BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Hen hers geffyl Glynarthen ar strydoedd Aberteifi yn y Sadwrn Barlys. Hers y Glyn
Mehefin 2005
Chwilio am fwy o wybodaeth am ddyddiau cynnar hen hers geffyl Glynarthen sy'n denu sylw mewn gwahanol sioeau ar hyd a lled y wlad.

Ar strydoedd Aberteifi yn y Sadwrn Barlys eleni gwelwyd hen hers geffyl Glynarthen.

Mae'r hers wedi bod ym meddiant Mr Hugh Jones, o Lanwrin, ger Machynlleth, ers blynyddoedd. Mae gan Mr Jones ddiddordeb mawr mewn hen beiriannau fferm a.y.b. a chanddo gasgliad enfawr.

Fe werthwyd yr hers, yn wreiddiol, gan y Capel i Mr John Parry, yn 1967, gan nad oedd defnydd iddi bellach, ac angen ei lle.

Fe'i hadnewyddwyd yn ddiweddar ac mae'r Dr Glyn Jones, Aberystwyth, wedi cymeryd cryn ddiddordeb yn yr hers a chaiff ei harddangos mewn gwahanol sioeau ar hyd a lled y wlad. Dywedir ei bod yn werth tua pum mil o bunnoedd erbyn hyn ond nid yw'n ddymuniad gan ei pherchennog ei gwerthu.

Bu tipyn o holi ynghylch hanes yr hers. Y mae trigolion hynaf yr ardal yn ei chofio'n cael ei defnyddio. Ymhlith y rhain mae Mr Dai Powell, Bryndulais, welwyd ar raglen ar y teledu yn sôn amdani.

Methwyd, hyd yma, a darganfod pryd yn union y daeth i'r Glyn, ond mae'n debyg ei bod yma ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Credir ei bod wedi ei gwneud yn Aberteifi, o bosib, gan William George, Castle Street neu David James, Bathouse.

Gwelwyd cofnodion cwrdd eglwys y capel am 1911, lle bu trafod ynglŷn â'r angen i adnewyddu a phaentio'r hers. Gofynnwyd i Noah Edwards, Ardwyn i wneud y gwaith.

Yn Rhagfyr 1913 galwodd Ben Davies (y crydd) sylw at ddrws tŷ yr elor-gerbyd. Roedd eisiau ei atgyweirio. Pasiwyd fod David Morris, Deiniol i ofalu fod y gwaith yn cael ei wneud. Dywedodd Ben Davies, hefyd, fod y tŷ yn llaith, ac y dylid cael gwell lle i'w chadw. O dan yr Hen Festri y cedwid yr hers, lle hefyd, yr oedd stabl i'r ceffylau.

Ben Davies oedd a gofal yr hers yr amser yma. Roedd yn byw ddau dŷ i lawr o'r Festri.

Yng nghyfarfod 1920 o'r cwrdd eglwys penderfynwyd fod Ben Davies i gael swllt, o gyllid yr eglwys, yn ychwanegol at y swllt delid gan aelodau'r capel am ei benthyg. Penderfynwyd, hefyd, fod unrhyw un o'r tu allan i dalu triswllt yn y dyfodol gan fod popeth wedi codi yn ei bris.

Gobeithio y daw rhagor o wybodaeth i law ynglŷn â dyddiau cynnar yr hers.

Mae hiraeth am y meirwon - o'i gweled
Ar gael yma'r awrhon.
A pharch sawl arch gludodd hon
O degwch Ceredigion.

Emyr Oernant


Cyfrannwch

Alun Davies MBE o Salisbury
Roedd gan Gapel y Bedyddwyr, Llwyndafydd yr un fath o hers a'r Glyn, ac fe'i cadwyd mewn sied wrth ei hun, ar ochr dde yr hewl rhwng Llwyndafydd a Chwmtydu, bron fod y sied yna o hyd ond beth ddaeth o'r hers?
taffythenaafi@btinternet.com


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy