BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Plu'r Gweinydd
Pobl yn canu emyn O'r Gorlan
Mehefin 2010
Gwyndaf Roberys sy'n talu teyrnged i rai o emynwyr gorau Cymru.

Er mai enwad bychan a fuom erioed rydym fel Wesleaid yn ymfalch'io yn yr emynau a gyfansoddwyd ac a gyfieithwyd gan rai a fu'n weinidogion yma yn ein plith yng Nghymru.

Braf yw gallu talu teyrnged i ddau sy'n dal yn sionc a chynhyrchiol, y gwelir ffrwyth eu hawen ysbrydol yn Caneuon Ffydd, sef y Parchedigion Tudor Davies ac E H Griffiths.

Meibion yr ugeinfed ganrif yw'r ddau fel yn wir oedd y diweddar Barch. Gwilym R Tilsley.

Gwelodd olygyddion Caneuon Ffydd yn dda i gynnwys saith o emynau Mr Tilsley yn eu cyfrol.

Mae Mawl i Dduw am air y cymod a'r garol Dyma'r dydd i gyd-foliannu ymhlith emynau gorau'r ugeinfed ganrif yn fy nhyb i.

Daeth tri arall o emynwyr nodedig o Sir Drefaldwyn. Y cynharaf ohonynt oedd Thomas Oliver (1725-99) o Dregynon.

Daeth dan ddylanwad pregethu George Whitfield ac ymuno gyda'r Methodistiaid gan ddod yn weithiwr i John Wesley fel golygydd cynorthwyol Fr Armenian Magazine.

Cyfieithwyd ei emyn mawr i'r Gymraeg ac er nad oes cymaint o ganu arno, mae rhywun yn cael ei daro gan urddas emyn 113 yn Caneuon Ffydd sef Duw Abram, molwch ef.

Un o Lanfyllin oedd John Bryan (1776-1856) a chafodd yrfa liwgar fel gweinidog ac yn y diwedd fel grocer yng Nghaernarfon.

Cyfieithodd lawer o emynau'r brodyr Wesley ac fe welir nifer dda ohonynt yn yr hen Lyfr Emynau.

Cyfieithiad o emyn Charles Wesley sydd yn Caneuon Ffydd (572) ac mae'n enghraifft dda o'i ddawn.

Un o weinidogion mwyaf (liwgar ei ddydd oedd Cadfan - John Cadvan Davies (1846-1923) o Bennantwrch.

Ef oedd y cyntaf o weinidogion yr enwad i ddod yn Archdderwydd er na chafodd fawr o amser yn y swydd gan iddo farw yng Nghroesoswallt yn 1923, y flwyddyn y daeth i'w swydd.

Bu'n flaengar fel arweinydd ac etholwyd of yn Llywydd y Gymanfa yn 1910.

Diddorol yw nodi y bu'n un o olygyddion Llyfr Emynau'r Wesleaid (1910) a gwelir 31 o'i emynau yn y gyfrol honno.

Un emyn o'i eiddo yn unig sydd yn Caneuon Ffydd sef rhif 648. Ychydig o ganu, os o gwbl, fu ar ei emyn gan mai ar gyfer ordeinio gweinidogion y bwriadwyd ef.

O ystyried man geni'r emynwyr hyn gellir yn fras honni mai cynnyrch siroedd dwyreiniol Cymru ydynt oll.

Mae hynny yn hollol wir yn hanes y diweddar Barch. Arthur LI Williams (1910-83).

Un o blant Coedpoeth oedd ef ac eleni mae'n briodol nodi mai yn 1910, sef can mlynedd yn ôl y ganwyd ef.

Bu'n weinidog mewn naw cylchdaith gan dreulio ei amser yn bennaf yn y gogledd ar wahan i un tymor yn Nhreorci.

Nid yw pob emynydd o angenrheidrwydd yn fardd da ac yn sicr nid yw pob bardd yn gallu bod yn emynydd da ond roedd y Parch. Arthur Williams yn gyfuniad perffaith o fardd ac emynydd.

Gellir gweld ei ddawn fel telynegwr yn y gerdd Y Gors, a gafodd ei gwobrwyo yn Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 1958.

Llwyddodd yn rhyfeddol i gynnal y darlun o ddirywiad crefyddol drwy'r gerdd ac mae geiriau olaf y delyneg yn ysgytwol o gyfoes ... a phererinion, heb na ffordd na fflam / yn suddo yn y gors, a'r nos yn ddu.

Credaf fod ei ddau emyn yn Caneuon Ffydd yn berlau er bod absenoldeb At bwy yr awn mewn dyddiau dwys a Ti a roddaist air y cymod wedi tlodi'r gyfrol.

Tybed er hynny nad emyn 611 yn Caneuon Ffydd sef Beth yw'r tristwch sydd yn cerdded yw'r un sy'n cynnwys orau'r gwirionedd am ein cyflwr cyfoes ac ar yr un pryd yn gosod her i bob un ohonom?

Wrth ymweid a gwahanol gynulleidfaoedd o dro i dro, y geiriau mwyaf priodol i ddisgrifio eu cyflwr yw tristwch a llesgedd.

Gall pob un ohonom gynnig rhyw fath o esboniad am y sefyllfa y cawn ein hunain ynddi and ai syllu yn barhaol ar ein bogel yw'r ffordd ymlaen?

Nid oes fawr bwrpas chwaith mewn hiraethu am y gogoniant a fu.

Wedi'r cyfan, ymlaen mae Canaan i bob un ohonom.

Gwaith arweinyddion ein heglwysi, yn weinidogion a Ileygwyr, yw cyhoeddi bod buddugoliaeth Duw dros bob gelyn yn sicr a bod nerth i'w gael trwy ei ras.

Yn bennaf oll, dylem gyhoeddi bod Cariad achubol Crist ar gael ac nad oes diwedd arno.

Mae'r Parch. Arthur Williams yn dal i lefaru wrthym yn ei her inni i lawenhau, atgyfnerthu a gorfoleddu.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy