BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Plu'r Gweinydd
Heulwen Davies Heulwen yn ennill y tlws
Mehefin 2004
Heulwen Davies o Ddolanog yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes am 2004.


Mae Heulwen wedi bod yn arweinydd corawl Aelwyd Penllys ers dros bymtheg mlynedd bellach ac yn ystod y cyfnod hwnnw daeth y côr cymysg mawr a bach, y côr meibion a'r parti merched i'r brig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sawl tro.

Fe ddyfernir Tlws John a Ceridwen Hughes yn flynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru. Noddir y tlws yma yn flynyddol gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu rhieni gan mai ieuenctid a'u datblygiad oedd eu diddordeb mawr. Anrhydeddir gwaith ieuenctid gwirfoddol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg sy'n waith wyneb yn wyneb â phobl ifanc dros 11 oed a thu allan i gyfundrefn addysg ffurfiol.

Heulwen wedi rhoi dros bymtheg mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i ddiwylliant Cymraeg yr ardal ers i arweinydd diwethaf côr Aelwyd Penllys Tegwyn Jones, roi'r gorau iddi yn 1988. Mae'r côr wedi cynnal sawl cyngerdd, cymryd rhan mewn nosweithiau llawen a chystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol ers hynny. Tan y llynedd roedd y côr wedi ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ddi-dor ers 1989 - ond maen nhw'n dawel hyderus y byddan nhw ar lwyfan yr Eisteddfod ym Môn ddiwedd yr wythnos hon!

Bellach mae Heulwen yn Bennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, ac mae'n olynu Shân Cothi a Linda Gittins a fu'n benaethiaid yr adran o'r blaen. Mae'n briod â Selwyn ac yn fam i bedwar o fechgyn, Carwyn, Rhys, Gerallt a Rhodri.

Cynhaliwyd Seremoni Tlws John a Ceridwen Hughes nos Lun, 31 Mai ar lwyfan Pafiliwn a Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ynys Môn 2004.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy