BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Cofio Siôn
Mawrth 2008
"Un o'r goreuon. Bachgen annwyl iawn."

Roedd gwrid oer ar wawr a machlud ac olion bysedd rhew ar ffos a llyn. Tawel oedd afon Soden wrth iddi lifo tua'r môr; roedd rhynwynt main y dwyrain yn cydio ar y rhos, ond dan drymder llifodd cynhesrwydd galarwyr y gymdogaeth dda tua phentref a chapel Nanternis. Dyma'r cynhebrwng mwyaf o ran nifer a welwyd yno ers cyn co'. Dan haul gwan ond llachar Chwefror - roedd yn gynulliad hardd ac yn arddangos y werin Gymreig ar ei gorau.

Roedd y gwasanaeth i ddiolch am fywyd Siôn yng ngofal y Parchedig Meirion Morris ac anrhydeddwyd yr achlysur gan bresenoldeb pump ar hugain o weinidogion - ac 11 ohonynt yn cymryd rhan. Ymhlith yr emynau ar y daflen roedd hoff emyn Siôn, ac yn ychwanegol i'r rhestr o'r cysylltiadau teuluol roedd y cymal trawiadol - `ffrind didwyll i bawb'. Roedd y trefniadau yng ngofal medrus Roy Evans.

Derbyniwyd cardiau a llythyron cynhwysfawr o gydymdeimlad gan y teulu - cyn belled ag Amsterdam, Llundain, Belfast, Birmingham, cyfundebau Llundain a Lerpwl, Eglwys Bresbyteraidd Iwerddon ac wrth gwrs o bob cwr o Gymru. Gwerthfawrogir hefyd lythyron oddi wrth rieni'r plant a fu dan ofal Siôn.

Brawychwyd bro a chenedl pan dorrwyd y newyddion am y ddamwain trwy air ac mewn bwletin dros y cyfryngau. Cymaint oedd yr adnabyddiaeth ohono - fel ffrind, fel arweinydd, fel cyfathrebwr ac fel un a fu'n gyfrwng i ysbrydoli, i gynghori ac a rannai ei amser ei hun er lles eraill. Roedd ei ddylanwad yn gymharol i dafliad carreg i ddyfroedd llyn. Ymestynnai'r cylchoedd i bob a chynhesrwydd naturiol yn rhan annatod o'i bersonoliaeth hoffus. Cymerai pawb ato, hyd yn oed o'r adnabyddiaeth gyntaf.

Un o'i nodweddion pennaf oedd ei fod yn wrandawr astud, a gyda chalon gwbl agored a disgybledig byddai'n cysylltu'n syth ag unigolyn neu gynulleidfa. I rywun mor ieuanc cyffesai ffydd mor gadarn a di-syfl. Trwy ei asbri heintus a'i ddehongliad hollol gyfoes o'r Efengyl, nid rhyfedd iddo greu y fath argraff ar ieuenctid ond hefyd ar y genhedlaeth hŷn. Ni fesurai amser. Rhoddai amser o'i natur hael. A phan fyddai'n cynnig ei ragoriaethau yn garedig, yn ddibynadwy eu lles, eto'n ddoeth a meddylgar -gwnâi hynny gyda hwyl a brwdfrydedd ac yn gyforiog o ffydd. Nid rhyfedd iddo lwyddo. Roedd yn llawn direidi naturiol a disgleiriai ei lygaid o ddyfnder ei enaid. A chofia pawb ei wên,'y wên na phyla amser' - a'r ddelwedd ohono yn brasgamu a'i got yn ei law a fflach o grys coch Cymru - a'r gitâr wrth gwrs!

Ond daeth sail i'w weledigaeth a'i ffydd o'i fagwraeth a pharch tuag at ei deulu ei hun a'r fro. Mab Ian a Gwendoline (Gwenno) a chwaer i Marian oedd Siôn Ifan Evans wedi ei fagu ar aelwyd gynnes fferm Tirgwyn, ger Caerwedros. Bu gofal ac esiampl ei rieni mor sylfaenol a maethlon i'w dyfiant i aeddfedrwydd. Yma clywodd lendid iaith, yma profodd gadernid yr uned deuluol, a phwysigrwydd y cysegr ac egwyddorion Cristnogol. Yma, clywodd adnod ac emyn a barddoniaeth. Yma dysgodd am werth ffrindiau a chymdeithas a gwaith cyfraniad yr unigolyn i wead bro. Yma rhannodd gyngor a chymorth, cymwynas ac o dan ffurfafen o lesni a chymylau profodd droeon yr yrfa. Yma clywodd fref y fuwch, a'r mor aflonydd yn y pellter, a rhyfeddu at liwiau'r tymhorau. Yma aroglodd wair ffres, llwch cynhaeaf, sawr y sodren, ffresni bore a chwys yr hwyr, a dawn hudlath y Fam Natur.

Mae bro Caerwedros a'i chyffiniau yn fro arbennig iawn. Mae ynddi gnewyllyn a bywyn byw o egni, ac elfennau cyfoethog o'r gymdogaeth dda. Ynddi mae gwead o hen deuluoedd, a'u traddodiadau yn ymestyn dros ganrifoedd. Un o blant y gwreiddiau hyn oedd Siôn ac roedd gyda'r cyntaf i'w chydnabod yn gyhoeddus. Mynychodd Siôn Ysgol Feithrin ac Ysgol Gynradd Caerwedros cyn ymuno ag Ysgol Ddwyieithog Dyffryn Teifi lle'i anrhydeddwyd fel dirprwy brif fachgen. Ac er gwaethaf cyfnod o salwch yn ei arddegau llwyddodd yn ei arholiadau TGAU a Lefel A - mewn Addysg Grefyddol, Electroneg a Mathemateg. Enillodd Ysgoloriaeth i Brifysgol Bangor.

Graddiodd mewn Astudiaethau Crefyddol yn 2002, ac wedi gweithio gyda phlant gydag anghenion arbennig dychwelodd i Fangor i astudio ar gyfer gradd M.Th. Parhaodd ei brysurdeb gyda Chyngor Ysgolion Sul yn Siop y Gair, Y Bala, a derbyniodd wahoddiad i dreulio blwyddyn yno. Cafodd waith yn y coleg fel Swyddog Ieuenctid, yr union waith yr oedd wedi dymuno ei wneud. Gwnaeth argraff ddofn ar bawb.

Ond bu'r holl brofiadau cynnar yn feithrinfa arbennig iawn. Yn bedair oed, bu'n dechrau'r Ysgol Sul ym Maenygroes gyda'i chwaer Marian ac yna yn oedfaon y plant, y Gymanfa Ganu, cwis Ysgolion Sul a phanto Nadolig. Bu'r diweddar Barchedig Nennog Thomas yn ei annog i fynychu gwersylloedd yr Ysgolion Sul yn Llangrannog a Phenygroes. Enillodd y gadair ym Mhenygroes.

Fe'i derbyniwyd yn aelod yng Nghapel Nanternis. Cynrychiolodd yr Annibynwyr mewn cynhadledd ieuenctid yn yr Alban, ac yn 2004 aeth i Johannesburg i gynhadledd ieuenctid arall - 'Globalisation, Changing Trends, Challenges and a Christian Youth Response'. Er y boen, cawn wella'r byd. A thwf cyd-weithio hefyd'.

Aeth i Frasil i nawfed Cymanfa Ganu Eglwysi'r Byd, a bu'n cynrychioli cyfundeb Ceredigion ar gyngor yr Undeb. Cyflawnodd waith gyda CWM, e.e. Tŷ Cenhadol, Golwg ar y Byd. A phan ddoi nôl i'w filltir sgwâr cyflwynai hanes ei deithiau ac arweiniai oedfaon gan ddefnyddio offer technegol diweddar i gyfleu ei neges fyrlymus a chyfoes.

A bu ei aelodaeth yng Nghangen Urdd Bro Siôn Cwilt, Clwb Ffermwyr Ifanc Caerwedros, Eisteddfod yr Ysgol, cystadlaethau celf a chrefft, corau, siarad cyhoeddus, adloniant a chystadlaethau Rali - yn 'atodiadau cyfoethog i'w brofiadau'. Ac yn ystod gwyliau ysgol gweithiai mewn siop haearnwerthwr yng Nghei Newydd ac estyn cymorth i blant anabl gyda `Dash'. Ond rhoddai ddwy law ac ysgwydd adre dan iau gwaith y fferm hefyd. Ac un o'i hoff funudau fyddai cerdded o amgylch y caeau a chrwydro cwm ac arfordir oddeutu Tirgwyn. Nid anghofiai Mamgu nac Wncwl Elwyn chwaith, na chyfle i chwarae gyda Mared a Thrystan.

A chredwch neu beidio roedd ganddo amser i'w ddiddordebau - cerddoriaeth, cyfrifiaduron, dringo a darllen. Cadwai mewn cysylltiad gyda'i ffrindiau ysgol ar bob cyfle - nodwedd arbennig ohono. Cyhoeddwyd teyrngedau cyfoethog yn y Tyst gan Geraint Tudur, Mari Fflur a Rhun Murphy. Ac yntau yng ngwyrddlesni ei anterth cyflawn torrwyd yr addewid ym marwolaeth annhymig Sion Ifan Evans.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â Ian, Gwendoline, Marian a'r teulu estynedig.

J.M.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy