BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
Yr hers Yr Hers yn Dod Adre
Gorffennaf 2006
Mae'r hers yn dod adre' a'r hanes y cerbyd yn cael ei trafod yn noson arbennig.
"Ar noson braf, nos Fercher, Mehefin 21 am daeth torf niferus ynghyd ger y Capel. Hyfryd oedd gweld hen hers geffyl y Glyn yn ynlweld a'r pentre. Mae'r hers wedi ei chadw'n ofalus gan Mr Huw Jones, Llanwrin. Machynlleth ers 1972. Caiff ei harddangos gan Dr Glyn Jones, ac efe a drefnodd y noson hon gyda'n Gweinidog, y Parchedig Cartys Ann, ac a ddarlledwvd ar Wedi 7 ar S4C.

Yn ôl natur y rhaglen, rhyw funudau yn unig oedd ar gael i roi hanes yr hers. Wedi dweud hynny, ychydig o'i hanes cyntaf oedd ar gael. Wrth edrych yng Nghofnodion y Capel sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, canfuwyd pendertyniad o'r Cwrdd Eglwys yn Rhagfyr 1911 fod angen peintio ac adnewvddu'r Elor Gerbyd. Noah Edwards, Betws Ifan. oedd i wneud y gwaith, yn y gwanwyn.

Yna, yn Rhagfyr 1913, eto yn y Cwrdd Eglwys, galwodd Ben Davies (Ben Crydd) sylw at ddrws tŷ yr Elor Gerbyd. Roedd eisiau ei atgyweirio, ac yr oedd Dafydd Morris, Deinol i ofalu fod y gwaith yn cael ei wneud. Hefyd, dywedwyd fod y tŷ yn llaith ac y dylid cael gwell tŷ i"w chadw. Er hynny, mae'n debyg mai yno y bu ar hyd y blynyddoedd yn y stabl o dan yr Hen Festri.

Ymhellach, yn 1920 penderfynwyd fod Ben Davies, fel yr un yn gofalu am yr Elor Gerbyd i gael swllt o gyllid y Capel yn ychwanegol at y swllt yr oedd yr aelodau yn ei dalu am ei benthyg. Hefyd fod y rhai o'r tu allan i'r Capel a'i benthycai i dalu tri swlit yn lle'r deuswllt yn y dyfodol, gan fod popeth wedi codi yn ei bris!

Mae'n debug, felly, fod yr hers wedi bod yma rai blynyddoedd cyn 1911. Amcan y perchennog, Huw Jones yw tua 1902 gan fod hers debyg iddi oedd ym Mhenmorfa yn dyddio o'r flwyddyn yna. Mae honno, yn awr, yn cael gwaith cyson yn Swydd Derby. Gwna hyn yr Hers dros gan mlwydd oed. Mae'n debyg iddi gael ei gwneud yn Aberteifi.

Fe' i gwerthwyd i John Parry o Rhydlewis yn y chwedegau gan fod cyflwr y Festri a'r tŷ hers neu'r stabl yn dirywio. Gallai fod wedi ei cholli am byth...fel llawer o hen greiriau'r ardal oni bai fod yr enw'n blaen iawn arni `Glynarthen'... a'i bod wedi dod, maes o law, i ddwylo Huw Jones. Gwelodd yntau ei gwir werth o safbwynt hanesyddol a'i chadw dros y blynyddoedd. Pob clod iddo am hynny, mae ef wedi cael cynnig arian mawr iawn amdani, ond ni wna ei gwerthu.

Bu cyn drafod nos Fercher dros baned, yn y Festri - pawb a' i atgofion am yr Hers.

Mae'n debyg i bob fferm yn yr ardal fod yn gyfrifol, yn ei thro, am fenthyg ceffyl adeg angladd. Fel y cofia John Morris Owen, James Owen, Cefnlleithdre a Johnnie Owen, Waunfawr wnâi yrru'r hers yn bennaf. Mae Gordon Davies, yn cofio cael reid ar flaen yr hers gyda James Owen, pan yn blentyn. Fel y soniwyd rhoid benthyg yr hers i Gapeli eraill ac mae Mary Davies yn cofio gweld y diweddar Jack Edgeley yn mynd a'r hers i fyny i angladd yn Eglwys y Betws. Felly, hefyd Endaf Evans yn cofio, pan yn blentyn, weld ei dadcu Tom Owen yn pasio'r Hafod a'r Hers, gyda cheffyl o Bantygronw i angladd ym Mrynmoriah. Nid ceffyl du oedd hwn beth bynnag. Mae'n sir ei bod yn bwysicach i gael ceffyl tawel yn hytrach na'r lliw cywir!

Roedd Dai Powell wedi ei godi yn y pentre, cofia amdano yn grwt ifanc yn gyfrifol am fynd a cheffyl yn ôl i Benffin, drwy'r caeau ar ôl i J. T. Lewis ei dynnu o'r Hers ar ôl angladd. Cofia hefyd fod yr Hers, rywbryd yn y tridegau wedi cael ei phaentio gan Noah Edwards yn Ardwyn, Betws Ifan.

Fe gofia Mattie Davies ei thad Tom Davies oedd yn saer ac yn gwneud coffinau, yn defnyddio'r hers yn aml. Fel y cofia hi y teulu fyddai'n gofyn i ffermwr o gymydog i fenthyg ceffyl a mynd a'r hers. Eto, cred mai cerdded gyda'r ceffyl fyddai'r arfer.

Un ddaeth gryn bellter yn unswydd i weld yr Hers oedd Goronwy Williams o Abertawe. Fe soniodd fod Ben Davies yn Geidwad yr Hers yn nechrau'r ganrif ddiwethaf. Mae Goronwy yn ŵyr iddo, er nad yw ond prin ei gofio, ac arferai fyw yn yr un tŷ sef Preswylfa, sydd y drws nesaf i'r Hen Festri. Bu Ben Davies farw yn 1937, ei fab yng nghyfraith James Williams, tad Goronwy ddaeth yn gyfrifol amdani wedyn ac mae'n cofio'n dda ei fam Annie Williams yn glanhau'r pres arni. Pan fu farw ei dad yn ifanc daeth ei frawd y diweddar Barchedig Alwyn Williams i gymryd y cyfrifoldeb. Daeth Goronwy yntau, ymhen amser i weithio gyda'i frawd. Dyma'r union berson, felly i gofio'r manylion am yr Hers ac yr oedd hyn o ddiddordeb mawr i'r perchennog presennol.

Byddai Goronwy yn helpu i dynnu'r Hers allan a'i rhoi gydag ochr wal y fynwent er mwyn ei golchi. Roedd jac' i'w chodi i fyny er mwyn golchi'r olwynion. Wedyn roedd angen tynnu'r `hub caps' pres i ffwrdd i'w gresio.

Cofia hefyd fod harnes i'r ceffyl yn cael ei gadw gyda'r hers, tybed a werthwyd hwn ar wahan? Erbyn hyn nid oes reiliau pres ar ochr yr Hers, aeth y rhain i ben mae'n debyg ond, pwy a wŷr, efallai y caiff rhai eraill eu rhoi yn ôl rhyw ddydd...

Tybia Donald James a Goronwy fod y llythrennau sydd yn gwneud i fyny'r enw ar y drws yn rhai gwreiddlol. Mae'n debyg fod cyrtens iddi yn y dechrau ac mae rhyw frith gof gan Goronwy mai glas oedd y lliw y pryd hynny. Un peth, yn bendant, yn ôl y rhai a'i cofia, nad oedd arni'n wreiddiol, oedd y groes ar y blaen.

Do, cafwyd noson ddiddorol a buddiol, wnaeth brocio cof llawer. Erbyn hyn bydd llawer o'r hanes yma wedi ei gyflwyno ar raglen Dr Glyn Jones ar Radio Ceredigion gan iddo gyfweld rhai pobl y noson honno.

Mae'n anodd bod yn sicr pwy oedd yr olaf i gael ei gludo yn yr Hers. Soniwyd am Thomas John Jones. Deinol neu efallai Elanwy James. Cefnlleithdre. Nid yw hyn, mwy na llawer o'r ffeithiau eraill wedi eu cofnodi ar ddu a gwyn a nifer y rhai sy'n cofio yn mynd yn llai...

Byddem yn falch pe bai unrhyw un a gwybodaeth bellach ac unrhyw beth diddorol i'w ychwanegu neu hyd yn oed yn anghytuno ac unrhyw osodiad.

Ar ddiwedd y noson yn y Festri rhoddodd y beirdd eu cyfarchion eu hunain i'r Hers."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy