BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
O flaen cofgolofn Winston Churchill ym Mharis Ymweld â mynwentydd rhyfel
Rhagfyr 2006
Diwedd mis Medi aeth Lloyd Jones, un o golofnwyr Y Gambo ar daith i Ffrainc i ymweld â rhai mynwentydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu Golygydd y Mis yn ei holi.
Emyr: Y tebygrwydd yw bod i'r daith amcan arbennig?
Lloyd: Mae wedi bod yn fwriad gennyf i wneud y daith ers llawer o flynyddoedd i weld beddau bechgyn o'r ardal a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn arbennig bedd ewythr, y cefais fy enw ar ei ôl, sef Evan Lloyd, Fronfelen, brawd hynaf fy mam, a gyda llaw cefnder cyntaf dy fam-yng-nghyfraith.

Wedi gadael yr ysgol yn Nhalgarreg aeth Lloyd i weithio yn Siop Pontshaen. Wedi dwy flynedd yno aeth i weithio mewn siop ddillad yn Abertyleri, ac yno yr ymunodd â'r RWF a mynd allan i Ffrainc. Collodd ei fywyd ger Zezanne ym mis Mehefin 1918 yn 19 oed, ac yn y fynwent yno mae ei fedd. Mae Zezanne yn dref tua maint Castell Newydd Emlyn, tua 70 milltir i'r dwyrain o Paris a 50 milltir i'r de o Reims, ac yng ngwlad y gwinllannau.

Emyr: Faint o daith oedd hi a pha fath o daith?
Lloyd: Gethin a Rhian drefnodd y daith a hwy wnaeth y gyrru yn y modur Rover, ac yr wyf yn ddiolchgar iddynt am hynny. Teithiwyd bron i 800 o filltiroedd yn Ffrainc mewn 6 diwrnod. Yn ffodus iawn, cawsom fenthyg `lloeren lywio' ac wedi croesi trwy'r twnnel rhoddwyd `chip' ffyrdd Ffrainc ynddo, ac fe wnaeth y teclyn bach ein harwain i'r mannau cywir trwy'r amser. Nid oedd angen map, na holi i neb pa ffordd i fynd, nid oedd colli'r ffordd, a mynd i'r cyfeiriad anghywir a gwastraffu amser yn digwydd, ac oherwydd hynny gweld llawer mwy o fewn yr amser.

Emyr: Sawl mynwent y buoch yn chwilota ynddynt?
Lloyd: Pymtheg mynwent, rhan fach iawn o'r cyfanswm, gan fod 956 o fynwentydd militaraidd Prydeinig yng Ngogledd Ffrainc a Gwlad Belg. Y fynwent gyntaf i ni ymweld â hi oedd yn Bethune, tref tua 45 milltir i'r de o Calais. Mae yno 3,004 o feddau, yn eu plith beddau Evan John Jones, mab Margaret Jones, Cwmbwch, Rhydlewis a gollodd ei fywyd ym mis Medi 1915 yn 25 oed, ac M. O. Evans, priod Elizabeth Evans, Water St, Castell Newydd Emlyn a gollodd ei fywyd ym mis Ionawr 1915 yn 22 oed.

Teithio i'r de wedyn am tua ugain milltir i Arras ac aros yno nos Sul. Bore trannoeth teithio ugain milltir i Bapume. Yn ôl y plac coffa yng Nghapel Bwlchyfadfa, yma y syrthiodd Daniel Jones, Tafarnbach, ond ni wyddom ble mae ei fedd. Y tebygrwydd yw ei fod ym mynwent Bapume neu yn y fynwent nesaf sydd bedair milltir lawr y ffordd yn Warlencourt, gan fod llawer o feddau di enw ynddynt, dim ond 'A solider of the Great War - only known to God'. Ym mynwent Warlencourt mae 3,505 o feddau, un ohonynt o Ffostrasol, sef Tom Rees Davies, mab Rees a Maria Davies, Ffoslas, Capel Cynon, syrthiodd ym mis Hydref 1916 yn 33 oed.

Ymlaen eto ar y ffordd i Albert am dair milltir, troi i'r dde a mynd am ddwy filltir eto i Thiepval. Yma mae'r gofgolofn fwyaf sydd yn 150 o droedfeddi o uchder, yn cynnwys 64 o baneli sydd yn cynnwys dros 72 o filoedd o enwau, milwyr a gollodd eu bywydau ym mrwydrau'r Somme na wyddom ond ble mae eu beddau, llawer ohonynt wedi eu chwythu i ebargofiant.

Yn eu plith:
Daniel Jones, mab John a Hannah Jones, Tafarnbach, Pontshaen, 21-10¬1916, 20 oed.
David Davies, mab James Davies, Blaenglowonfach, Talgarreg, 7-7¬1916, 24 oed.
David Jacob Lewis, mab David ac Anne Lewis, Bronheulog, Llandysul, cyn hynny Woodland, Talgarreg, 28-2¬1917, 22 oed.
Timothy Melville Jones, mab Daniel a Grace Jones, Gwynfe, Llanarth, 21¬7-1916, 21 oed.
James Mayberry Jones, mab D. ac E. Jones, 30 Stryd y Coleg, Lianbed, 22-7-1916, 22 oed.
Llewelyn Jones, mab David a Catherine Jones, Henfaes, Llanybydder, 22-10-1916, 22 oed a llawer eraill o ardaloedd cyfagos, rhy niferus yw henwi.

Wedi treulio rhai oriau yn Thiepval, mynd yn ôl a chroesi'r briffordd ac ymlaen i Mamets ac i safle brwydr fawr Coed Mamets lle collodd 4 mil o filwyr eu bywydau mewn un noson a bore (ym mis Gorffennaf 1916), y rhan fwyaf ohonynt yn Gymry yn perthyn i'r Gwarchodlu Cymreig.

Ugain mlynedd yn ôl dadorchuddiwyd Draig Goch ar fryncyn yn wynebu'r coed, i gofio am y Cymry a gollwyd yn y frwydr yno. Ar y golofn sydd yn dal y ddraig mae'n ysgrifenedig:

Parchwn eu hymdrechion
Parhaed ein hatgofion.

O'r bryncyn hwn ym mis Gorffennaf 1916 lansiodd y milwyr y Corfflu Cymreig y 38ain rhaniad arfog eu hymosodiad ar yr Almaenwyr a oedd yn meddiannu Coedwig Mamets. Anodd oedd y dasg ond fe fu yn gwbl lwyddiannus. Codwyd y Gofeb hon i gofio am eu haberth a'u hymroddiad dros ryddid. Mewn angof ni chant fod.

Mynwent arall ar gyrion y pentref yw Delville Wood, sydd yn cynnwys 5523 o feddau. Un ohonynt yw Marteine Kemes Arundel Lloyd, mab Sir Marteine Owen Mowbray Lloyd, Bronwydd a gollodd ei fywyd mis Medi 1916 yn 26 oed, trwy'r farwolaeth hyn collodd Stad Bronwydd ei hetifedd. Mynd eto i'r dwyrain am 35 milltir i Busingy i weld bedd George Turk, Graig, Talgarreg yn y fynwent ar gyrion y dref, sydd yn cynnwys 670 o feddau. Collodd George ei fywyd ym mis Hydref 1918, tair wythnos cyn diwedd y Rhyfel, yn 20 oed. Yr oedd Evan Davies o Tŷ Newydd, Capel Cynon yn filwr yn yr un gatrawd ac yn ymyl George pan syrthiodd.

Wedi i Evan ddod adref wedi diwedd y Rhyfel, aeth gyda'i fam i'r gwasanaeth i Gapel Pisgah un Sul, ac wedi dod allan o'r capel aeth i gydymdeimlo â Mary, mam George, ond nid oedd Mary a'r teulu wedi cael unrhyw wybodaeth am dynged George. Yn naturiol, am fod y Rhyfel wedi gorffen, yr oeddynt yn edrych ymlaen i weld George yn dod adref, felly bu cael y newydd trist gan Evan yn siom ddifrifol iddynt fel teulu. Aeth 6 wythnos wedyn heibio cyn iddynt gael y wybodaeth yn swyddogol o'r Swyddfa Rhyfel.

Bu Evan Davies yn ffodus i gael dod yn ôl yn fyw a bu fyw am flynyddoedd yn Cross Inn. Yr oedd yn adnabyddus fel Ianto Curyll. Gwas yn Rhosgochfach, Mydroilyn oedd George cyn ymuno â'r fyddin yn y SWB. Pan yn gadael mynwent Busingy yr oedd yn dechrau nosi ac yn bryd mynd i'r gwesty i gael seibiant. Bore trannoeth (dydd Mawrth) teithio i'r de am dros 80 milltir i Sezanne i weld y fynwent yno sydd yn cynnwys dim ond 127 o feddau.

Emyr: Sawl un o'r 127 oedd o Gymru, a beth oedd y rheswm ei bod yn Sezanne sydd bron can militir i'r de o ddyffryn y Somme lle roedd y brwydro?
Lloyd: 5 milwr o Gymru sydd yn Sezanne, un o Clydach, Y Rhondda, un o Abertyleri, un o Llanfair Pwll, Sir Fôn, un o Dalgarreg sef Evan Lloyd, Fronfelen a John Davies, mab Hannah Davies, 3 Marble Terrace, Llandysul a gollodd ei fywyd yr un diwrnod â Evan Lloyd, yn 22 oed. Yr oedd yn gefnder i John Alaska Davies ac mae perthnasau iddo yn byw yn Llandysul heddiw.

Yr ail gwestiwn - yr oedd yn amser iddynt gael mynd adref am wyliau, ond penderfynodd y swyddogion eu hanfon i Sezanne i gael seibiant, fel y gallent eu cael yn ôl i'r gogledd ynghynt os fyddai angen. Yn anffodus, wedi cyrraedd Sezanne daeth un o fyddinoedd yr Almaen trwy'r ardal ar eu ffordd i'r gogledd ac nid seibiant a gawsant ond brwydr arall.

Wedi treulio diwrnod yn Sezanne mynd i'r brifddinas Paris ac aros yno am ddiwrnod a dwy noson. Bore dydd Iau, mynd tua'r gogledd i fynd am adref. Aros eto yn Bethune i weld mynwent Le Touret. Yno hefyd mae cofgolofn sydd yn cynnwys 13,000 o enwau milwyr sydd heb fedd, un ohonynt, John Watkin Evans, mab David a Mary Evans, Maes yr Eglwys, Llanarth, a syrthiodd ym mis Mai 1915 yn 27 oed. Mae hefyd wedi ei goffau ar fedd ei rieni ym mynwent Pisgah ac yn Neuadd Goffa Llanarth.

Aeth i Lundain i weithio mewn siop ddillad ac yno ymunodd â'r Gloucester Regiment. Yr oedd ei fam yn ferch Pantsod, Synod Inn a'i dad yn fab Pantgwyn, Mydroilyn. Yr oedd yn gefnder i Rosina Lloyd, Gorsgoch a'r diweddar John Jones, Glangraig ac yn ail gefnder i Evan Lloyd, Fronfelen.

Emyr: I newid testun, beth am y ffermio yn Ffrainc?
Lloyd: Y syndod mwyaf oedd mai dim ond tua cant o wartheg a tua dau gant o ddefaid a welwyd yn yr holl daith. Gwelwyd llawer o winllannoedd a tatws - yn ardal Longueval yr oedd tato bron ymhob cae ac yr oeddynt yn ddiwyd yn eu cynaeafu. Felly mae llawer o'r tatws sydd yn gwneud sglodion a crisps yn dod o Ffrainc. Diolch eto i'r trefnwyr ac i berchennog y lloeren lywio.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy