BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Gwilym Williams a Hefin Wyn Baw!
Tachwedd 2003
Carfan fechan ddaw ynghyd fel arfer i bwyllgor blynyddol llywodraethwyr ysgolion, ychydig ddaw ynghyd i drafod llwybrau cyhoeddus, ysmygu, yfed a gyrru ond pan ddaw'r amser i drafod baw cwn ar draethau mae'r mannau cyfarfod dan eu sang.

Mae'n bwnc sy'n cynhyrfu'r teimladau a'r emosiynau a daw wmbreth o 'stadegau, dyfyniadau a phrofiadau gerbron. Ar brydiau daw'r gwaed i'r berw.

Ar nos Iau, 23 Hydref cynhaliwyd cyfarfod agored yn Neuadd Pontgarreg i drafod goblygiadau y problemau sy'n codi o ganiatáu cwn ar draeth Llangrannog, yn enwedig dros fisoedd prysur yr haf. Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Simon Thomas AS. Yn bresennol oedd Alun Lloyd Jones, aelod o Gabinet Ceredigion ar faterion amgylcheddol a Huw Williams, dirprwy gyfarwyddwr adran yr amgylchedd dros Geredigion. Y cadeirydd oedd Gwilym Williams, hefyd yn gadeirydd Cyngor Cymuned Llangrannog.

Dywedodd mai pwrpas y cyfarfod oedd gwrando a chasglu gwybodaeth y cyhoedd ar y mater gerbron. Dros y blynyddoedd mae'r cyngor wedi derbyn llawer o gwynion oddi wrth blwyfolion ac ymwelwyr am broblem cwn a'u baw ar draeth Llangrannog.

Roedd cynrychiolwyr o Gei Newydd, Tresaith a Llandysilio gogo yn bresennol. Derbyniwyd 1 llythyr oddi wrth Dr Morgan, Cei Newydd, oedd yn methu bod yn bresennol. Cyfeiriodd ei fod yntau yn defnyddio'r traeth gyda'i deulu. Gwelai faw cwn ar y traeth ac roedd yn fater iechyd amgylcheddol. Dywedodd fod baw cwn yn llawn bacteria a phe bai yn dod mewn cyswllt â llygaid neu friw gallai achosi canlyniadau difrifol. Dylid addysgu perchnogion cwn i fod yn fwy gofalus.

Soniodd y cadeirydd ei fod yn gwybod am fachgen 10 mlwydd oed yn Saundersfoot a gollodd ei olwg mewnun llygaid wedi iddo gyffwrdd a baw cwn. Dywedodd hefyd fod llawer o draethau wedi atal cwn yn ystod misoedd yr haf a'r gaeaf, e.e. Abertawe. Oherwydd y cwyno teimlai'r cyngor y dylai Ceredigion weithredu polisi cyfansawdd I atal cwn o'r traethau o fewn y sir. Teimlai rhai y dylid gwneud hyn yn gyfangwbl.

O'r llawr cyfeiriodd y cyhoedd at:
1. Diffyg arwyddion; arwyddion aneglur ger y traethau. Mae rhan o draeth Llangrannog wedi ei neilltuo i dderbyn baw cwn yn yr haf. Mae'r arwydd yn fan ei brint ac nid yw cwn yn medru darllen - na'u perchnogion! Trefn hollolannerbyniol.
2. Trosglwyddwyd protest wedi ei lofnodi gan 100 o gydymdeimlwyr eisoes.
3. Mamau yn codi cestyll tywod gyda'u plant cyn i gwn rhydd godi coes drostynt ac mewn un digwyddiad eu haddurno â dolur rhydd o flaen y plant.
4. Pobl yn cadw draw oherwydd y budredd.
5. A ddylai'r cwn fod ar dennyn?
6. Mae baner las Ewrop, uchelgais pob traeth, yn seiliedig ar lendid. Nid yw baw cwn sy'n rhedeg yn rhydd ar draeth yn mynd i gefnogi'r cais.

Sylwadau Alun Lloyd Jones oedd:
1. Rhaid edrych ar y broblem fel cyngor sir.
2. Nid yw dau warden cwn yn ddigon.
3. Rhaid addysgu y lleiafrif.
4. Rhaid cyflwyno biniau a bagiau i ddal a chasglu'r baw.
5. Problem annysgybledig ydyw.
6. Rhaid oedd targedi'r broblem trwy'r dreth dros y flwyddyn ariannol newydd.

Barn y perchnogion cwn, a eisteddai mewn carfan oedd:
1. Hawl i fynd a'u cwn i'r traethau ar bob achlysur.
2. Byddai deddf yn torri hawliau dynol.
3. Dim cefnogaeth oddi wrth y cynul liad.
4. Dim tystiolaeth feddygol i brofi fod baw cwn yn achosi dellni.
5. Roedd eisiau mwy o arwyddion.
6. Gwrthod derbyn tystiolaeth y cyngor am y llygredd, a'r cwynion - heb eu gweld. Esgus bach cyfleus!
7. Byddent yn barod i gydweithio, e.e. am 6-8 wythnos dros yr haf.
8. Nid oedd eu cwn hwythau yn gwneud dim llygredd.
9. Roedd rhai perchnogion wedi mynychu'r traeth ers blynyddoedd ac wedi dysgu'u cwn i beidio llygru'r traeth. Nid oedd y cwn yn rhydd heb eu perchnogion.
10. Roedd un eisiau rhoi'r gwaith o ddal y troseddwyr ar y gwarchodwr bywyd - cymryd eu henwau a rhifau eu moduron. Gwaith gwarchodwyr bywyd yw achub bywyd nid casglu enwau a dal cwn.

Mae rhaid i Geredigion a'r cynulliad gefnogi polisi o addysgu'r cyhoedd, creu deddf weithredol a chall a chadw cwn oddi ar y traethau dros, dyweder, dri mis o'r haf, o leiaf.

Cafwyd crynodeb siomedig iawn oddi wrth Alun Lloyd Jones o'r "cabinet". Ar ôl gwrando ar y ddwy garfan, ac roedd dau gonsensws, cafodd ei alw lawr ar gam ddealltwriaeth. Ac roedd naws y llythyr o wahoddiad wedi ei gamarwain. (Ateb gwleidyddol wrth eistedd ar y ffens).

Cynhaliwyd y pwyllgor i fesur teimlad pawb yn y gymdogaeth ac oherwydd y llythyron a dderbyniwyd yn erbyn baw cwn.

Wrth gwrs bod lleiafrif yn mynnu sylw, yn fwy i'w hunain na'u cwn. Rhaid eu haddysgu ac efallai trwy hynny cawn gydweithrediad.

Ac wedyn, gall pob unigolyn sy'n hoffi glan môr iachus a diogel ddweud -

    A than awel yr heli
    Ni chaf weld yr ych a fi!

    a

    Am Bica hardd dim baw cwn.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy