BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
22ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Capel Blaencefn, y Ferwig, 1808-2008 Daucanmlwyddiant ym Mlaencefn
Tachwedd 2008
Hanes dathliad daucanmlwyddiant eglwys Blaencefn, y Ferwig.

Mae eglwys Blaencefn, y Ferwig, yn fwy nag adeilad cerrig a sefydliad crefyddol i enwad arbennig. Mae yn ganolfan gymdeithasol a diwylliannol i'w haelodau a hefyd yn atynfa i weithgareddau bro a sylwedd dros y blynyddoedd. Erys ysbryd y trigolion cynnar y ffermydd a'r tyddynnod a fu yn asgwrn cefn i'r achos yn gyson trwy ei hanes.

Ac ar y Sul, 21 Medi cynhaliwyd cyfarfodydd dathlu daucanmlwyddiant i gydredeg a'r cyrddau mawr traddodiadol. Tri gair sy'n dod ar unwaith i'r meddwl yn ei atgofion am Flaencefn yn ôl y Parch.D. Hughes-Jones - 'Croeso, caredigrwydd, cymeriadau'.

'Cefais bopeth mae Gweinidog yn gweddio ei gael yno. Eglwys gytun ac aelodau oedd ag ysbryd i weithio'. (Y Parch. H. Gwynfa Roberts)

'Roedd croeso a charedigrwydd aelodau Blaencefn yn ddiben draw. Bob tro yr awn yno teimlwn fy mod yn cwrdd a theulu. Teimlwn gynhesrwydd yr aelwyd'. (Y Parch. Tom Roberts)

`Y mae i Gapel Blaencefn le cynnes yn fy nghalon yn bennaf am ei fod yn gapel cynnes'. (Y Parch. Ifor ap Gwilym)

Daeth torf niferus a gwerthfawrogol ynghyd i flasu'r cyfraniadau ac i dalu teyrnged i'r aelodau presennol a'r gorffennol am eu ffydd, ei gweithgarwch a'u hymroddiad. Saif yn llusern o oleuni.

Llywyddwyd yr oedfa gan y cyn-weinidog, y Parch. W. Raymond Jones. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan y Parch.

Gareth Morris a chafwyd cyfarchion gan dri gwr cymwys iawn. Yr ychwanegiad I'w neges ar ran yr Henaduriaeth cyfeiriodd Twynog Davies at achlysur arall. Wedi iddo ddysgu cor Blaencefn i ganu `Clawdd Madog' ar gyfer yr eisteddfod a chael llwyddiant a'r wobr, tarddodd y syniad a genedigaeth Cor Cymysg Penparc.

Siaradodd Mr Hywelfryn Jones yn gynnes ar ran yr ofalaeth a'r Parch. Irfon C. Roberts ar ran eglwysi'r cylch. Plethwyd ei eiriau difyr gan sbrinclad hael o hiwmor.

Cyflwynwyd 'Hanes yr Achos' gan y Dr. Eryn White - a chyfrannwr cyson a phoblogaidd ar y cyfryngau. Drwy gynhesrwydd ei phersonoliaeth, ei hymchwil trylwyr, a dawn y cyfarwydd, llwyddodd i ddal sylw ac edmygedd y gwrandawyr astud - i gyfleu testun a ymddangosai'n drwm o hirbell - yn ddifyr a diddorol.

Cyhoeddwyd llyfryn hardd o waith golygyddol manwl y Dr. Eryn White.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy