BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MAWRTH
23ain Medi 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Ddolen
Christopher McConville, Angharad a Deirdre Coughlan to allan i'r arddangosfa. Fy argraffiadau o Fenis
Ionawr 2010
Hanes ymweliad Angharad Ellis ag aeddangosfeydd y Biennalie yn Fenis.

Ar ddechrau fy nhymor cyntaf yng Ngholeg Sir Gar, yn dilyn cwrs Celfyddyd Gain Peintio, cefais alwad ffôn oddi wrth fy nhiwtor Helen Lindsey, yn gofyn a oedd diddordeb gen i wario saith wythnos allan yn Fenis yn gweithio efo Cyngor Celfyddydau Cymru. Ddim yn aml mae dyn yn cael cyfle o'r fath; i fyw a gweithio yn Fenis, felly derbyniais y cynnig yn hollol ddiffwdan.

Fel roedd hi'n digwydd bod, roeddwn eisoes wedi trefnu mynd ar drip arall gyda'r coleg i Fenis i weld arddangosfeydd Biennalie.

Felly ar 28 Medi, fe es yno am ddwy noswaith gan gyrraedd gartref yn gynnar ar 30 Medi.

Roedd hyn ond yn gadael tri diwrnod i mi baratoi ar gyfer yr wyth wythnos oedd o'm blaen.

Bu'r tywydd yn garedig iawn yn ystod yr amser byr y bues yno, ond roedd rhaid pacio nawr ar gyfer pob math o dywydd posibl.

Ychydig feddyliais wrth bacio y byddwn yn profi llifogydd tra ar fy ymweliad!

Mae Arddangosfeydd Biennalie yn cael eu cynnal yn Fenis, bob yn ail flwyddyn, ac eleni gwaith John Cale oedd yn cynrychioli Cymru yn yr arddangosfa.

Ar hyn o bryd mae John Cale yn byw yn Los Angeles.

Cafodd ei eni yng Ngarnant, Sir Gaerfyrddin, ac aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain, cyn symud i Efrog Newydd yn 1963 lle cyfarfu ag Aaron Copland, La Monte Young, Andy Warhol a Lou Redd, cyd-sylfaenydd `The Velvet Underground'.

Yr hyn oedd gan John Cale i'w gynnig yn y Biennalie oedd golygfeydd o'i atgofion o'i blentyndod cynnar.

Y bwriad oedd creu rhyw fath o `ddamhegion' gweledol, penodol i Gymru.

Cyfleuai ei waith nid yn unig ei dirwedd bersonol ond tirwedd Cymru hefyd, ac roedd hyn i gyd yn cael ei drosglwyddo trwy gyfrwng ffilm a sain.

Roedd dau fyfyriwr arall gen i ar yr ymweliad, dau Wyddel o'r drydedd flwyddyn.

Fy ngwaith i a'm cyd¬fyfyrwyr oedd edrych ar ô yr arddangosfa a chyfarch ymwelwyr oedd yn eu mynychu a chymdeithasu gyda nhw.

Gan fod y Biennalie yn ddigwyddiad rhyngwladol, byd-eang roedd yn gyfle bendigedig i greu cysylltiadau gyda phobl o bedwar ban y byd.

Mae cysylltiadau cadarn eisoes wedi eu meithrin gan y Pafiliwn Cymreig gyda'r Alban, Iwerddon a Lloegr.

Felly'r noswaith gyntaf fe aethom i Bafiliwn y Gwyddelod i sgwrsio am gelf a thrafod ein gwaith. Roedd yn noswaith ddiddorol ond gan taw y fi oedd yr ifancaf roedd e'n brofiad heriol lawn i mi.

Roedd llawer o'r cwmni yn artistiaid proffesiynol neu ar fin dechrau gyrfa yn y byd celf a finnau ond ar gychwyn fy ngradd mewn Celfyddydau Cain.

Ond ar ôl siarad dwys roedd yna gyfle i ymlacio ac i fwynhau! Roedd ein horiel ni ar Ynys La Guidecca, felly yn aml iawn ar ôl gwaith roeddem yn dal y vappereta (tacsi dŵr) agosaf ac yn mynd i gwrdd a'r Gwyddelod, Albanwyr ac ati yn ardal St. Marco.

O fewn yr wythnos gyntaf roeddwn wedi creu ffrindiau eraill o Bafiliwn Singerapre ac Awstralia. Cwrddais ag unigolion o sawl gwlad wahanol ac roedd y profiad o ddod i adnabod yr unigolion yma yn brofiad bythgofiadwy.

Un o'm gofidiau cyn mynd oedd fy mod yn mynd i'weld hi'n anodd gwneud ffrindiau, ond o fewn awr o ddod i nabod fy nghyd-weithwyr roeddwn yn gwybod fy mod mewn cwmni da.

Roedd pawb yn gyfeillgar iawn, yn enwedig y ddynes mewn oed oedd yn byw gyferbyn a'r oriel.

Pan oedd y tywydd yn oeri byddai'n dod draw a chwpaned o grapa poeth i ni, ac er nad oedd hi'n deallt 'ru'n gair o Saesneg a finnau'n methu siarad fawr o Eidaleg roeddem yn dod ymlaen yn dda iawn gyda'n gilydd.

Roedd ein llety'n plesio'n fawr, dim ond pum munud oedd e o'r oriel ac mewn lle tawel, er ambell i dro buaswn yn dod ar draws `boy racers' yn eu cychod cyflym!

Ar y dechrau roeddwn yn gweld hi'n rhyfedd iawn i godi yn y bore i olygfa o gamlesi a mor yn hytrach na chaeau gwyrdd y Graigwen. Ond o fewn amser byr roeddwn wedi setlo mewn yn iawn, a doedd Fenis ddim mor ddieithr.

Bellach rwyf nôl gartref ac mae'r ffaith fy mod wedi bod allan yn Fenis yn deimlad swrreal av yn anodd ei gredu.

Mae'r daith wedi bod yn un fythgofiadwy a dwi'n diolch o galon i Gyngor Celfyddydau Cymry am y cyfle.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy