BBC HomeExplore the BBC

LLUN
16eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Huw o Bencader gyda'r fedal arian a dderbyniodd am ddod yn ail dros Gymru Colofn Hanna
Ebrill 2008
Rhywfaint o newid y mis yma, yn lle y glonc arferol rwyf am fynd â chwi am ddiwrnod allan i Lambed lle cynhaliwyd "Ras deg milltir y Teifi".

Roedd y ras yma yn cael ei rhedeg dros ffiniau Llambed a'r cylch, allan am y dref yn gyntaf cyn mynd am Lanfair, Cellan a nôl am y dref a gorffen yn y cae rygbi yn Llambed. Roedd hefyd yn bencampwriaeth Cymru o dan 20 oed ac roedd fy mrawd Huw yn cystadlu. 'Roedd pawb yn gyffrous iawn pan ddaeth mewn yn ail dros Gymru. Roedd mor hapus â'r gog a ni i gyd mor falch â phaun. "Roedd ei amser am y deg milltir yn 68 munud a 36 eiliad, felly ychydig dros awr, anodd da fi gredu!

Mae'n rhedeg llawer o filltiroedd bob dydd, o amgylch Pencader, Llanllwni, Gwyddgrug, New Inn a'r cylch ac yn mwynhau'n fawr iawn. Erbyn hyn mae'n aelod o glwb Sarn Helen ac yn rhedeg yn aml yng Nghymru a Lloegr. Bu yn aelod o glwb Harriers Caerfyrddin pan yn rhedeg rasus trac. Daeth yn 3ydd dros Gymru yn ras triathlon pan yn 14 oed.

Derbyniwyd ef i redeg Ras yr Wyddfa eleni ym mis Gorffennaf lle bydd yn rhedeg pum milltir lan yr Wyddfa a phum milltir lawr. Edrychwn ymlaen i fynd yno i'w weld.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy