BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gambo
T llew Jones yn chwarae yn erbyn Y Tad Seamus Cunnane yn 1968. Rhamantydd ac Ymosodwr Taer
Chwefror 2009
Y mae'r Tad Seamus Cunnane yn rhannu ei atgofion am ei gyfaill, y diweddar T. Llew Jones:

"Yn 1964 llwyddodd dau fachgen disglair o Wlad Pwyl, Peter a Lewis, fy mherswadio i ymuno a Chlwb Gwyddbwyll Aberteifi, ac am flynyddoedd bum yn chwarae ar Fwrdd 2, o dan lolo, mab T. Llew. Roedd lolo yn feistr ar y gem; ni allai neb ei guro.

Ond deilliai egni'r clwb o T. Llew. Pe bai wedi dechrau'n ifancach byddai wedi bod yn chwaraewr da eithriadol. Fel yr oedd hi, gwrthwynebwr peryglus oedd Llew, a oedd yn haeddu'r pwyll mwyaf wrth chwarae yn ei erbyn. Ac yntau'n ymosodwr taer, ni fyddai byth wedi'i drechu nes ei hoelio i lawr. Byddai'n annoeth i ymlacio yn ei erbyn; pe gwnawn hynny byddai'n fy llorio.

Yn y blynyddoedd cynnar cariai bws mini fy mhlwyf ein tim o chwech i chwarae yn erbyn Tref Aberystwyth, colegau'r Brifysgol yn Aberystwyth a Llambed, a Hwlffordd. Enillon ni bencampwriaeth Canolbarth Cymru bob blwyddyn bron.

Weithiau byddem yn cyfarfod a thimau eraill mewn lleoliad hanner-ffordd, fel Aberaeron, neu Lambed (yn erbyn Aberhonddu). Cystadlem yn erbyn Y Drenewydd a'r Trallwng yn Llanymddyfri, ond ar y dechrau, gwnaem hynny ar y teleffon o dŷ ysgol T. Llew yng Nghoed-y-bryn, lle byddai Margaret yn ein croesawu.

Yn ystod gornest o dair awr, Dorothy, chwaer Peter, fyddai'n teleffonyddes, gan dderbyn symudiadau'r tim arall a throsglwyddo'n hatebion ninnau. T. Llew oedd yn llywyddu ar bob dim, tan i'w egni wanhau, ac i Iolo gymryd ei le.

Ni fyddai terfyn ar frwdfrydedd T. Llew. Trefnodd gynadleddau yn Neuadd y Dre, Aberteifi, tan i ni symud i le mwy addas a chynnal Cynhadledd Gorllewin Cymru yn y Cliff (mae'n digwydd yng Ngwesty'r Fishguard Bay yn awr). Weithiau byddai'r uwchfeistri, sef y grandmasters, yn dod i gystadlu, a chofiaf i ddau ohonynt gael eu trechu gan ein chwaraewyr lleol.

T. Llew a lolo ddechreuodd y cylchgrawn gwyddbwyll Cymraeg cyntaf, a chofiaf brynhawniau prysur wrth argraffu hwnnw ar fy Gestetner i (mae gen i rai o'r rhifynnau cynnar o hyd yn rhywle). Y nhw hefyd ysgrifennodd y llyfr gwyddbwyll cyntaf yn Gymraeg.

I T. Llew, yn fwy na neb arall, y mae'r clod am sefydlu Undeb Gwyddbwyll Cymru. Rwy'n cofio, tua 1971, i ysgrifennydd Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain ddod i gwrdd a ni, ac wrth i mi ei gludo nol i Orsaf Caerfyrddin, beirniadodd ni am fod mor ffol a breuddwydio y gallai gwyddbwyll Cymru fod yn annibynnol. Ond daliodd T. Llew a lolo ymlaen, ac yn 1972 cymerodd Cymru ran yn y Gemau Gwyddbwyll Olympaidd yn Skopje am y tro cyntaf - ac ennill canlyniad cymeradwy mewn safle uwchben Ffrainc.

T. Llew oedd y rheolwr, a bu Iolo'n chwaraewr yn y tim (mewn blwyddyn ddiweddarach enillodd Iolo wobr am ei berfformiad). Hedfanais i Skopje i'w gweld, heb roi gwybod iddynt ymlaen llaw, a gallaf weld o hyd y wen enfawr ar wyneb T. Llew wrth i mi ei gyfarch yn y neuadd fawr.

Ond yr atgofion gorau sydd gennyf yw'r sgyrsiau rhyngom wrth inni ddychwelyd adref o'n cystadlaethau yn erbyn clybiau eraill. Byddem yn siarad am wyddbwyll a phob dim arall, gan ddechrau'r sgwrs yn Gymraeg, tan i T. Llew drugarhau wrth y dysgwr, a throi i'r Saesneg.

Byddem yn trafod hanes, enwau lleoedd Cymraeg, llenyddiaeth ac yn y blaen. Ni fyddem yn cydweld bob amser, and weithiau byddwn yn esgus anghytuno ag ef er mwyn ei brofocio a pharhau'r ddadl, tra'n gwrando ar y llais godidog hwnnw na wnes fyth flino ar ei glywed.

Rhamantydd llwyr oedd T. Llew o achos ei ddychymyg rhyfeddol, er na lwyddodd i'm-perswadio mai yng Nghrug Mawr, Penparc, heb fad nepell o ffrwd Arberth, yr oedd Pwyll Pendefig Dyfed yn arfer byw, yn hytrach nag Arberth ym Mhenfro, fel mae pawb arall yn tybio.

Un tro, dipyn ar ôl hanner nos ar ffordd unig ger Llambed, a ninnau'n dychwelyd yn siomedig ar ôl colli yn y Ffeinal Gymreig yn Aberhonddu (enillodd ein clwb mewn blwyddyn arall), dyma radiator y car yn torri. Aethom allan i edrych arno. Cyn i neb gael cyfle i'w rybuddio, taniodd T. Lew fatsien a phlygodd lawr, i gwrdd a fflach las yn ffrwydro i fynu heibio i'w aeliau!

Braint oedd cael adnabod y gŵr rhyfeddol, talentog a thwymgalon hwn. Roedd hi'n anrhydedd i mi gael fy nghyfri'n gyfaill iddo. Dymunaf iddo y dymuniad Gwyddelig: boed i'r gro orwedd yn ysgafn arnat."

Erthygl gan Y Tad Seamus Cunnane


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy