BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Dic Jones yn cyflwyno bat criced i T Llew Jones wedi ei lofnodi gan y beirdd a fu'n ei gyfarch. T Llew Jones yn 90 oed!
Tachwedd 2005
Dic Jones yn edrych ar agweddau eraill ar fywyd y llenor a'r bardd enwog T. Llew Jones ar ddathliad ei benblwydd yn 90 oed.
"Wrth i ni longyfarch a chydlawenhau â T. Llew ar gyrraedd ei ddeg a phedwar ugain mae'n beryg i ni ollwng dros gof fod ganddo linynnau eraill i'w fwa heblaw llenydda a barddoni.

Gwyddom wrth gwrs ei fod yn gampwr o chwaraewr gwyddbwyll - chwaraewr ac athro di-ail yn ôl y rhai a ddylai wybod. Digon bach o barch a gâi'r dalent honno gan Alun Cilie, fodd bynnag. Pan ddigwyddai Llew fod yn absennol o'r Rŵm Bach a rhywrai'n holi ble'r oedd, "Pwff," fyddai ymateb Alun, "Ma ryw whare draffts arno nawr to!" Ond efe fu'n bennaf gyfrifol am sefydlu Cyngres Wyddbwyll Cymru. Hyd hynny, dod o dan adain Prydain a wnâi'n chwaraewyr ni i gyd.

Bu'n goediwr yn ei ddyddiau cynnar, ac mae saga cwympo'r dderwen gau yn un na chafodd pawb y fraint o'i chlywed, serch mai `rhwbeth at faint cropyn eithin gweddol' oedd barn Y Cilie am y pren anferth ' hwnnw.

Pan anfonwyd ef i'r Aifft adeg y rhyfel fe'i cadwyd yno gryn dipyn yn hwy na rhai o'r lleill - roedd ei feistri yn bobol criced, a'r tîm ar y pryd yn brin o droellwr llaw chwith. Pethau rhyfedd yw blaenoriaethau yntê.

Bydd rhai ohonom hefyd yn cofio sefydlu Cymdeithas Ceredigion. Llew oedd prif symbylydd y fendith honno. Ef hefyd oedd un o'r mwyaf blaenllaw wrth sefydlu Cymdeithas Barddas adeg Steddfod Aberteifi. Ac ni bu llais tebyg i'r eiddo ef o Men meicroffon erioed, na di-roi-ifewnrwydd hafal iddo mewn ymryson. Nid oedd ildio i fod, nes i Feuryn roi'r marc - ac nid bob amser wedi hynny, chwaith!

Ond nid yw Llew yn gerddor. Mae'n gas ganddo ganu. Pan ddeuai Frank, tafarnwr y Pentre ar y pryd, i mewn i'r Rŵm Bach i gyhoeddi stop tap (ac yntau'i hun fynychaf 'yn ysbryd y darn' erbyn hynny) byddai'n dechrau arni mewn llais rywle rhwng Charlotte Church ar ddiwrnod gwael a Jimmy Durante ar ddiwrnod gweddol. `Y sgwarnog fach ar ben y rhos' fyddai'r repertwar bob tro, ond ymhell cyn i honno ddechrau pori byddai Llew allan drwy'r drws ac am adref. Nid bod llawer o le i'w feio, o ran hynny.

Ond un noson gwnaeth safiad ar egwyddor. Doedd dim o'r fath beth a 'noise pollution' yn y geiriadur ar y pryd. Ond ym marn Llew roedd eisoes yn ffaith. Daethai criw o athrawon i lawr i ymlacio o Wersyll yr Urdd yng Nghefncwrt ar ddiwedd wythnos digon trafferthus, siŵr o fod. Ac i lawr i'r Rŵm Bach heb wahoddiad, os clywsoch chi rioed shwd beth! Yn waeth na hynny, dyma'i harweinydd (sydd erbyn heddiw yn ffigwr amlwg ar y cyfryngau) yn eu cymell i ganu. A hynny, cofiwch chi, ar ganol trafodaethau llenyddol o'r pwys mwyaf Hawyr bach, ar gymaint a wyddai ef gallai tynged y Gadair y flwyddyn wedyn, heb son am y goron a'r fedal a'r englyn, ac efallai'r Daniel Owen hefyd, fod yn dibynnu ar y llys hwnnw!

Roedden nhw eisoes wedi BingBong-Beian (yn ddigon aflafar mae'n rhaid cyfaddef) ddwywaith neu dair, a rhyw hanner y ffordd i Frest Pen Coed pan gododd Llew ar ei draed a golwg fel Ofnadwy Nos arno. A dyma roi gwybod 'u seis iddyn nhw. Erbyn iddo orffen roedd yr arweinydd druan, er glewed oedd mae'n siŵr, yn ein hatgoffa am 'Wil went to his boots' a'r Rŵm Bach gennym i ni'n hunain eto.

Dro arall, a hithau'n ganol haf a'r lle yn orlawn (onidê ni buasai Beryl erioed wedi caniatau'r fath beth) daethai grŵp o ddieithriaid i mewn ac eistedd o gwmpas y lle tân a'u cefnau tuag atom ni yn ein cornel arferol wrth y palis. Roeddwn fel petawn yn lledadnabod un ohonynt - rhyw fath o Gymro gallwn feddwl, ond ni fu dim cyfathrach rhyngom ar wahân i ryw nod fach o gydnabyddiaeth. Serch hynny, daethai'n amlwg, wrth yr ambell banner cewc a dowlai dros ei ysgwydd tuag atom, a'r sisial rhyngddynt, mai ni oedd eu testun trafod.

Ymadawsant ymhen tipyn, a sylwodd rhywun ar becyn sigarets Players wedi'i adael ar y silff ben tan a chodi i'w estyn i Llew (roedd yn smociwr yr adeg honno). Gwaetha'r modd yr oedd yn wag, ond roedd yn amlwg mai'r pecyn hwn fu'r moddion cyfathrebu dirgel rhwng y dieithriaid, achos ar ei gefn roedd y geiriau hyn, "In the corner T. Llew Jones - I think. At the end some bard or other - others I don't know". A dyna'n rhoi ni i gyd yn ein lle!"

Erthygl gan Dic Jones

  • Cliciwch yma i ddarllen cyfarchion pen-blwydd i T. Llew Jones ac i weld lluniau o'r dathlu. Gallwch chi gyfrannu i'r sgwrs am ei lyfrau yma hefyd.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy