BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Plu'r Gweinydd
Gwithdai roc Sêr Pop y Dyfodol
Mehefin 2006
Menter Iaith Maldwyn a'r Urdd yn cynnal gweithdai er mwyn hybu sêr roc Cymraeg y dyfodol.

Ers dechrau mis Chwefror eleni mae criw o gerddorion ifainc wedi bod yn dod at ei gilydd bob nos Fawrth ar ôl ysgol yn Llanfair Caereinion i gymryd rhan mewn gweithdai roc a pop a drefnwyd ar y cyd gan Fenter laith Maldwyn a'r Urdd.

Roedd tri thiwtor profiadol o Gwmni Roced yng ngofal y gweithdai sef Huw Owen (sy'n aelod o Kentucky AFC), Steve Roberts (aelod o'r 'Radio Flyers') a Dr Joanna Richards sy'n ddoctor mewn cerddoriaeth.

Rhai o selogion y gweithdai oedd aelodau'r grŵp 'Gwiber' sydd bellach wrthi'n gwneud gigs ar draws y Canolbarth ac sydd wedi datblygu llawer ers eu perfformiad cyhoeddus cyntaf yn Llanrhaeadr ym Mochnant y llynedd! Wrth wrando arnynt yn chwarae yn ddiweddar mae'n amlwg eu bod wedi elwa o sylwadau'r tiwtoriaid ac mae ôl ymarfer ar eu caneuon.

Mae yna griw o ferched hefyd wedi bod yn rhan o'r bwrlwm ac maent wedi recordio deunydd dan yr enw 'Hairband'. Er gwaethaf eu diffyg profiad, mae'r gwaith ar y CD yn swnio'n addawol iawn. Sticiwch ati, mae'r siartiau yn aros amdanoch!

Hoffai Menter Maldwyn ddiolch i Gronfa Pobl Ifanc 'Dyma Dy Gyfle' am ariannu'r prosiect ac i Mrs Heulwen Davies o'r Adran Gerdd Ysgol Uwchradd Caereinion am leoliad i gael cynnal y gweithdai.

"Gobeithio mai dim and dechreuad yw'r gweithdai yma a byddai'n braf cael grwpiau ifanc yn ffurfio o gwmpas Maldwyn a gweld sîn leol yn datblygu a chael grwpiau Cymraeg a Chymreig i ddod i Faldwyn i wneud gigs." medd Euros Richards o Fenter Maldwyn.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy