BBC HomeExplore the BBC

LLUN
28ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Plu'r Gweinydd
Aelodau o bwyllgorau'r Eisteddfod Genedlaethol Cau Pen y Mwdwl
Tachwedd 2003
Daeth aelodau o bwyllgorau'r Eisteddfod Genedlaethol at ei gilydd am un tro arall i swper ffarwelio yn y Royal Oak - ffarwelio â Hywel Wyn Edwards a'i staff sy'n symud i Gaernarfon. Llwyddodd Nest Davies, un o lywyddion anrhydeddus yr Eisteddfod, i grynhoi ein teimladau i gyd wrth i'r wythnos anhygoel brysur droi'n atgof.

Wel, dwedwch i mi, sut oedd Eisteddfod Mathrafal...
Y gair sydd yn odli wrth gwrs yw di-hafal.

Dihafal y safle ar lan yr Efyrnwy,
Dihafal y gwres, all neb wadu hynny.

Ond doedd pethe ddim cystal yn oerni y gaea'
Ar gwaith paratoi yn wir ar ei dryma.

O ble daw yr arian... y symiau di-ddiwedd,
Roedd hyd yn oed Glyn yn dechre cnoi'i winedd.

A beth am y traffig jams fydd yn siwr wrth bont Newbridge
A'r ceir fydd yn ciwio o Feifod i Nantwich.

Yn wir, roedd y trefnydd yn boenus am hydoedd
Ac yn cerdded ei gi yn benisel drwy'r strydoedd.

Ond roedd Margaret yn hapus 'n ei swyddfa fachglyd,
Yn ddoeth, yn cau allan holl boenau y byd.

Ar côr, bobl bach, yr holl ffys a ffwdan
"Ddysgwn ni mono byth" - roedd pawb yn darogan.

Ac am gae yr Orsedd roedd Tref yn gofidio
Fyddai'r cylch wedi glasu, fyddai'r gowns wedi'u smwddio?

Ond fe ddaeth y gwanwyn a'r gwcw i diwnio
A phwyllgore'r Eisteddfod i gyd 'di adfywio.

Roedd Hywel a'i gi yn sboncio yn heini,
A Glyn yn cael pawb fynd yn ddwfn i'w pocedi.

Ac yng nghylch yr Orsedd fe dyfodd y gweirie,
A thenoriaid y côr wedi dysgu eu node!

Ar merched yn grand yn eu sgertie a'u blowsus
A phob un o'r dynion 'di ffitio i'w drowsus.

Er mae'n dipyn o fenter cael un off the peg
A'r dynion heb wybod eu size inside leg.

Roedd compiwtars y swyddfa yn boeth, bron yn fflamie
A Bryn yn chwys domen yn gwerthu tocynne.

Ond trodd y tywydd yn wlyb yn niwedd Gorffenna'
Ac aeth pawb ar ei linie i ofyn am hindda.

Ac roedd rhywun yn rhywle wedi clywed y cwyno
Ac anfon fath dywydd wnaiff neb fyth anghofio.

Ac yno'n y lle sydd yr hardda i'w nabod
Y cawsom ni Steddfod i'w chofio ym Meifod.

Y traffig yn llifo yn hollol ddi-dramgwydd
A phawb yn eu hwylie oherwydd y tywydd.

Yn canmol trefniade, yn canmol y cyfan,
A neb, neb yn cwyno ie dim Gwilym Owen.

A phawb fu yn holi ble, ble, ble mae Meifod
Yn cyhoeddi yn glir, dyma lle hardda'i nabod.

Ac yn sylwi yn syn ein bod ni'n y Gororau
Yn dal yma o hyd a thân yn ein bolie.

A Saeson y Trallwm i gyd yn cydnabod
Llwyddiant anhygoel "that Welsh thing in Meifod".

Wel diolch i chi gyd fu mor ddygn yn gweithio,
Can ddiolch gan un wnaeth fawr ddim ond enjoio.

A Hywel a'ch staff wrth droi draw am Gaernarfon
Ewch gyda'n diolch yn cynhesu eich calon.

Gobeithio yn wir y bydd Eisteddfod Mathrafal
Yn byw yn eich cof fel Steddfod ddi-hafal.

Nest Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy