BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Dynwarediad o Charlie Chaplin Cerddwyr Ffordd
Hydref 2008
Gareth Morgan Jones yn cofio cerddwyr ffordd Ceredigion yng nghyfnod ei blentyndod.

"Roedd sgwrs hynod diddorol rhwng Dei Thomas a'r Parchg WJ Edwards am rai o gerddwyr ffordd Ceredigion ar Radio Cymru.

Achosodd hyn i mi feddwl am gerddwyr ffordd neu dramps godre Ceredigion yng nghyfnod fy mhlentyndod.

Yr un cyntaf a gofiaf oedd Twm Aberdar oedd wedi colli ei fraich ac yn cerdded o gwmpas yr ardal.

Credaf ei fod yn byw yn ardal Betws a deuai i Rhydlewis yn gyson ac yn galw yn Tremallt. Roedd yn siarad Cymraeg ag acen bro ei febyd yn Aberdar, a byddem fel plant yn gofyn i Twm ganu. Roedd ganddo lais tenor hyfryd a Calon Lân oedd hi bob tro, ac weithiau Sosban Fach.

Cofiaf Goddard y dyn tal fyddai yn gweithio ar ffermydd yr ardal a hefyd Davies (ei gyfenw yn unig a gofiaf) yn gwasanaethu yn Penparc gyda David a Nellie Jones a Lew a Medwyn. Pan fyddwn ni yn mynd i Penparc i gael reid gyda Lew i Gwynnant, roedd Davies yn brecwesta. Roedd yn ddyn arbennig o lanwedd os cofiaf yn iawn.

Am flynyddoedd bu pentref Nanty yn ganolfan i gerddwyr ffordd. Cefais lun flynyddoedd yn ôl gan y diweddar Ken Barlow o 7 Ty Nanty.

Pan aeth y tai yn furddunod trigai rhai cerddwyr ffordd yno.

Arferai Nhad ddweud eu bod yn peri ofn i fy mam-gu, sef Hannah Jones, Penwern, wrth ei bod hi yn cerdded i'r cwrdd i Hawen.

Dywedir fod dau o ieuenctid y fro wedi gosod y tai ar dân a'u bod wedi rhedeg mor bell ag Aberffinant a gwelent y fflamau o bell. Gwn o sicrwydd na chafodd y ddau eu dal ac fe gadwodd y ddau y gyfrinach tan eu marw!

Treuliodd Mr Burke flynyddoedd yn Nanty gan fynd ar ei feic i Rydlewis a helpu peth ar ffermydd. Yn gymharol ddiweddar soniodd Mary Brownhill o Penarth (Dyffryn Ceri gynt) ei bod yn gyfrifol am ffurflenni'r Cyfrifiad ym mhlwyf Troedyraur a'i bod wedi mynd i nanty at Burke. Doedd e ddim yn gwybod beth oedd y dyddiad nac ymhle y cafodd ei eni. Gwyddel oedd e, wrth gwrs, ond doedd e ddim yn gwybod ble roedd ei wreiddiau.

Byddai fy mam yn fy nanfon yn gyson a phryd o fwyd i Burke ac yn aml ar ddydd Sul a dydd Nadolig ac yn ystod cyfnod ei waeledd gofalodd ei fod yn ddiddos.

Un arall oedd John price a fu'n gweithio am flynyddoedd yng Nghwmbychan a Rhydygweision, ac a gafodd noddfa gysyrus yn y ddau le. Arferai ganu 'Holy City' ar ei ffordd adref o'r dafarn.

Wrth feddwl am y rhain, ynghyd a Paddy Gwallt Hir, yr hyn sydd yn ein taro heddiw yw eu bod yn symud o gwmpas yr ardal a phlantos fel ninnau yn gwbl ddiogel. Diau fod gan eraill o drigolion bro'r Gambo atgofion pellach am y cerddwyr ffordd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy