BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Cofeb Dafydd ap Gwilym Taith ddirgel Cymdeithas Ceredigion
Gorffennaf 2007
O Abaty Ystrad-fflur i Eglwys Llanbadarn Fawr, bu Cymdeithas Ceredigion yn dysgu am y bardd Dafydd ap Gwilym ar daith ddirgel yn ddiweddar.

Bob haf bydd llywydd Cymdeithas Ceredigion yn cwblhau'i ddyletswyddau (neu ei dyletswyddau yn yr achos eleni) drwy drefnu trip, neu daith ddirgel - boed am ddiwrnod, neu ddau, neu dri, hyd yn oed.

Eleni llwyddodd ein llywydd, Vera Davies, i gadw'r cyfan a drefnodd yn gyfrinach tan y diwedd, a'i gadw rhag gyrrwr ein bws hyd yn oed!

Ond dywedodd na fyddem yn croesi'r ffin o Geredigion. Cafwyd diwrnod hyfryd ar ei hyd - o'r coffi boreol yng ngwesty'r Talbot ar sgwâr heulog Tregaron, tan y swper yn Llety Parc, Aberystwyth. Dyma bigion y diwrnod:

Abaty Ystrad-fflur
Wedi cyrraedd y cwmwd tawel hwn arweiniodd Dai Rees Davies ni at yr ywen enwog ym mynwent yr Abaty. O dan ei changhennau darllenodd gerdd T. Gwynn Jones sy'n sôn mai yno y claddwyd un o'r beirdd mwyaf a welodd Cymru erioed, sef Dafydd ap Gwilym, ac mai yn naear yr Abaty y claddwyd deuddeng abad, ynghyd â nifer o dywysogion Cymreig y Canol Oesoedd.

Mae yna stori ddiddorol am ymweliad Isfoel, un o feirdd y Cilie, â'r fynwent. Jim James adroddodd yr hanes wrth y cwmni:

'Roedd Isfoel ar ei wyliau yn Nhregaron unwaith a phenderfynodd un diwrnod i ymweld ag Ystrad-fflur. Aeth i chwilio am yr ywen enwog oedd yn nodi'r man y dywedir i Ddafydd ap Gwilym gael ei gladdu. Cafodd siom pan welodd nad oedd carreg goffa yn nodi enw'r cywyddwr enwog. Ysgrifennodd am hyn yn y Tivy-Side a chyfansoddodd englyn am yr achlysur. Cafodd ateb gan Cledlyn, ysgolfeistr Cwrtnewydd, a ddadleuai nad oedd angen carreg goffa i fardd mor enwog â Dafydd. Bu'r ddau yn gohebu ar y pwnc am gyfnod, ond daliai Isfoel y buasai'n addas hyd yn oed codi carreg o'r mynydd yn "ddabl mud i ddweud ble mae".'

Mae dwy garreg yn coffau Dafydd wrth fôn yr ywen bellach, ac mae un ohonynt yn garreg amrwd heb ei naddu. Tybed a ddodwyd hi yno yn dilyn y ddadl rhwng Isfoel a Chledlyn?

Rhaid nodi, fodd bynnag, bod yna draddodiad lleol sy' n honni mai yn Abaty Talyllychau, ger Llandeilo Fawr, Caerfyrddin, y claddwyd Dafydd - lle codwyd cofeb iddo yno hefyd, yn 1984.

Cloddio Archaeolegol
Pan gyrhaeddon ni Ystrad-fflur roedd tîm o archeolegwyr yn dechrau tymor arall o waith ar ddarn o dir agored tua 300 metr i'r gorllewin o'r Abaty. Hon yw'r bedwaredd flwyddyn i Adran Archaeoleg ac Anthropoleg Coleg Prifysgol Cymru Llanbed i arwain rhaglen o ymchwil pwysig yn Ystrad-fflur.

Cawsom gyfle i ymweld â'r safle a chael ein tywys o amgylch gan rai o'r myfyrwyr a esboniodd inni eu bod yn tybio mai yno y safai mynedfa fawr i gwrt mewnol yr Abaty, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol. Gwaith araf a manwl yw cloddio ar safle archeolegol, meddent, a rhaid cofnodi pob dim wrth ddadlenni'r gorffennol garreg wrth garreg, haen wrth haen. Fe godwyd tŵr uchel o sgaffaldiau ar gwr y safle ac o'i ben mae modd cael golwg ehangach o'r gwaith cloddio, sy'n help i ddyfalu ac esbonio patrwm a chyfeiriad yr adeiladau gwreiddiol.

Cyn ymadael buom yn ymweld ag adfeilion yr Abaty ynghyd â'r amgueddfa fach ger y safle.

Canolfan Bwlch Nantyrarian
Mae'n siŵr bod y llecyn hwn ym mhen dyffryn Melindwr yn un o'r mannau prydferthaf yn y sir. Dwy flynedd yn ôl agorwyd canolfan ymwelwyr yn y goedwig ac yno cawsom hoe a lluniaeth ysgafn. Ar wahân i'r golygfeydd godidog, a'r llwybrau hawdd eu cerdded o gylch y llyn, mae'r ganolfan yn enwog am ei fod yn gynefin i'r cudyll coch.

Erbyn tri o'r gloch roedd tua deugain o'r adar yn hofran uwchben y llyn yn barod am y sesiwn bwydo sy'n cael ei drefnu'n ddyddiol drwy'r flwyddyn. Yn ystod y gaeaf bydd dros gant o'r adar yn cael eu bwydo yma, ac mae'n olygfa ryfeddol o gofio pa mor agos y bu'r aderyn i'w ddiddymiad.

Eglwys Llanbadarn Fawr
Eglwys Llanbadarn FawrFe'n croesawyd ni i'r eglwys hynafol gan y Ficer, y Parchedig Timothy Morgan, a' n hatgoffodd bod Cristnogion wedi bod yn addoli yn y fangre ers y chweched ganrif o leiaf. Tystia ei thŵr enfawr i bwysigrwydd yr eglwys yn 1257, pan gafodd ei hail adeiladu ar ôl ei difa gan dân.

Mae'r eglwys yn gyforiog o hanes, wrth gwrs. Saif ar safle clas canoloesol lle bu Sulien, Esgob Tyddewi, yn bennaeth cyn dyddiau Padarn Sant. Yr amser hwnnw roedd y clas yn scriptoriwm pwysig i gynhyrchu testunau a chopïo llawysgrifau. Yma y lluniodd Rhygyfarch, un o feibion Sulien y 'Vita Davidis', (Buchedd Dewi Sant) tua 1094.

Gwelir llinellau o waith Dafydd ap Gwilym ar y sgrin bren ac mae bedd Lewis Morris, y bardd a'r hynafieithydd o Fôn, yn y gangell. Bu'r Esgob William Morgan yn ficer yno ac mae copi o'r Beibl a gyfieithodd o'r Gymraeg yn 1588 yn cael ei gadw yno.

Chlywson ni ddim deg cloch yr eglwys yn cael eu canu, ond y maen nhw gyda'r casgliad gorau o glychau yng Nghymru, a gobaith y Parchedig Timothy Morgan yw y byddan nhw'n dal i alw addolwyr eto am ganrifoedd i ddod.

Hywel Gealy Rees

  • Mwy am Dafydd ap Gwilym
  • Gwefan Pontrhydfendigaid
  • Gwefan Tregaron
  • Gwefan Aberystwyth

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy