BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Ysgol Glynarthen, 1939 Teithio gyda'r wyrion yn ôl i'r hen bentref
Mai 2003
Gwyliau yr haf, a rhai o'r wyrion yn blino ar lan y môr. Gan fod y mwyafrif o'r castelli tywod wedi torri, beth am fynd i weld lle cafodd tad-cu ei eni.

Dros hanner canrif yn ôl, fe adawodd ein teulu Glynarthen, fy nhad yn newid ei swydd o brifathro yn Ysgol y Glyn i gymryd swydd newydd fel darlithydd yng ngholeg Wrecsam. Crwt pedwar ar ddeg oeddem i yn dechrau ar fy nhaith a oedd i mynd â fi i ddarlithio a gweithio mewn llawer rhan o'r byd ac a oedd i ddibenu fel athro ym mhrifysgol Norwich.

0 dro i dro roedd cyfle i fynd nôi i'r Glyn - i gymanfa, i weld rhai o'r hen deuluoedd ac i gerdded ar hyd yr hen lwybrau. Ond beth oedd yr wyrion yn meddwl am y pentre bach lle cafodd tad-cu ei eni a'i godi - lle mor wahanol i'w cartref mewn tref yn Lloegr? Edrych yn gyntaf ar Ty'r Ysgol, yr ysgol a'r maes chwarae, y capel, ac yna lawr i'r bont a'r cyntaf i ddarganfod lle roedden wedi cerfio fy enw slawer dydd.

Wrth edrych ar y tai yn y pentre, roedd fawr wedi newid. Yr unig wahaniaeth er hanner canrif yn ôl oedd y Festri newydd yn lle yr hen un uwchben y stabal. Ond a oedd y pentre yr oedden i yn adnabod a'r pentre oedd yma nawr yr un peth? Roedd 'na swyddfa post o hyd, ond lle oedd yr holl grefftwyr? Drws nesa i'r post, brith gof am y cobler, nes lan Ifan Jones y maswn cerrig bedde a ffrind i bob plentyn yn y pentre a chodwr canu yn y capel. Powell y maswn a Davies y gof yn byw nes Ian.

Os oedd eisie saer roedd Noah Edwards yn Betws neu Tom Davies yn Sarnau ac yn y blaen.

Mwy anodd oedd dweud am y gymdeithas a'r awyrgylch yr adeg hynny ac a gafodd sut effaith arnaf i drwy fy oes. Pentref hollol Gymraeg a thrwy yr ysgol gyda Miss Jones, Miss Thomas a fy nhad ond Cymraeg oedd o'r dechrau i'r diwedd. Dylanwad y capel yn rhagori; cwrdd bob bore a nos Sul gyda'r Parchedig Hughes, Ysgol Sul yn y prynhawn gyda Mrs Hughes, ysgol gân yn yr hwyr gyda fy nhad, a chwrdd gweddi yn yr wythnos. Braint oedd cael dysgu tonic sol-ffa hefyd gyda Mrs Hughes.

Yn absenoldeb y teledu ac ychydig iawn o radio, roedd digon o amser i siarad o gylch y tân gyda ffrindie oedd yn galw gyda'r nos, neu fynd allan i swper i un o'r ffermydd gerllaw. Fy mhlentyndod hapus yn cynnwys rhedeg ar hyd y caeau, chwarae ger yr afon Dulais, fyny i Deiniol i fod gyda Tom amser godro, amser gwair, amser gosod a chodi tato, amser stacano - pob munud y gallen ni - a chael pryd gyda'r teulu cyn rhedeg adre; a allen i feddwl am sut ryddid i fy wyrion nawr?

Nid oedden yn meddwl fy mod yn edrych yn ôl drwy rose tinted spectacles wrth ddisgrifior pentref a'r gymdeithas Ile ces fy magu. Fe hoffen petai yn bosibl i'r wyrion gael yr un braint ac a gefais i.

Amser i fynd adre a phenderfynu a'i traeth Aberporth, Llangrannog, Penbryn neu Cwmtydu oedd i fod yfory - mae atyniad rhain yr un peth ac erioed.

Roy Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy