BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
24ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Cerys Bowen Datblygu Papurau Bro
Ebrill 2003

Pleser gan bwyllgor llywio y Prosiect Papurau Bro yw cael cyhoeddi penodiad Rheolwr ar gyfer datblygu'r cynllun. Fe fydd Cerys Bowen yn dechrau yn ei swydd ganol mis Ebrill, ac yn arwain y prosiect arloesol hwn.

Merch o Rydaman yw Cerys, sydd bellach wrthi'n paratoi ei chartref newydd yn Ffairfach, ger Llandeilo. Mae ganddi gryn brofiad yn y maes newyddiadurol fel Gohebydd Celfyddydau i'r cylchgrawn Golwg ac yn ddiweddarach fel gohebydd i'r rhaglenni Heno, Wedi Chwech a Wedi Saith ar S4C.

Derbyniodd radd gyfun BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu o Brifysgol Cymru Aberystwyth yn 1999, cyn mynd ymlaen i dderbyn gradd uwch mewn Newyddiaduraeth o Brifysgol Cymru Bangor flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae Antur Teifi ar y cyd â Mentrau laith Myrddin wedi derbyn arian Amcan Un i gynorthwyo i ddatblygu ac ehangu pump o bapurau bro Sir Gaerfyrddin, sef Cardi Bach, Clebran, Cwlwm, Y Garthen ac Y Lloffwr. Bydd hyn yn eu galluogi i gydweithio yn agosach a rhannu o brofiadau ac arferion da ei gilydd.

Y nod yw cydweithio gyda gwirfoddolwyr presennol y papurau er mwyn denu mwy o newyddion a nawdd a mwy o ddarllenwyr a chyfranwyr o bob oedran a phob carfan o'r gymdeithas. Drwy hyn gellir ddatblygu syniadau o'r newydd er mwyn ychwanegu at y cyfraniad aruthrol mae'r papurau yn gwneud i'w cymunedau eisoes. Fe fydd y cyfan yn dod o dan arweiniad rheolwr y prosiect, Cerys Bowen, a fydd yn arwain y tim o ddau Olygydd, Swyddog Marchnata a Chynorthwy-ydd Gweinyddol.

"Rwy'n gyffrous iawn i fod yn arwain y prosiect newydd hwn o'r dechrau'n deg" meddai Cerys. "Rwy'n edrych ymlaen i gynnig nifer o syniadau newydd i wirfoddolwyr y papurau bro, ac i gydweithio â'r cymunedau i ddenu mwy o ddarllenwyr a chyfranwyr er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus iawn i'r papurau.

"Mae hwn yn gyfle gwych i ni ddatblygu mwy o greadigrwydd a diddordeb yn y papurau bro dan sylw, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr i fynd mâs i'r cymunedau i gwrdd a chydweithio gyda nifer fawr o gymeriadau'r ardal."

Ymysg nifer o bethau eraill, mae'r prosiect hefyd yn edrych i gryfhau colofnau amrywiol ac erthyglau penodol yn ymwneud a ieuenctid, dysgwyr, chwaraeon a'r anabi yn y papurau. Nid pwrpas y prosiect yw ysgwyddo gwaith y gwirfoddolwyr, ond yn hytrach gweithredu mewn rôl gefnogol a chynorthwyo i ddatblygu syniadau newydd, cyffrous. Rhaid pwysleisio bod cyfraniad y gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u doniau a'u hamser bob mis yn bwysicach na dim, a thrwy adeiladu ar y gwaith gwych a wneir eisoes, bydd modd sicrhau llwyddiant y papurau a pharhad y prosiect.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy