BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Y ffermwyr Ymweliad Carwyn Jones A.C. Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru
Mawrth 2004
Ar ddydd Iau 5ed o Chwefror, bu Carwyn Jones AC, Ysgrifennydd Materion Gwledig yn ymweld â thair fferm yn ne Ceredigion ..
Roedd hyn ar wahoddiad Ffederasiwn Ffermwyr Ifainc Cymru, er mwyn iddo gael gweld drosto'i hunan sut mae ffermwyr ifainc yn gwneud eu gorau i gael eu traed ar yr ysgol amaethyddol, ac yn ymdopi â'r holl broblemau o fewn y diwydiant.

Cychwynnwyd yr ymweliad ar fferm Mynachlog, Talgarreg. Yno edrychwyd yn fanwl ar y fuches bîff ac ar y cynllun 'Tir Gofal', gan fod y fferm yn ei hail flwyddyn o fewn y cynllun.

Wedi gadael Moethebog, talwyd ymweliad â'r Ganolfan Fwyd yn Horeb, ac oddi yno ymlaen i Penlanfawr, Plwmp, sydd erbyn hyn yn gysylltiedig â fferm Pencaeau, Glynarthen. Y fuches odro gafodd y sylw yno, a thrafodaeth ar yr holl broblemau yn y sector llaeth.

Diolchodd Carwyn Jones i'r ffermwyr ifainc am yr hoff bwyntiau a godwyd ganddynt ac addawodd y byddai yn edrych yn fanwl arnynt. Diolchodd hefyd i'r Ffederasiwn am drefnu'r gwahoddiad, yn arbennig i Geredigion, gan fod ganddo lawer o gysylltiadau teuluol yn yr hen Sir.

Diolchwyd i Carwyn Jones gan Dai Davies, cadeirydd Ffederasiwn Ffermwyr Ifainc Cymru, am ddod o ganol ei brysurdeb i gyfarfod â'r ffermwyr ifainc, i wrando ac i drafod yr holl bwyntiau a godwyd. Mae Dai Davies hefyd yn fachgen Ileol, sef un o fechgyn Penrhiwlas, Llanarth.

Bu amseriad yr ymweliad yn allweddol bwysig, gan fod y penderfyniad ar fin ei wneud sut i dalu'r cymorthdaliadau o'r flwyddyn nesaf ymlaen, pan fydd ffermwyr yn derbyn ond un taliad yn unig yn flynyddol, sef yr SFP (Single Farm Payment), sydd yn rhan o'r pecyn i ddiwygio'r CAP.

Bydd dewis o dair ffordd i dalu'r cymhorthdal:

1. System Hanesyddol; a fydd yn gysylltiedig â rhif y defaid a'r gwartheg ar y fferm ym mlynyddoedd 2000-02, dyna'r system decaf i ffermwyr teuluol fel yng Nghymru, a dyna'r system a gefnogir gan y ddwy Undeb yng Nghymru.

2. System yn gysylltiedig â maint arwynebedd y fferm; dyma'r system sydd yn dderbyniol i ffermwyr mawr, a'r tirfeddianwyr mawr, ac a gefnogir gan Gymdeithas y Tirfeddianwyr.

3. System Hybrid; sef cyfuniad o'r ddwy system.

Mae pob gwlad o fewn y Gymuned, gan gynnwys Gymru, wedi cael yr hawl i benderfynu pa system i weithredu. Dadleuodd y ffermwyr ifainc yn gryf o blaid y System Hanesyddol yn ystod yr ymweliad.

Gwyddom erbyn hyn bod Carwyn Jones wedi dewis y System Hanesyddol i'w gweithredu yng Nghymru. Dyna hefyd y system a ddewiswyd yn yr Alban, ond y System Hybrid a ddewiswyd ynLloegr a Gogledd Iwerddon.

Diddorol yw deall bod llawer o ffermwyr gwartheg a defaid yn Lloegr yn anhapus ac yn protestio yn erbyn y system a ddewiswyd yno.

Felly, mae gan y Cynulliad, a'r Ysgrifennydd Materion Gwledig rhai hawliau i ddewis beth sydd orau i amaethyddiaeth yng Nghymru. Ar y mater dan sylw, mae datganoli wedi bod yn fuddiol i'r diwydiant yng Nghymru, ac wedi rhoi cyfle i weithredu tegwch a synnwyr cyffredin.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy