BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Mair Rees a Megan Hayes yn darllen Y Gambo yn Harbwr Neko ar benrhyn yr Antarctig (Rhagfyr 18, 2006) Darllen Y Gambo yn yr Antarctig
Mawrth 2007
Yn Rhagfyr 2006 aeth Mair Rees, Llygad y Wawr, Llanarth i waelod y byd ... i'r Antarctig. A pham mynd yno? Dywed Mair:

Bues yn astudio dyddiadur y Capten R. F. Scott yn Ysgol Aberaeron (B1. 11) a gwnaeth ei ddarllen argraff fawr arnaf. Dwi ddim yn hoffi haul a thywod. Cefais gwmni Megan Hayes o Aberaeron. Ac wedi i Peter Rees, fy nghefnder, ein hebrwng i Abertawe, bws i Heathrow ac awyren Iberia i Buenos Aires. Fe hedfanon ni lawr i Ushuaia yn nhalaith Tierra del Fuego. Ac yno roedd ein llong y Professor Molchanov wedi angori ac yn ein disgwyl ni gyda 42 arall i hwylio i'r Antarctig. Hen long ymchwil Rwseg ydoedd a drawodd fynydd iâ ('growler') unwaith. Roedd arni 20 o griw o Rwsiaid gan gynnwys y capten, a 3 chogydd -un o'r Swistir, un o Sweden ac un o'r Iwcrain.

Roedd gennym gaban en-suite oddi tan bont y llong a gwelwn y gorwel a'r tywydd - o flaen neb! Ar ein cyfer hefyd roedd lolfa a bar, ffreutur a hawl i gerdded y deciau ac ymweld a'r bridge. A'r bwyd - wel, blasus a digon ohono gyda bwydlen gig, pysgod a llysieuol.

Allan â ni i'r môr mawr! Allan i'r Drake Passage - tymhestlog ac annifyr! Bues yn sâl iawn - a'r unig dro hefyd! A phle mae dyfroedd De'r Atlantig a dyfroedd cefnfor yr Antarctig yn cyfarfod - yno mae'r cril yn byw. Math ar greadur bychan ydyw gyda gwawr binc pan fydd heidiau mewn un man. Ac ar hyd y llinell yma mae'r morfilod, dolffiniaid, adar a physgod eraill yn ymgasglu gan lyncu ychydig, hyd at gannoedd o dunelli o'r cril ar y tro.

Cyrraedd ynysoedd yr Islas Malvinas ac angori ger Yr Ynys Newydd am 04.30 y bore. Roedd neb yn byw yno, ond am filoedd ar filoedd o bengwiniaid (rock hoppers a gentoo.) Gwelsom filoedd o adar gwas y weilgi (albatros), gwyddau a'r boda. Ymlaen i Ship's Bay a enwid ar ôl llongddrylliad. Roedd dau naturiaethiwr wedi prynu'r darn tir. Angorwyd ger Ynys Carcass lle gwelwyd fferm fechan o ddefaid a dwy fuwch a lloi. Nid oedd coeden i'w gweld yn un man ond wrth agosau at Port Stanley (y brifddinas) ar y brif ynys gwelwn rai coed wedi'u plannu ymhlith y tai lliwgar - gyda'u toeau o bob lliw dan yr haul. Yno gwelsom yr amgueddfa, yr eglwys gadeiriol a'r bwa o esgyrn gên morfil, a chofgolofnau y rhyfel. Roedd y boblogaeth yn groesawgar iawn a thwristiaeth yn amlwg ac yn bwysig iawn i'r economi.

Mae Ynys South Georgia dan reolaeth Prydain fel y Malvinas ond bellach dim ond gorsaf wyddonol a siop a gedwir yno - am 2 flynedd ar y tro yn unig i'r gwyddonwyr. Mae'r gorsafoedd hela morfilod yn sbwriel rhydlyd bellach a does neb yn byw yno'n barhaol ond 750,000 o barau pengwiniaid brenhinol. A'r drewdod a'r sŵn yn annioddefol! Mae rhain yn dri chwarter maint y pengwiniaid ymherodrol. Ar y traethau o dywod du folcanig roedd y morloi ffwr - rhai ffyrnig ofnadwy. Canwyd seiren pe buasai'r tywydd yn newid yn sydyn ac i ddychwelyd i'r llong ar frys.

Efallai mai'r rhan fwyaf difyr oedd dilyn rhan o lwybr Ernest Henry Shackleton. Caewyd ei long yr Endeavour mewn iâ trwchus, a suddodd maes o law. Llusgwyd 3 chwch dros yr iâ cyn i'r 4 cryfaf rwyfo i Ynys yr Eliffant. Rhaid oedd saethu a bwyta rhai o'r cŵn a rhaid oedd difa Mrs Chippy y gath. Ond cyrhaeddodd y cychod ar ochr anghywir ynys South Georgia - taith o 800 milltir. Rhaid oedd dringo dros dir uchel, rhew ac eira i gyrraedd Grytuiken [Llyncodd pawb o'r teithwyr ddracht o rym er cofio Shackleton (y `boss') - y dewraf o ddynion.]

Gwnaeth Shackleton bedair taith i'r Antarctig, bu farw yn 1922 a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn nhir South Georgia. Gwelid geiriau Robert Browning - ar ei gofeb - `Daliaf y dylai dyn ymdrechu i'w eithaf tuag at wobr osodedig uchaf bywyd.'

Ar y llong cedwid rhestr o anifeiliaid ac adar a welwyd gan y teithwyr. Yn eu plith roedd gwas y weilgi (albatross), morfilod pigfain (minci) a chefn grwn a phengwiniaid. Prif fwyd y pengwiniaid yw'r cril pinc ac mae'r dom drewllyd hefyd yn binc ac o dan draed ymhobman. Gwelwyd saith math ohonynt ar ynys y Coroniaid.

Aed i'r ynysoedd bychain mewn cychod rwber (Zodiacs) gan wneud 6 thaith. Dyna oedd y fantais fawr o hwylio mewn llong gymharol fechan a allai fynd i mewn i'r cilfachau ac yn agos i'r traethau. Gwelsom amrywiaeth eang o fynyddoedd iâ - rhai gwastad o'r silffoedd iâ a rhai pigfain a'r rhewlifoedd. Yr un mwyaf a welwyd erioed oedd un 32 cm wrth 30 cm - wedi ei fesur gan sonar.

Man gwyn man draw oedd is gyfandir yr Antarctig oherwydd cyffwrdd â phenrhyn ohono a wnaethom ni. Yr oedd yn brydferth, yn unigryw, ac yn gyfoethog mewn bywyd gwyllt mewn amgylchedd o lendid a chadwraeth. Eto ynys South Georgia roddodd y wefr fwyaf oherwydd ei hanes, yr amgylchedd a'i hamrywiaeth. Yn yr haf ceir dwy awr o lwydni ynghanol golau dydd parhaol; mae'r gaeaf i'r gwrthwyneb. [Cofier mai'n gaeaf ni yw ei haf hwy.]

Heddiw mae 43 o wledydd wedi llofnodi Cytundeb yr Antarctig. Mae 14 erthygl ynddo mewn pedair iaith - Saesneg, Ffrangeg, Rwseg a Sbaeneg. Fe' i cedwir yn Archifdy Genedlaethol yr U.D.A.

Yr Antarctig yw'r lle ola yn y byd sydd mewn cyflwr dilychwin. Rhaid gwarchod a chadw'r glendid rhag trachwant ac ysfa y ddynoliaeth am elw materol - er lles yr yfory. Prydain oedd y cyntaf i osod troed barhaol ar yr Antarctig (yn 1908). Wedyn dilynodd Seland Newydd (1923), Ffrainc (1924), Awstralia (1930), Norwy (1939), Chile (1940) a'r Ariannin yn 1943.

Hoffwn ddychwelyd i'r Antarctig yn y dyfodol - gan obeithio y bydd ei gyflwr yn parhau'n ddilychwin. Ond mae gennyf fy amheuon. Gwerth yr arian oedd bob ceiniog! Beth am ei mentro hi!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy