gloi'r noson. Cafwyd tipyn o hwyl gydag Aled Thomas, Bwlchclawdd yn gwerthu eitemau di-ri.

Gan gofio nad oedd y ffermwyr ifanc yn gwneud unrhyw elw, mae swm sylweddol o arian wedi cael ei godi at yr elusen a ddewiswyd, sef Apêl Arch Noa. Dymuniadau C.FF.I. Llanllwni ddiolch i'r holl noddwyr am eu cyfraniadau, y beirniaid am eu gwaith, i'r cystadleuwyr am eu cefnogaeth, y stiwardiaid ynghyd â phawb arall a wnaeth helpu. Diolch i chi gyd!

Canlyniadau:
Sioe Adran Garddwriaeth: Mr Eric Jones, Dwylan, Pencader
Adran Flodau: Mrs Janet Jones, Dwylan, Pencader
Adran Goginio: Mrs Marian Jones, Highview
Adran Cyffeithiau a Gwîn: Mr a Mrs Eric Jones, Dwylan, Pencader
Adran Gwartheg Godro: Mr a Mrs Howells, Gwarallt
Adran Gwartheg Eidion: Mr a Mrs Morgan, Glwydwern
Pencampwyr Gwartheg: Mr Huw Charles, Aberglwydeth
Adran Cynnyrch Fferm: Mrs Catrin George, Tirlan
Adran Plant Dan 7: Iestyn Harries, Maesnonni
Adran Plant 7-11: Aled Jones, Blaenblodau


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy