BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
15fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Enillwyr cystadleuaeth Arwydd i Hyrwyddo'r Rali Hwyl a llwyddiant CFFI Llanllwni
Ebrill 2007
Daeth Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr at ei gilydd ar 31 o Fawrth i'r Mart, Nantyci i gymryd rhan mewn cystadlaethau Diwrnod Gwaith Maes.

Daeth cryn lwyddiant i Glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni wrth i'r aelodau gipio'r safle cyntaf mewn tair cystadleuaeth. Diolch i bawb a fu'n helpu erbyn y diwrnod.

Cafwyd cryn dipyn o hwyl a sbri yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth Noson yng Nghwmni a gynhaliwyd yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ar nos Wener, 16 Chwefror 2007. Er na chawsom wobr fe gafwyd beirniadaeth dda am y perfformiad. Hoffwn ddiolch i Mr John Thomas am greu'r sgript ac ein dysgu.

Ar 28 o Chwefror yn Ysgol Gynradd Nantgaredig cymerodd Rhian Davies (Cadeirydd), Nerys Thomas (Siaradwr) ac Anwen Jones (Diolchydd) ran yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Adran Iau. Daeth y tîm yn 5ed allan o 10 a llongyfarchiadau i Rhian Davies am gipio'r wobr gyntaf fel Cadeirydd, hefyd llongyfarchiadau i Anwen Jones am ddod yn ail fel Diolchydd. Mawr yw ein diolch i Mrs Eileen Davies, Gwndwn am hyfforddi'r tîm.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Lefel Cymru yn Ysgol y Preseli, Crymych lle ddaeth tîm Adran Iau Sir Gâr yn ail gyda Rhian Davies yn dod yn gyntaf fel Cadeirydd.

Ar nos Fercher 14 o Fawrth aeth Sion Evans, Nerys Thomas, Meryl Davies a Rhian Davies lawr i Canaston, Sir Benfro i gymryd rhan yn y gystadleuaeth bowlio deg, lle cawsom gryn dipyn o sbri.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy