BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Garthen
Dyfed Bowen o Llandysul Dysgu Gyrru
Chwefror 2006
Mae dysgu gyrru yn brofiad digon annifyr i'r gorau ohonom. Ond dychmygwch gymryd eich gwersi a'r prawf o flaen miloedd o ieuenctid Cymru!
Dyma wnaeth Dyfed Bowen o Landysul, ar raglen deledu Ar y Ffordd S4C nôl yn mis Rhagfyr. Dyma'i brofiadau. Erthygl gan Dyfed Bowen o Llandysul

"Ar ôl ennill cystadleuaeth Uned 5, S4C, Ar y Ffordd cefais y cyfle i ddysgu gyrru ac i basio fy mhrawf gyrru yn rhad ac am ddim, yr unig beth oedd, roedd rhaid imi wneud hyn o flaen camerau teledu.

Roeddwn i wedi cael ambell wers tua blwyddyn a hanner yn ôl ond penderfynais brynu beic modur yn lle. Fe anghofiais am yrru car. Erbyn nawr mae fy ffrindiau ysgol i gyd wedi mynd i chwilio am eu ffortiwn yn y ddinas ddu, dwi'n lwcus ges i jobyn cwshi S4C fel fy mod i yn gallu cael y rhyddid i fynd lle bynnag fi moyn pryd bynnag fi moyn.

Cafodd pob un o'r gwersi eu ffilmio gan dri camera tu fewn i'r car. Ambell dro roedd y criw tu allan yn ffilmio hefyd. Roeddwn yn canolbwyntio shwt gymaint ar y gyrru doeddwn i ddim yn rhoi llawer o sylw i'r camerâu. Ond dwi'n credu fod Helen, fy athrawes wedi bod yn fwy ymwybodol o'r camerâu oedd yn gwylio ei phob symudiad a gorchymyn hi. Rhaid cofio bod enw da Helen 'ar y lein' fel petai. Roedd canlyniad fy mhrawf i hefyd yn mynd i adlewyrchu yn dda neu'n ddrwg ar y math o hyfforddiant roedd Helen yn ei roi.

Y peth anoddaf am yr holl raglen oedd trial cael y Gogs i ddeall fi'n siarad. Dwi'n deall nhw'n siarad neu'n 'mwydro' yn iawn! Falle achos bod S4C yn defnyddio gormod ohonyn nhw ar y teledu neu falle achos bod ni'r Hwntws yn marw mas, ta waeth. Rhaid i mi ddweud mae'n gwneud i fi deimlo yn eithaf arbennig. Roedd pawb yn meddwl fod yr acen yn ddiddorol ac ambell un yn treial dweud pethau fel 'man y man' a 'joio mas draw'.

Roedd y prawf ar y 10fed o Ragfyr, bore dydd Sadwrn pythefnos cyn y Nadolig yng nghanol Bangor, grêt ife! Yn gynnar iawn! Ugain munud i naw yn y bore. Felly roedd trwy'r dydd gyda fi i lefain neu ddathlu, roeddwn yn gobeithio yn fawr y buaswn yn pasio oherwydd dwi'n gwybod fy mod i yn gallu gyrru yn saff a chyda hyder. Ond roedd digon posib i unrhyw beth fynd o'i le ar y dydd.

Mae'r profiad wedi bod yn un bythgofiadwy, ac mae fy 'Mos' wedi rhoi caniataid i mi treial yr X Factor blwyddyn nesaf felly falle bydd mwy o gyhoeddusrwydd i siop fach Llandysul! Wel os nad ydych yn siwr os ydw i wedi llwyddo neu beidio galwch i fewn i'r siop, neu gwyliwch mas am y beic modur arian."

Erthygl gan Dyfed Bowen o Landysul


Cyfrannwch

Vanessa
Wyt ti wedi gwerthu'r car eto?
Wed Jan 28 20:22:23 2009

Lois
Fi yw nith ti, cofio Lois. Lico dy wallt.
Wed Jun 13 18:39:10 2007

Vanessa o Penwac
Diddorol iawn Dyfs. Wyt ti wedi gwerthu'r beic eto?
Sat Feb 17 16:30:15 2007


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy